
Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae blagur y gwanwyn yn achlysur blynyddol sy’n rhoi’r cyfle i ni gysylltu â harddwch ac ystyr y gwanwyn ar ôl misoedd oerach, tywyllach, cysglyd y gaeaf.
Mae Dyffryn yn gartref i gymaint o wahanol fathau o flagur, ac yn y gwanwyn mae’r ardd gyfan yn ffrwydro â’r blodau bach bendigedig – y lle delfrydol i ddathlu tymor y blagur.
O 1 Mawrth – 31 Mai 2023, bydd Gerddi Dyffryn yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu dyfodiad y gwanwyn.
21 Ebrill – 26 Mai 2023
Rydym wedi dylunio canllaw ar dynnu lluniau yng Ngerddi Dyffryn, yn nodi’r llefydd gorau i dynnu lluniau ar yr adeg hon o’r flwyddyn ac yn rhoi cyngor ac awgrymiadau clyfar i’ch helpu i wella eich sgiliau ffotograffiaeth. Mae ein canllaw yn addas i bawb o bob gallu, a does dim angen camera arnoch chi hyd yn oed – bydd ffôn yn gweithio llawn cystal.
(Cofiwch rannu eich lluniau gyda ni gan ddefnyddio #BleMaerBlagur).
25, 27, 30 Ebrill & 1 Mai
11am, 12pm a 2pm
Os hoffech wthio’ch hun ychydig ymhellach gyda’ch ffotograffiaeth, dewch i’n gweithdai ffotograffiaeth.
Ymunwch â’n ffotograffydd preswyl, Glyn, am sgwrs arbenigol 20 munud o hyd sy’n trafod yr holl hanfodion. Bydd yn eich cyfeirio at y blagur gorau ac y dydd ac yn aros i gwmpas i’ch helpu i ymarfer ac ateb cwestiynau.
Does dim angen camera arnoch i gymryd rhan – mae croeso i chi ddefnyddio ffôn. Bydd y sgwrs wedi’i theilwra i ddiddordebau a gallu’r grŵp, fel y gallwch wneud y mwyaf o’ch ffôn neu gamera – o arbenigwyr i amaturiaid brwd, neu os ydych chi yn syml eisiau tynnu lluniau gwell gyda’ch ffôn.
11-11:30am, 28 Ebrill 2023
Dewch am daith o’r Berllan Dreftadaeth gyda’n Tyfwr Coed, Rory i weld ardal o Erddi Dyffryn sydd ddim fel arfer ar agor i’r cyhoedd.
Yn 2018 gwnaethom blannu perllan dreftadaeth yn un o’n caeau anghysbell, gan greu bwyd i beillwyr a sicrhau bod mathau Cymreig prinnach o goed afalau a gellyg yn parhau’n rhan o’n treftadaeth naturiol a diwylliannol fyw.
Dewch am daith o’r berllan hon gyda Rory; bydd yn esbonio treftadaeth benodol y rhywogaethau coed ffrwythau a phwysigrwydd y coed hyn i’n gwaith bioamrywiaeth a’n cynlluniau ar gyfer dyfodol y berllan.
Mae’r daith yn para 30 munud gyda chyfle i ofyn cwestiynau ar y diwedd – mae’r digwyddiad am ddim a does dim angen talu unrhyw ffioedd mynediad. (Os hoffech fynd i mewn i’r gerddi ar ôl daith, bydd angen talu’r pris mynediad arferol).
Rydym wrth ein bodd o allu dathlu’r tymor hwn o obaith a harddwch gyda chi yng Ngerddi Dyffryn eleni.
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Darganfyddwch pam fod Gerddi Dyffryn yn lle gwych am ddiwrnod allan i’r teulu gyda’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio eich ymweliad.