Skip to content

Gerddi cymunedol yng Nghymru

Two people kneeling and working in the soil at the community garden at Powis Castle
Rhoi sglein olaf ar yr ardd gymunedol yng Nghastell a Gardd Powis, Y Trallwng | © National Trust Images/Paul Harris

Mae treulio amser yn yr ardd, un ai'n garddio'n hamddenol, neu'n mwynhau'r ardd yn gyffredinol, wedi'i brofi i wella ein llesiant. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn allweddol o ran byw bywyd hapus ac iach. Dyma sydd wrth graidd ein cenhadaeth fel elusen. Dywedodd Octavia Hill, un o'n cyd-sefydlwyr: “Mae pawb yn mwynhau tawelwch. Mae prydferthwch a lle yn bwysig i bob un ohonom.” Wrth weithio â phartneriaid, rydym yn ceisio gwella mynediad at erddi ac ardaloedd gwyrdd, fel bod rhagor o bobl o fewn cyrraedd i ardaloedd distaw er mwyn adfer a myfyrio.

Felin Pulston, the community hub and gardens at Erddig, Wrexham, Wales.
Felin Pulston yn Erddig | © National Trust Images

Paradwys ym Melin Puleston, Erddig

Ar dir eang Erddig saif Melin Puleston, pentref hanesyddol a hwb ar gyfer gwaith cymunedol Erddig, yn ogystal â lleoliad gardd llesiant dawel.

Cafodd yr ardd ei chreu a’i rheoli drwy waith Erddig gyda phobl ifanc yn y gymuned leol. Mae Melin Puleston yn gartref i Tyfu Erddig a Chlwb Ieuenctid Erddig, sy’n darparu man diogel, cefnogol a chyfeillgar i bobl ifanc a natur ffynnu. Mae’r ddau ohonynt yn cynnig ystod o gyfleoedd i bobl ifanc gael cysylltu â natur, o dyfu blodau i’w gosod a’u harddangos, i feithrin llysiau, gofalu am fywyd gwyllt, neu gymryd amser i orffwyso ac ymlacio mewn amgylchedd hardd.

Yn ogystal â chynnal ein gwirfoddolwyr a’n cyfranogwyr ym Melin Puleston, rydym hefyd yn croesawu grwpiau o sefydliadau partner, er mwyn iddynt hwythau hefyd gael manteisio ar fuddion y baradwys hon.

Mae'r ardd lesiant hefyd ar agor, ac am ddim i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Rydym oll yn cael cyfnod yn ein bywyd lle rydym angen synnwyr o dawelwch, am ba bynnag reswm. Mae Melin Puleston yn cynnig digonedd o hyn.

Nid wyf am honni bod gwirfoddoli wedi gwella fy iselder, ond mae'r prosiect hwn wedi rhoi ymdeimlad o ddyletswydd a bwriad i mi, yr oeddwn i ei angen yn ystod un o gyfnodau mwyaf heriol fy mywyd.

Dyfyniad gan Gwirfoddolwr Erddig Grow
The restored laundry building
Mae’r golchdy, sy’n adeilad rhestredig gradd II hanesyddol, yn cynnig lle i sefydliadau lleol gynnal hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol | © Hannah Thompson, National Trust

Ardal gymunedol yn Nhŷ Tredegar

Mae Gardd y Golchdy yn Nhŷ Tredegar yn fan gwyrdd cymunedol wrth ymyl ystâd Duffryn, lle mae sefydliadau lleol yn cynnal hyfforddiant, a lle mae pobl yn dod i dreulio amser gyda’i gilydd.

Mae aelodau o Growing Space, elusen iechyd meddwl, ynghyd â gwirfoddolwyr lleol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn gofalu am yr ardd hygyrch, ac mae aelodau Llwybrau Lles Coetiroedd hefyd yn gwneud defnydd ohoni.

Ers rhai blynyddoedd, mae’r ‘allotmenteers’ o gymuned Duffryn wedi bod yn tyfu ac yn cynhaeafu ffrwythau a llysiau o’r rhandir yn Nhŷ Tredegar. Mae gardd synhwyraidd yno bellach, yn llawn llysiau a phlanhigion cyffyrddadwy a phersawrus, yn ogystal â gardd lonydd - gan ddarparu ardal dawel ar gyfer myfyrio.

Mae yna ardal o wlâu blodau uchel er mwyn sicrhau mynediad i gadeiriau olwyn, fel bod pawb yn cael mynediad at y buddion eang sy’n dod o arddio. Er mai grwpiau cymunedol lleol sy’n gwneud defnydd mwyaf o’n gerddi, maent hefyd yn agored i'r cyhoedd ar ddyddiau penodol.

Y prosiect hwn yw gwir ystyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ni ddechreuodd pethau gyda chadwraeth neu’r adeilad – pobl oedd y man cychwyn, a beth mae pobl yr ardal hon ei eisiau gan y gofod hyfryd hwn, a chynnig croeso i bawb.

Dyfyniad gan Hilary McGradyYmddiriedolaeth Genedlaethol Cyfarwyddwr Cyffredinol
Volunteers from Ponthafren mental health and wellbeing charity, Tir Coed, and Powis Castle and Garden, next to a newly built raised bed.
Cydweithiodd gwirfoddolwyr ac elusennau gwahanol i adeiladu gwelyau uchel newydd | © National Trust Images, Paul Higham

Pŵer cymunedol yng Nghastell a Gardd Powis

Ynghyd â Ponthafren, elusen sy’n lleol i ardal Y Trallwng a’r Drenewydd, rydym wedi sefydlu gardd gymunedol yng Nghastell a Gardd Powis. Wedi’i sefydlu ar dir y castell, mae’r ardd yn lle hanfodol i bobl ganolbwyntio ar eu llesiant a chysylltu â natur.

Mae Ponthafren yn Elusen Iechyd Meddwl a Llesiant sy’n darparu gwasanaeth i hyrwyddo iechyd meddwl positif. Mae’r ardd yn lle i ymgasglu, tyfu llysiau, ffrwythau, a blodau, dysgu sgiliau newydd, a threulio amser ym myd natur.

Er mwyn cynorthwyo wrth greu’r ardd, cafodd Ponthafren a’u defnyddwyr gwasanaeth gwmni tiwtor o elusen Tir Coed, sef elusen sy’n cysylltu pobl â thir a choed drwy gyflwyno rhaglenni hyfforddiant, dysgu a llesiant awyr agored ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae sawl cwmni lleol wedi cefnogi wrth greu’r ardd, drwy roddi pren i adeiladu gwlâu uchel ar gyfer llysiau a phlanhigion eraill, a rhoddi compost a phlanhigion. Mae’r tîm yng Nghastell a Gardd Powis hefyd wedi cefnogi drwy ddarparu planhigion ar gyfer y gwlâu a’r planwyr.

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Staff Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gyda phlant, staff a theuluoedd o Celebral Palsy Cymru yn eu gardd les newydd yng Nghaerdydd
Datganiad i'r wasg
Datganiad i'r wasg

Gardd llesiant wedi ei chwblhau wrth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddathlu blwyddyn mewn partneriaeth â Cerebral Palsy Cymru 

Ddydd Mawrth 21 Mawrth, ymunodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cerebral Palsy Cymru yn eu canolfan i blant yng Nghaerdydd i ddathlu blwyddyn mewn partneriaeth a chwblhau gardd llesiant hygyrch newydd.

Meinciau gordorwedd pren yn Nôl Ofalgar Castell y Waun
Datganiad i'r wasg
Datganiad i'r wasg

Mae pobl a natur yn ffynnu yng Nghastell y Waun diolch i’r gwaith o greu’r Ddôl Ofalgar 

Mae 0.65 hectar o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghastell y Waun wedi ei wella ar gyfer pobl a byd natur wrth i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gydweithio ag ystod o sefydliadau ac elusennau lleol i greu Dôl Ofalgar newydd, lle gall pobl gysylltu â byd natur, gan wella eu hiechyd a llesiant.