Skip to content

Hanes Erddig

Golwg o’r awyr o’r tŷ a’r ardd yn Erddig, Wrecsam
Golygfa o Neuadd Erddig o’r ochr draw i’r gamlas yn Erddig, Wrecsam | © National Trust Images/Paul Harris

Lleolir plasty Erddig ar sgarp dramatig uwchlaw Afon Clywedog ger Wrecsam. Yn y ddeunawfed ganrif, gwariodd y cyfreithiwr cyfoethog, John Meller, lawer o arian ar Erddig, fel y gwnaeth ei or-nai, Philip Yorke I, yn ddiweddarach. Ond erbyn y 1970au, roedd Erddig ar fin mynd â’i ben iddo. Eto i gyd, goroesodd. Am bron i 300 mlynedd, chwaraeodd y perchnogion, y gweision a’r morwynion, a’r crefftwyr ran hanfodol yn y gwaith o gyfoethogi’r ystad wledig hon yng Nghymru.

Hanes cynnar: dadlau dros dir

Yn yr wythfed ganrif, adeiladwyd Clawdd Wat er mwyn ffurfioli’r ffin rhwng teyrnasoedd hanesyddol Cymru a Mersia (Canolbarth Lloegr erbyn hyn). Clawdd pridd ydoedd yn bennaf, gyda ffos ar ochr Cymru. Gellir gweld rhai rhannau o’r clawdd ym mharc Erddig hyd heddiw.

Ar ôl y goncwest ym 1066, fe wnaeth y Normaniaid ddefnyddio Clawdd Wat i adeiladu castell tomen a beili, a elwid yn Wristleham.

Yr ail ganrif ar bymtheg: Adeiladu a methdalu - Joshua Edisbury

John Edisbury (c. 1608-1677) a brynodd ystad Erddig, ond ei fab hynaf Joshua (a fu farw c. 1718) a adawodd ei ôl arni.

Ym 1682, penodwyd Joshua yn Uchel-Siryf Sir Ddinbych. Y flwyddyn ganlynol, penderfynodd gomisiynu Thomas Webb, saer rhydd o Middlewich yn Swydd Gaer, i adeiladu tŷ newydd yn Erddig, ac yn fuan wedyn sefydlwyd gerddi ffurfiol.

Dechreuodd y gwaith ym 1684, ond buan iawn y cynyddodd y costau, gan fynd y tu hwnt i £8000. Erbyn diwedd y 1690au, roedd Joshua mewn dyfroedd ariannol dyfnion a dechreuodd fenthyca arian.

Benthyciad gan Elihu Yale

Un o’i gredydwyr oedd Elihu Yale, a wnaeth ei ffortiwn gyda Chwmni Dwyrain India fel Llywodraethwr Fort St. George, Madras (Chennai erbyn hyn). Cafodd Yale ei orfodi i adael Fort St. George ar ôl iddo gael ei gyhuddo o gamelwa a chyflawni llofruddiaeth; a phan ofynnodd i Joshua ad-dalu’r ddyled, cododd gyfraddau llog eithriadol o uchel a chwalodd eu cyfeillgarwch.

Ym 1709, cafodd Joshua Edisbury ei ddatgan yn fethdalwr a gadawodd Erddig am byth.

Darlun olew o John Meller, Meistr yr Uchel Lys Siawnsri.
Darlun olew o John Meller, Meistr yr Uchel Lys Siawnsri. | © National Trust Images/John Hammond

Y ddeunawfed ganrif: Gwelliannau John Meller

Penderfynodd John Meller (1665-1733), cyfreithiwr a Meistr y Canghellys, brynu Erddig ym 1714, ac erbyn 1716 ef oedd yr unig berchennog.

Estynnodd Meller y tŷ, gan ychwanegu adain tua’r gogledd a’r de. Creodd gasgliad o ‘ystafelloedd rhwysg’ ar hyd yr Wyneb Blaen Dwyreiniol, sy’n dal i fodoli hyd heddiw i raddau helaeth. Penderfynodd gomisiynu gwneuthurwyr o Lundain i greu tapestrïau, drychau mawr a gwely swyddogol ysblennydd wedi’i orchuddio gan sidan brodiog o Tsieina. Hefyd, ychwanegodd Meller ardd ffurfiol gyda pharc difyrion helaeth.

Etifeddiaeth: y teulu Yorke

Ar ôl ei farwolaeth ym 1733, trosglwyddwyd y tŷ a’r ystad i ddwylo nai Meller, sef Simon Yorke (1696-1767), a briododd Dorothy Hutton (1717-87), etifeddes gyfoethog, yn ddiweddarach.

Simon oedd y cyntaf o blith chwe chenhedlaeth i gael ei enwi’n ‘Simon’ neu’n ‘Philip’. Aeth pob un ohonynt ati i addasu Erddig ac i ychwanegu at drysorau’r teulu.

Philip Yorke I

Ym 1767, etifeddwyd Erddig gan fab Simon, sef Philip (1743-1804). Ym 1770, priododd Philip ag Elizabeth Cust (1750-79), merch ieuengaf Syr John Cust o Belton, Swydd Lincoln, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin. Defnyddiwyd gwaddol Elizabeth, ynghyd ag etifeddiaeth Hutton, i dalu am ailfodelu ac ailaddurno’r tŷ.

Penderfynodd Philip I gomisiynu’r dylunydd tirweddau William Emes (1729/30-1803) i wella’r parcdir a datrys y llifogydd yn y dolydd isaf. Ym 1779, estynnodd Philip wahoddiad i bobl leol fwynhau’r parcdir ‘er budd eu Hiechyd a’u Difyrrwch’.

PHILIP YORKE I (1743-1804)
Gellir dod o hyd i'r darlun o Philip Yorke yn yr ystafell fwyta fawr. | © National Trust Images

Hanes cymdeithasol Cymru

Roedd Philip I yn ysgolhaig yn achyddiaeth Cymru. Ym 1795, cyhoeddodd ‘Tracts of Powys’; ac ym 1799, cyhoeddodd ‘The Royal Tribes of Wales. Caiff y llinachau hyn eu dathlu yn yr ystafell a elwir bellach yn ‘Ystafell y Llwythau’.

Yn y 1790au, penderfynodd Philip I gomisiynu John Walters, artist o Sir Ddinbych, i baentio darluniau o chwe aelod staff a oedd yn gweithio ar yr aelwyd. Parhaodd y traddodiad o goffáu gweision a morwynion yn y modd hwn tan y 1920au. Mae’r darlun o’r coetshmon yn un o blith ychydig iawn o ddarluniau o berson o liw sydd wedi goroesi o’r ddeunawfed ganrif ym Mhrydain.

Morwyn artistig

Bu Elizabeth Ratcliffe (c. 1735-1810) yn gweithio fel morwyn i Dorothy Yorke (a fu farw ym 1787). Llwyddodd i greu gweithiau celf sy’n dal i gael eu cadw yn y tŷ hyd heddiw, yn cynnwys model o ‘The Ruins of the Temple of the Sun’ ym 1773.

Y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Ym 1804, etifeddodd Simon Yorke II (1771-1834) yr ystad, a chynyddodd y rhenti. Yn dilyn ei briodas â Margaret Holland (1778-1848), addasodd y tu mewn i’r tŷ i raddau helaeth, yn cynnwys ystafell fwyta Neoglasurol Thomas Hopper ym 1826.

Aeth Simon Yorke III (1811-94) ati i reoli cryn dipyn ar yr ystad, gan gwympo coed i’w gwerthu, ailblannu coed, ac adeiladu ‘Manor Farm’ a ‘Forest Lodge’. Datblygodd Simon a’i wraig Victoria Cust (1823-95) y gerddi, gan ychwanegu grisiau i gysylltu’r salŵn a’r parterre a chan ailosod ffowntenni newydd.

Yr ugeinfed ganrif: dirywio ac achub

Ac yntau wedi etifeddu Erddig ym 1894, priododd Philip II (1849-1922) â Louisa Scott (1863-1951), a chawsant ddau o feibion – sef Simon a Philip. Gan fod ffortiwn y teulu’n edwino, gweithiodd Philip a Louisa i ddiogelu’r tŷ a’i gynnwys gyda llai fyth o weision a morwynion.

Ym 1922, etifeddodd Simon Yorke IV (1903-66) yr ystad, ac yntau’n ddim ond 18 oed. Yn ystod y 1930au, adfeiliodd nifer o adeiladau’r ystad wrth nesáu at yr Ail Ryfel Byd (1939-45).

Defnyddiwyd parc Erddig gan Fyddin America ar gyfer llety a hyfforddiant cyn i Luoedd y Cynghreiriaid ymosod ar Normandi (Diwrnod D, 6 Mehefin 1944).

Cloddio am lo

Roedd cloddio am lo wedi bod yn rhan bwysig o Erddig ers yr ail ganrif ar bymtheg.

Ond o 1947 ymlaen, fe wynebodd Erddig un o’i beryglon mwyaf. Adeiladwyd siafftiau yn union dan y tŷ o Bwll Glo Bersham gerllaw. Dechreuodd adain dde’r tŷ suddo, ymddangosodd craciau yn y waliau, llifodd dŵr i mewn i’r tŷ trwy dyllau yn y to, ac roedd pydredd gwlyb yn rhemp trwy’r adeilad.

Y tu mewn i Weithdy’r Saer cyn iddo gael ei adfer yn Erddig, Wrecsam
Y tu mewn i Weithdy’r Saer cyn iddo gael ei adfer yn Erddig, Wrecsam | © National Trust Images

Philip Yorke III a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Yn y gorffennol, bu Philip III (1905-78) yn actor, yn gynhyrchydd theatr, yn athro ac yn rheolwr teithiau gwyliau. Ac yntau’n benderfynol o ddiogelu Erddig, symudodd i’r tŷ heb ffôn, dŵr o’r prif gyflenwad na thrydan. Arhosodd mewn ystafell wahanol bob nos ac aeth ati i greu larymau lladron trwy ddefnyddio tuniau bwyd ci gwag wedi’u clymu gyda llinyn.

Ym 1968, cafodd trysor pennaf Erddig, sef y gwely swyddogol, ei symud i’r Victoria and Albert Museum yn Llundain er mwyn iddo gael ei atgyweirio.

Ym 1973, rhoddodd Philip y tŷ a’r ystad yn rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a gwerthodd y tir gan godi £1 miliwn i ariannu’r gwaith adfer. Talodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol iawndal o £120,000, gan gytuno i beidio â chloddio dan y tŷ.

Am bedair blynedd, bu arbenigwyr yn gweithio gyda’r gymuned leol i adfer y tŷ, y cynnwys a’r tiroedd. Yn wir, bu mwy na 130 o wirfoddolwyr yn helpu i adfer y tecstiliau yn unig. Cafodd y tai allan a’r gerddi eu hadfywio. Hwn oedd y prosiect adfer mwyaf cynhwysfawr a roddwyd ar waith gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol erioed.

Ym 1977, agorodd Erddig ei ddrysau i’r cyhoedd. Bu modd i’r ymwelwyr fynd i mewn i’r tŷ trwy siop y saer, yr iard goed a’r efail, cyn mynd yn eu blaen i’r golchdai a’r gegin. Dim ond wedyn y bu modd iddynt fynd i’r ystafelloedd swyddogol gyda’u haddurniadau ysblennydd.

Portread o Philip Yorke III (1905-1978) gan Jacqueline D. Geldart.
Portread o Philip Yorke III (1905-1978) gan Jacqueline D. Geldart. | © National Trust/ Jacqueline D. Geldart

Erddig heddiw

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi parhau i ofalu am Erddig, a’i ddatblygu. Yn 2018, dechreuodd Cadwraethwyr weithio ar brosiect wyth mlynedd i adfer y gwely swyddogol – sef prosiect a ariannwyd gan Sefydliad Wolfson. Ac yn 2025, dynodwyd naw hectar ar ymyl deheuol ystad Erddig yn ‘Goetir Coffa Hafod y Bwch’, sef rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru – rhywle lle gellir myfyrio a chofio am y rhai a gollwyd yn sgil COVID-19, a man gwyrdd y gall pawb ei fwynhau.

Darlleniadau pellach

Griffiths, E. Philip Yorke I (1743-1804): Squire of Erthig, Wrexham: Bridge Books, 1995.

Hardy, J, Landi, S and Wright, C.D. A State bed from Erthig, Victoria and Albert Museum booklet. 1972.

Veysey, G. Philip Yorke Last Squire of Erddig, Wrexham: Bridge Books. 2002.

Waterson, M. The Servants’ Hall: A Domestic History of Erddig, London and Henley. Routledge & Kegan Paul. 1980.

YALE family, of Plâs yn Iâl and Plas Grono Wrexham | Dictionary of Welsh Biography 

 

Gwely dwbl gyda chanopi wedi ei orchuddio â ffabrig addurnedig gyda dodrefn o’i gwmpas tu mewn i’r Ystafell Wely Swyddogol yn Erddig, Clwyd, sydd â phapur wal gwyrdd â phatrwm blodeuog.

Casgliadau Erddig

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Erddig ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymweld â'r tŷ yn Erddig 

Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.

Y casgliad yn Erddig 

Mae gan Erddig un o'r casgliadau mwyaf o eitemau o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfan. Mae angen gofalu am 30,000 o eitemau, sy’n dipyn o her i’n tîm o warchodwyr a gwirfoddolwyr. Mae Erddig hefyd yn amgueddfa ardystiedig.

Mam yn dal ei phlentyn ac yn pwyntio at arddangosiad o luniau ar waliau cyntedd yn y tŷ yn Erddig, Clwyd.

Ymweld â'r ardd Erddig 

O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.

Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig

Crwydro parcdir Erddig 

Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Y parcdir yn Erddig, Wrecsam, yn yr hydref.