Skip to content

Ymweld â'r ardd Erddig

Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig
Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig | © National Trust Images/Paul Harris

Dewch i weld gardd o’r 18fed ganrif wedi ei hadfer yn llwyr yn Erddig, gardd wedi ei ffurfio gan gynlluniau John Meller. Cyfreithiwr cyfoethog o Lundain oedd Meller, ac fe brynodd Erddig yn 1714. Heddiw gallwch weld llaweroedd o goed ffrwythau, yn union fel yr oeddent yng nghynlluniau gwreiddiol Joshua Edisbury ar gyfer yr ardd yn yr 1680au. Fe welwch amrywiaeth eang o goed ffrwythau yn yr ardd hon sydd yn Rhestredig Gradd 1, a blannwyd yn ystod yr adferiad.

Disgleirdeb y gwanwyn yng ngardd Erddig

Dewch i fwynhau sioe orau byd natur yng ngardd furiog 13.5 acer Erddig wrth i donnau o ddisgleirdeb y gwanwyn oleuo’r ardd.

Eirlysiau

Yn agor y sioe mae'r eirlysiau a welir mewn clystyrau ar ochr orllewinol y neuadd ac ar hyd Y Llwybr Mwsog yn yr ardd furiog. Mae cannoedd yn tyfu yn yr ardd de, felly beth am fachu rhywbeth cynnes o’r bwyty i fynd gyda chi er mwyn cael mwynhau’r blodau gwyn bregus hyn?

Cennin Pedr

Y nesaf yw’r cennin Pedr, symbol o Ddydd Gŵyl Dewi yng Nghymru. Mae eu fflam lachar o flodau melyn sigledig yn trawsnewid glannau camlas yr ardd ac yn llonni unrhyw dro hamddenol o amgylch yr ardd yn y gwanwyn.

Cadwch lygad am y Narcissus poeticus, y math persawrus ar ffurf llygad ffesant sy’n blodeuo’n hwyr, gyda’i betalau gwyn urddasol a chwpan rhimyn oren. Byddwch yn ei weld yn tyfu rhwng y coed afalau a’r coed conigol yn y perllannau.

Coed Blodeuog

Bob blwyddyn, rydyn ni’n aros yn eiddgar am y tymor blodeuo. Yn Erddig, cawn wledd o fagnolia, ceirios, gellyg ac afalau drwy’r ardd, y perllannau ac ar hyd waliau’r ardd.

Y blodau cyntaf y gallwch ddisgwyl eu gweld yw blodau’r coed ceirios yn gynnar ym mis Mawrth, sydd i’w gweld wrth y fynedfa i’r ardd ger y pwll pysgod. Mae adlewyrchiad y petalau pinc yn y dŵr yn drawiadol iawn. Yn fuan wedyn, mae’r blodau eirin gwlanog yn blodeuo rhwng canol a diwedd Mawrth. Cadwch lygad am y blodau yn eu siapiau bwaog ar hyd a lled y borderi. Gallwch ddisgwyl gweld blodau coed gellyg yn fuan ym mis Ebrill, gyda blodau coed afalau yn ymddangos ddiwedd mis Ebrill. Mae’r tymor blodeuo fel arfer yn dod i ben yn hwyr ym mis Mai, yn dibynnu ar y tywydd.

Mae Gwledd y Gwanwyn yn ffordd hyfryd o gymryd hoe a phrofi llawenydd y gwanwyn wrth iddo flodeuo o’n cwmpas. Beth am ymuno drwy fynd am dro o amgylch yr ardd yn yr ychydig fisoedd nesaf, a rhannu eich lluniau drwy ddefnyddio #GwleddyGwanwyn

Tegeirianau brych

Wrth i’r gwanwyn o’r diwedd droi’n haf, mae tegeirianau gwyllt i’w gweld yn blodeuo yn y dolydd ar hyd glannau’r gamlas. Bob gwanwyn mae Glyn Smith, Prif Arddwr Erddig yn cyfri’r tegeirianau brych ac yn cofnodi eu niferoedd.

Oedolyn a dau blentyn yn edrych ar diwlipau’r gwanwyn yn yr ardd yn Erddig, Wrecsam
Uchafbwyntiau’r gwanwyn yn Erddig | © National Trust Images/John Millar

Pethau i’w gweld yn yr ardd yn Erddig

Yn awr mae Erddig yn tyfu mwy na 180 o fathau gwahanol o goed afalau sy’n arwain at ddathliad mewn cynhaeaf afalau blynyddol bob Hydref. Byddai gardd Edisbury wedi ffitio ym muriau gardd John Meller 12 gwaith!

Gardd at bob tymor

Trwy gydol y flwyddyn, mae llwybrau graean o gwmpas yr ardd furiog yn gadael i ymwelwyr fwynhau’r golygfeydd heb fynd yn rhy fwdlyd na gwlyb ac mae traed bach yn mwynhau’r sŵn crenshiog boed law neu hindda.

Ceir lawntiau eang yn Erddig, coed ffrwythau hyfforddedig, borderi blodau blynyddol bywiog, rhodfeydd o bisgwydd plethedig, gwrychoedd ffurfiol, coed tocwaith conig, casgliad pwysig yn genedlaethol o iorwg ac arddangosfa parterre Fictoraidd sy’n newid ddwywaith y flwyddyn fel arfer.

Pisgwydd pleth

Mae rhodfeydd dwbl y pisgwydd pleth yn nodwedd anhygoel yma yn Erddig. Mae’r coed yn creu ‘wal fyw’ ac maent yn arwydd o leoliad border muriog gwreiddiol yr ardd Gradd I, a gafodd ei ddymchwel yn ddiweddarach.

Maent yn blaguro oddeutu mis Ebrill – arwydd pendant bod y tywydd yn cynhesu.

Caiff y rhodfeydd pisgwydd pleth eu tocio â llaw. Mae’r gelfyddyd hynafol hon, y gellir ei holrhain i gyfnod y Rhufeiniaid, yn golygu cysylltu canghennau â’i gilydd i greu llwybr cysgodol i fynd am dro.

Byddai garddwr medrus angen oddeutu 10 wythnos (tua deufis a hanner) i gwblhau’r dasg ar ei ben ei hun, gan wneud oddeutu 65,000 o doriadau – ond diolch i’r drefn, mae gennym griw bach o bobl wrth law i fynd i’r afael â’r her anferth hon!

Y Parterre

Gellir dod o hyd i’r parterre Fictoraidd yng nghefn y tŷ. Credir ei fod wedi’i osod yn wreiddiol oddeutu 1861, ond roedd wedi tyfu’n wyllt pan ddaeth yr eiddo i ddwylo Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn y 1970au. Gan ddefnyddio hen luniau a thystiolaeth archaeolegol, aeth yr Ymddiriedolaeth ati i adfer yr ardal hon i’r hyn a welir heddiw.

Mae’r cynllun plannu yn newid gyda’r tymhorau. Disgwyliwch weld carped o diwlipau lliwgar yn y gwanwyn a phansïau yn y gaeaf.

Nodwedd ddŵr y gamlas a’r pwll

Crëwyd y gamlas ganolog yn y ddeunawfed ganrif a chaiff ei hamgylchynu gan flodau gwyllt a rhodfeydd dwbl y pisgwydd, y credir iddynt gael eu plannu oddeutu 1800.

Yn y gwanwyn, mae glannau’r gamlas yn fôr o flodau gwyllt, cennin Pedr, saffrymau a briallu, ac wrth i’r gwanwyn droi’n haf gellir gweld tegeirianau brych pinc, a gofnodir gan dîm yr ardd.

Lleolir y pwll pysgod gerllaw. Yn y ddeunawfed ganrif, roedd yn darparu bwyd i’r rhai a arferai fyw yn y tŷ. Cadwch olwg am y coed ceirios pinc yn y gwanwyn, lilïau’r dŵr yn niwedd y gwanwyn a’r haf, a’r masarn sy’n arbennig o hardd yn yr hydref.

Gallwch ddisgwyl gweld llawer o fywyd gwyllt yma, yn cynnwys elyrch, gwyddau Canada, cwtieir a charp.

Ym mhen pellaf y gamlas ceir clwydi haearn gyr – daethant i Erddig o Barc Stansty yn nechrau’r 1900au. Fe’u priodolir i Robert Davies a chawsant eu gosod yn eu lleoliad presennol yn y 1970au pan ddaeth yr eiddo dan ofal yr Ymddiriedolaeth.

Coeden flodau ceirios pinc yn yr ardd yn Erddig, ger y pwll pysgod
Coeden flodau ceirios pinc yn yr ardd yn Erddig, ger y pwll pysgod | © National Trust Images/Paul Harris

Yr ardd rosynnau

Mae’r ardd furiog hon yn llecyn hardd, o’r neilltu gyda chlwydi sy’n arwain at yr ardd, y parterre ac wyneb gorllewinol yr eiddo. Mae’r gwelyau crwm yn cynnwys bylbiau a phlanhigion blodeuol, rhosynnau fel rosa centifolia, coed a rhosynnau dringo. Oddeutu mis Ebrill, cadwch lygad am y clematis montana ‘Grandiflora’.

Eisteddwch ar un o’r meinciau, ymlaciwch gyda llyfr a mwynhewch y peraroglau bendigedig o’ch amgylch.

Yr ardd Fictoraidd a’r llwybr coed yw

Un o nodweddion trawiadol gardd Erddig yw’r coed yw Gwyddelig a blannwyd oddeutu 1865. Maent yn creu rhodfa fendigedig sy’n arwain at yr ardd Fictoraidd lle gwelwch rosynnau, clematis a chafnau’n llawn lliwiau tymhorol.

Ym misoedd yr haf, cadwch lygad am y rosa spectabilis pinc golau a dyfir trwy ddefnyddio catena, sef rhaff grom sy’n annog y rhosyn i hongian rhwng dau bwynt. Caiff y rhosynnau eu tocio yn y gaeaf, a bydd y garddwyr yn cadw dau goesyn ar bob ochr i’w cyfeirio ar y rhaffau er mwyn creu’r effaith grom hon.

Wyneb Gorllewinol yr Eiddo

Bydd pobl sy’n ymweld ag Wyneb Gorllewinol yr eiddo yn sylwi ar yr eiddew ‘Boston Creeper’ – Parthenocissus tricuspidate, sy’n troi ddiwedd y gwanwyn o fod yn wyrdd i fod yn ysgarlad ysblennydd, ac yna’n rhuddgoch tywyll yn yr hydref.

Rhwng 1767-89, comisiynwyd Williams Emes gan Philip Yorke I i dirlunio’r rhan hon o’r ystad. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar y dolydd, plannu coed ac adeiladu rhaeadr y ‘Cwpan a’r Soser’, y gallwch ei gweld wrth gerdded ar yr ystad.

Cadwch lygad am goeden ifanc a blannwyd gan y Brenin Siarl II ym mis Rhagfyr 2022 fel rhan o’n Canopi Gwyrdd. Fe wnaeth Ei Fawrhydi a Mark Drakeford, sef Prif Weinidog Cymru ar y pryd, blannu coeden ifanc brin y llwyddwyd i’w himpio o dderwen hanesyddol Pontfadog, a syrthiodd mewn storm yn 2013.

Arferai derwen hynafol Pontfadog dyfu ar Fferm Cilcochwyn, ger y Waun, Wrecsam, a bu cenedlaethau o’r teulu Williams yn gofalu amdani. Y gred oedd mai hi oedd un o’r coed derw mwyaf a hynaf yn y byd.

Yn 2013, llwyddodd Ystad y Goron i luosogi derwen wreiddiol Pontfadog, gan blannu coeden ym Mharc Windsor. Yna, llwyddwyd i impio pump o goed derw Pontfadog trwy ddefnyddio’r goeden hon; rhoddwyd tair ohonynt yn rhodd i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae’r ddwy arall dan ofal Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Plannwyd y goeden ifanc er cof am Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ac er anrhydedd iddi.

Llefydd i orffwys yn yr ardd

Yma ac acw ar hyd y llwybrau fe welwch chi seddi a chilfachau i eistedd a gorffwys am ychydig. Cofiwch chwilio am y ddwy gilfach gudd i’r gogledd a’r de o’r parterre Fictoraidd, perffaith ar gyfer picnic.

Yn yr haf ac ar ddyddiau sych yn y gwanwyn a’r hydref, mae’r cadeiriau haul allan a gallwch ymlacio cyn hired ag y dymunwch, neu dewch â’ch blanced bicnic eich hun.

Grŵp o deithwyr yn teithio trwy ardd o flaen tŷ brics coch, yn cael eu harwain gan ddyn â ffolder coch.
Grŵp yn teithio trwy ardd o’r 18fed ganrif Erddig | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Teithiau awyr agored yn Erddig

Darganfyddwch gyfrinachau Erddig ar un o’n teithiau am ddim dan arweiniad tywyswyr gwirfoddol arbenigol.

Mae teithiau’n para tua 30 munud ac yn edrych yn fwy manwl ar amrywiaeth o bynciau, er enghraifft ein taith fwyaf poblogaidd, Trosolwg o’r Hanes, sy’n rhoi cyflwyniad cyffredinol i Erddig, a hanes taith yr ardd, taith yr Ystâd Weithio, a’r daith Cerbydau.

Cynhelir y teithiau awyr agored rhwng mis Mawrth a mis Hydref ac ar benwythnosau’n unig ym mis Tachwedd. Bydd dyddiadau ac argaeledd yn ddibynnol ar niferoedd y gwirfoddolwyr. Gwiriwch gyda’r swyddfa docynnau i ganfod a oes un yn cael ei chynnal ar ddiwrnod eich ymweliad.

Pethau i’w gwneud i deuluoedd yn yr ardd

Mwynhewch y llwybr teulu diweddaraf neu ticiwch nifer o’r gweithgareddau 50 o bethau i’w gwneud cyn bod yn 11¾ yn yr ardd. Gallwch yn hawdd wneud Rhif 8 Gweld pysgodyn neu Rif 31 Dewch i adnabod pry ac mae’r ardd yn berffaith ar gyfer Rhif 1 – Dewch i adnabod coeden.

Ymddiheurwn, ond ni chaniateir cŵn yn ein gardd Restredig Gradd 1, ond mae croeso iddynt ar yr ystâd 1,200 erw ac yn yr ardd de hyd at Iard y Domen.

Fau'r Blaidd

Anelwch i’r ardal chwarae naturiol, Ffau’r Blaidd, yn hwyr yn y gwanwyn ac fe welwch garped o graf gwyllt gwyn. Mae parcdir Erddig yn gorlifo o’r blodau gwyllt yma ac mae’r llwybr oren yn eich arwain trwy’r Coed Mawr i weld y llennyrch mwyaf ohonynt.

Y plasty o’r 18fed ganrif, ar draws y llyn yn Erddig, Cymru

Darganfyddwch fwy yn Erddig

Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Pink blossom over a pond at Erddig, Wrexham, North Wales

Dathlu blodau yn Erddig 

Ymunwch â ni i ddathlu’r blodau magnolia, ceirios, gellyg ac afal bregus sydd i’w canfod ym mhob cornel o’r ardd yn y gwanwyn. Treuliwch amser yn darllen y farddoniaeth wrth ei ochr a mwynhau’r arddangosfa blodau papur yn y tŷ.

1,200 erw o barcdir yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Crwydro parcdir Erddig 

Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Scarves and a handbag hung on coat pegs
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Erddig 

Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Yr ardd parterre o’r 18fed ganrif yn Erddig yng Nghymru ar ddiwrnod heulog ym mis Mai, gyda gwelyau blodau ffurfiol yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Erddig 

Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.