Gweledigaeth i Gymru: Amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru fywiog a chynaliadwy

Dychmygwch Gymru lle mae dolydd blodau gwyllt yn llawn bywyd, lle mae gan bob cymuned fynediad hawdd at fannau gwyrdd, lle gall pobl ifanc deithio’n rhydd ar fysiau i fwynhau’r awyr agored, a lle mae’r ynni sy’n pweru ein cartrefi yn dod o ffynonellau adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned.
Dyna’r weledigaeth rydym yn galw amdani yn ein maniffesto newydd sbon: Natur a Chysylltedd Diwylliannol sy’n Ffynnu: Creu Ffyniant, Gwydnwch a Llesiant i Gymru.
Wedi’i gyhoeddi cyn etholiadau’r Senedd yn 2026, dyma ein galwad am weithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur – a sicrhau bod manteision natur, harddwch a threftadaeth ar gael i bawb.
Mae ein pum blaenoriaeth yn amlinellu’n glir y newid rydym am ei weld:
-
Adfer natur: gwrthdroi’r dirywiad erbyn 2030 a sicrhau adferiad llawn erbyn 2050.
-
Datgloi mynediad: sicrhau nad yw cod post neb yn rhwystr i fwynhau diwylliant, mannau gwyrdd na threftadaeth.
-
Chwyldroi teithio: datblygu ffyrdd gwyrdd a fforddiadwy o gyrraedd llefydd arbennig Cymru heb fod angen car.
-
Diogelu gweithlu’r dyfodol: darparu prentisiaethau, sgiliau gwyrdd a hyfforddiant crefftau treftadaeth i’r genhedlaeth nesaf.
-
Grymuso cymunedau: sicrhau bod y cyfoeth a ddaw o adnoddau naturiol Cymru yn aros ac yn llifo’n ôl i gymunedau Cymru.
Nid syniadau ar bapur yn unig yw’r rhain - maent eisoes ar waith drwy ymdrechion ein timau a’n partneriaid. Ym Mhen Llŷn, mae ffermwyr tenant yn treialu modelau ffermio arloesol sy’n gwobrwyo canlyniadau cadarnhaol i natur. Yn Erddig, mae'r Coetir Coffa a ddyluniwyd gan y gymuned wedi creu lle i gofio ac i fyfyrio. Ym Mannau Brycheiniog, mae cynllun peilot tocyn bws £1 yn galluogi pobl i ymweld â Phen y Fan heb ddefnyddio car. Ac yn Eryri, mae grwpiau ynni cymunedol yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac yn ail-fuddsoddi’r elw mewn prosiectau lleol.
Mae pob un o’r enghreifftiau hyn yn dangos pa mor effeithiol ydy gweithio gyda partneriaid i ddarparu ar gyfer pobl, natur a diwylliant yng Nghymru.
Wrth edrych tuag at etholiad 2026, mae ein maniffesto’n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru – dyfodol lle mae natur a diwylliant yn ffynnu, a lle mae cymunedau wrth galon y newid.
Os hoffech wybod mwy, darllenwch y maniffesto llawn yma.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Ynni adnewyddadwy yng Nghymru
O drydan dŵr yn Eryri i feithrin tegeirianau gyda biomas yng Ngerddi Dyffryn, dysgwch sut mae prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Ffermio yng Nghymru
Dysgwch sut mae ein harferion ffermio ecogyfeillgar yn diogelu cynefinoedd a rhywogaethau prin, yn atal llifogydd, ac yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru.

Gerddi cymunedol yng Nghymru
Yn llawer o'r lleoedd arbennig y gofalwn amdanynt, rydym yn gweithio gyda chymunedau i greu gerddi lle gall pobl dreulio amser ym myd natur, a chyda'i gilydd.
