Skip to content

Bwyta a siopa yn Erddig

Scarves and a handbag hung on coat pegs
Camwch i mewn i'r gwanwyn gyda chyfwisgoedd blodeuog | © National Trust Images/James Dobson

Sbwyliwch eich hun gyda’n dewis blasus o fwyd a diod neu ewch i’r siop tu mewn i'r adeiladau hanesyddol yma yn Erddig. Trwy eich pryniannau chi yr ydym yn gallu gofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Llefydd i fwyta yn Erddig

Bwyty’r Daflod

Ewch i fwyty’r Daflod i fwynhau dewis o fwyd poeth, saladau, brechdanau, cacennau ffres a diodydd.

Bwydlen plant

Mae’r plant wrth eu boddau yn dewis eu blychau cinio lliwgar eu hunain a dewis pa brydau iach a blasus y bydden nhw’n hoffi eu cael ynddyn nhw. Gallan nhw fwynhau eu cinio dan do neu fwynhau picnic tu allan os yw’r tywydd yn braf. Gall plant hefyd ddewis o’u bwydlen boeth eu hunain gan gynnwys fersiynau llai o rai o’n prif brydau.

Parlwr te

Mae’r parlwr te yn gweini byrbrydau poeth a diodydd yn ystod y cyfnodau prysuraf ac ar achlysuron arbennig. Un o’r nwyddau poblogaidd yma yw’r hufen iâ lleol o Erbistog, gallwch ddewis blas crwybr, mafon cochion ffres a blasau amrywiol eraill.

Gwybodaeth am alergenau

Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.

Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.

Cadarnhewch cyn eich ymweliad

Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.

Erddig's Tea Garden
Coffi, te neu beth am siocled poeth? | © Arnhel de Serra

Yr ardd de

Yn glyd wrth ochr hen Dŷ’r Coetsmon mae’r ardd de fach dlws sydd ar agor yn ystod y cyfnodau brig pan fydd yr haul yn disgleirio. Mae’n rhywle i orffwys ar ôl cerdded yn hir neu i baratoi cyn cychwyn ac mae’n gweini dewis da o ddiodydd poeth, cacennau a bisgedi.

Sbwyliwch eich hun gyda the hufen a loetran trwy’r prynhawn. Mae’r ardd de ar agor i ymwelwyr â’r parcdir ehangach yn ogystal ag ymwelwyr â’r tŷ a’r ardd.

A close up of a scone covered in cream and jam
Mwynhewch amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer a danteithion | © National Trust Images / William Shaw

Siopa yn Erddig

Mae stoc yn newid bob tymor, felly mae rhywbeth newydd i’w weld o hyd. Cofiwch edrych ar yr adran bwyd a diod o Gymru a mynd â blas o Gymru adre hefo chi.

Os ydych wedi cael eich ysbrydoli gan yr ardd Gradd 1, ewch draw i’r ardal werthu planhigion i weld os gallwch chi gael un o’r planhigion wedi eu tyfu mewn compost di-fawn.

Siop lyfrau ail-law Erddig

Mae cannoedd o lyfrau ar gael i’w prynu o’r siop lyfrau ail-law. Os ydych yn chwilio am y llyfr perffaith at yr haf, clasur anghofiedig neu stori amser gwely yn llawn o antur rydych yn siŵr o ddod o hyd iddyn nhw yma yn Erddig.

Rhoi llyfrau i Erddig

Diolch am gadw Erddig yn y cof wrth roi eich llyfrau.

Dim ond llyfrau o ansawdd da rydym ni’n eu derbyn fel rhoddion, a byddwn ni’n eu derbyn yn ddiolchgar yn y Swyddfa Docynnau rhwng Chwefror a Thachwedd.

Cofiwch nad ydym yn gallu derbyn yr eitemau canlynol:

  • Gwyddoniaduron aml gyfrol, Britannica er enghraifft
  • Cylchgronau
  • Reader’s Digest
  • Llyfrau cyfeirio

Mae pob rhodd a phryniant a wneir yn ystod eich ymweliad yn ein helpu ni i ofalu am natur, harddwch a hanes y lle arbennig hwn.

Y plasty o’r 18fed ganrif, ar draws y llyn yn Erddig, Cymru

Darganfyddwch fwy yn Erddig

Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r tŷ yn Erddig 

Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.

Mam yn dal ei phlentyn ac yn pwyntio at arddangosiad o luniau ar waliau cyntedd yn y tŷ yn Erddig, Clwyd.
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yn Erddig 

Yn Erddig y mae’r ail gasgliad mwyaf o eitemau sydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae angen gofalu am 30,000 o eitemau, sy’n dipyn o her i’n tîm o warchodwyr a gwirfoddolwyr. Mae Erddig hefyd yn amgueddfa ardystiedig.

Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd Erddig 

O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.

Yr ardd parterre o’r 18fed ganrif yn Erddig yng Nghymru ar ddiwrnod heulog ym mis Mai, gyda gwelyau blodau ffurfiol yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Erddig 

Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.