Teithiau dywysedig dan ddaear yn Dolaucothi

Neidio i
Mae Mwynfeydd Aur Dolaucothi yn Sir Gaerfyrddin yn unig fwynglawdd aur Rhufeinig hysbys yn y DU. Archwiliwch Fwynglawdd Fictoraidd neu’r Fwynglawdd Daith Wastad dan y ddaear drwy daith dywys y gellir ei harchebu.
Taith Fictoraidd
Taith Fictoraidd yn archwilio ein hanes o gyfnodau hynafol i gau Dolaucothi am y tro olaf fel mwynglawdd aur ar waith yn 1938.
Fe gewch het galed a lamp yn barod am ran danddaearol y daith.
Mae angen esgidiau cadarn sy’n gorchuddio’r traed, a chewch eich gwobrwyo am fod yn anturus!
Disgrifiad; Taith Dywys Dan Ddaear o Fwynglawdd Drifft Tywyll
Hyd; Awr
Llwybr; Iard y mwynglawdd i Fwynglawdd Mitchell ac yn ôl. Tua 0.6 KM.
Tir; Grisiau serth i fyny (dim rheilen) ac i lawr. Llwybr carregog.
Lle ar gyfer; 16
Cyfyngiadau; Dim cŵn, dim plant dan 1M o daldra (fel arfer tua 5 oed)
Archebu tocyn; Taith Fictoraidd

Y Daith Wastad
Gyda mynediad gwastad i fwynglawdd, yn syth oddi ar iard y mwynglawdd a dim grisiau i’w dringo. Mae’r daith hon yn addas ar gyfer pobl gyda rhai problemau symudedd, a rhai mathau o gadeiriau olwyn a chymorthion cerdded.
Profiad mewn mwynglawdd tywyll yw hwn, bydd angen het galed a lamp (byddwn ni’n eu rhoi i chi), ac esgidiau cadarn sy’n gorchuddio’r traed.
Cadwch lygad am rai nodweddion mwyngloddio unigryw, megis ein Cnocwyr a’r Cricers, a rhai rhannau o Aur Ffyliaid!
Disgrifiad; Taith Dywys Dan Ddaear o Fwynglawdd Tywyll
Hyd; 30 munud
Llwybr; Iard y Mwynglawdd i fwynglawdd llawr gwastad ac yn ôl.
Tir; Mynediad rhwydd a gwastad i’r mwynglawdd, dim grisiau
Lle ar gyfer; 6
Cyfyngiadau; Dim cŵn, dim plant dan 1M o daldra (fel arfer tua 5 oed)
Archebu tocyn; Y Daith Wastad
Archebwch eich taith danddaearol
- Rhaid archebu lle ymlaen llaw ar gyfer y Daith Mwynglawdd Fictoraidd a’r Daith Mwynglawdd Gwastad.
- Caiff slotiau amser eu rhyddhau bob dydd Iau ar gyfer y pythefnos canlynol.
- Sylwer: rhaid i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau dalu ar gyfer teithiau dan Mwynglawdd Fictoraidd a’r Mwynglawdd Gwastad.
- Archebwch un tocyn y pen, ac eithrio ar gyfer plant dan 5 oed oherwydd ni fyddant hwy angen tocyn (ond sylwer: am resymau diogelwch, ni chaniateir i blant dan 1 medr o daldra – oddeutu 5 oed fel arfer – fynd i mewn i’r mwyngloddiau eu hunain.
- Cyrhaeddwch 15 munud ynghynt er mwyn cael offer angenrheidiol a gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch.
- At eich defnydd chi yn unig fydd y tocynnau ac ni fyddant ar gael i’w hailwerthu.
- Byddwn yn cadarnhau’r archeb trwy e-bost. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich cyfeiriad e-bost cywir pan fyddwch yn archebu, er mwyn sicrhau y cewch gadarnhad trwy e-bost.
Archebu eich ymweliad
Cadarnhewch fod lle ar gael ac archebwch eich ymweliad â Dolaucothi.
Os oes problem neu os na allwch gael mynediad i’r broses archebu ar-lein, ffoniwch 0344 249 1895.
Newid eich archeb
Os gwnaethoch greu cyfrif wrth archebu, byddwch yn gallu newid dyddiad/amser eich archeb ar-lein hyd at 24 awr cyn dyddiad eich ymweliad, neu drwy ffonio 0344 249 1895.
Os ydych chi am fod ychydig yn hwyr ar y dydd, ffoniwch 01558 650177 a gadewch neges i’r tîm.
Ymweld gyda phlant
Sylwer, am resymau diogelwch, nid oes caniatâd i blant o dan 1m o daldra - sydd fel arfer tua 5 oed - fynd o dan y ddaear.
Rhaid i bob plentyn fod yn hapus i wisgo helmed ddiogelwch tra yn y mwyngloddiau, ac yn gallu cerdded heb gymorth.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Ewch i Ymweld â’r Mwynglawdd Aur yn Nolaucothi
Ewch i Ymweld â’r Mwynglawdd Aur yn Nolaucothi

Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.

Hanes Dolaucothi
Dechreuodd gwaith cloddio aur yn Nolaucothi o leiaf 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a daeth i ben ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Dysgwch fwy am unig gloddfa aur Rufeinig y DU.
