2017
Treialon y driniaeth cadwraeth
Dechreuwyd treialon y driniaeth cadwraeth. Aethpwyd â rhannau o’r gwely i stiwdio gadwraeth er mwyn eu hasesu’n drylwyr ac ystyried y gwahanol opsiynau wrth fwrw ymlaen.
Ers talwm, câi Gwely Swyddogol Tsieineaidd Erddig ei gadw ar gyfer gwesteion mwyaf breintiedig y cartref. Mae prosiect adfer a chadwraeth Erddig yn cynnig cyfle prin i ymwelwyr weld manylion cywrain y gwely – yr unig bobl a arferai weld y manylion hyn o’r blaen oedd y rhai a oedd yn ddigon lwcus i gysgu yn y gwely.
Ar ben y grisiau sy’n edrych dros yr ystad fe ddewch o hyd i Ystafell Wely Swyddogol Erddig, sef ystafell a gâi ei neilltuo ers talwm ar gyfer gwesteion mwyaf nodedig y cartref.
Mae’r ystafell wely wedi’i haddurno â phapur wal Tsieineaidd a baentiwyd â llaw ac mae’n cynnwys math prin o wely a elwir yn wely ‘lit a duchesse’ neu’n wely gortho ‘angel’ sy’n dyddio i’r flwyddyn 1723.
Arferai tecstilau sidan Tsieineaidd brodiog hongian ar y gwely; gorchudd gwely a falansiau, gordo â falansiau a llenni, y cwbl wedi’u gwneud o sidan gwyn ac wedi’u brodio â ffigyrau Tsieineaidd, pagodâu, adar a blodau.
Ond erbyn 1968, roedd y gwely mewn cyflwr gwael iawn ar ôl degawdau o ymsuddiant a barodd i ddŵr fynd i mewn i’r ystafell ac ar y gwely. Achubwyd y gwely gan Amgueddfa Fictoria ac Albert, Llundain rhag cael ei ddifetha’n llwyr. Ers i’r gwely gael ei ddychwelyd i Erddig ym 1977, ni chyffyrddwyd o gwbl ag ef ac eithrio un ymyriad bach ym 1995.
Yn anffodus, fe wnaeth adroddiadau mwy diweddar dynnu sylw at gyflwr gwael y gwely ar ôl i’r driniaeth a roddwyd ym 1968 fethu â gweithio. O ganlyniad, yn 2019 rhoddodd tîm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol brosiect cadwraeth chwe blynedd ar waith i adfer y gwely. Yn garedig ddigon, ariannwyd y gwaith hwn gan Sefydliad Wolfson.
Roedd y llenni sidan Tsieineaidd brodiog wedi dechrau rhwygo a rhaflo, felly treuliodd arbenigwyr tecstilau 1200 o oriau yn eu glanhau a’u trwsio. Cafwyd gwared â hen waith trwsio a oedd wedi gweld ei ddyddiau gwell a gosodwyd brodwaith a darnau sidan rhydd yn ôl yn eu lle yn ddiogel.
Ers mwy na 300 mlynedd, dim ond trwy sgrin wydr y bu modd gweld y llenni yn yr Ystafell Wely Swyddogol. Ond yn awr, gwahoddir ymwelwyr i fynd i weld manylion cywrain y llenni sidan brodiog Tsieineaidd hyn a gaiff eu harddangos yn yr Ystafell Brintiadau.
Gan mai pobl sydd wrth galon a chraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, roedd Erddig yn awyddus i sicrhau bod modd i ymwelwyr allu dilyn hynt y gwely wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.
Yn ôl Susanne Gronnow, Curadur Eiddo Erddig, “Gwelais y gwely am y tro cyntaf fwy nag 20 mlynedd yn ôl. Ond gan ei fod mor frau, dyma’r unig wrthrych yn Neuadd Erddig y mae arbenigwyr allanol wastad wedi gofalu amdano. Felly, hyd nes i’r llenni gael eu harddangos, doeddwn i hyd yn oed erioed wedi gweld y manylion yn ddigon agos i werthfawrogi eu harddwch.
Rydw i’n annog ein hymwelwyr i dreulio amser yn sylwi ar y manylion, yn cynnwys y peunod – dim ond o ochr isaf y canopi y gellid eu gweld o’r blaen ac roeddynt fel pe baent yn hofran uwchben y sawl a oedd yn cysgu.”
Cynlluniwch eich ymweliad nesaf er mwyn gweld yr arddangosfa drosoch eich hun.
2017
Dechreuwyd treialon y driniaeth cadwraeth. Aethpwyd â rhannau o’r gwely i stiwdio gadwraeth er mwyn eu hasesu’n drylwyr ac ystyried y gwahanol opsiynau wrth fwrw ymlaen.
Saved from ruin, Erddig is a rare survivor teeming with treasures. From servants’ portraits to fine furnishings, discover the top things to see and do when you visit the house.
Erddig has the second largest collection of items in the whole of the National Trust. With a total of 30,000 to care for, it's no mean feat for the house team of conservators and volunteers. We’re an accredited museum too.
Find out about the High Sheriff who lived beyond his means when he built Erddig, the rich London lawyer who extended and redecorated it and 240 years of the Yorke family.
Why did the Yorkes remember their staff in pictures and poems? Discover a day in the servants’ lives at Erddig and learn why a housekeeper ended up in court.