Skip to content

Ymwelwch â chefn gwlad Lan-y-lai

Pink and white wildfowers in a green grassy meadow
Ymlwybrwch trwy ddolydd o flodau gwyllt yn Lan-y-lai | © National Trust Images/Sarah Davis

Mae Lan-y-lai ym Mro Morgannwg yn ardal o weirgloddiau lliwgar a phorfeydd rhos melys, sy’n ei gwneud yn hafan i fywyd gwyllt ac yn encil heddychlon i bobl. Mwynhewch fynd am dro drwy’r dolydd sy’n atgofion o arferion ffermio cyn y rhyfel gyda chyfoeth o flodau gwyllt a hynaf-goed i’w darganfod.

Gweirgloddiau traddodiadol yn Lan-y-lai

Creodd ffermwyr weirgloddiau fel Lan-y-lai i gynhyrchu digon o borthiant i’w da byw oroesi’r gaeaf. Ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dwysaodd prosesau gwella glaswelltiroedd amaethyddol, a chollwyd llawer o wahanol fathau o laswelltiroedd naturiol a lled-naturiol.

Yma yn Lan-y-lai rydym yn cadw’r traddodiad hwn yn fyw er mwyn i chi allu mwynhau’r canlyniadau godidog.

Blodau gwyllt

Mae gweirgloddiau blodeuog yn ardaloedd bendigedig o brydferthwch. Ar eu hanterth ar ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf, cyn i’r gwair gael ei dorri, maen nhw’n fôr o liw, yn llawn arogl melys y glaswellt a’r perlysiau, ac yn sïo â sŵn pryfed sy’n gwibio o flodyn i flodyn.

Rhyfeddwch at brydferthwch tamaid y cythraul, yr ellesgen felen, y trewyn, llysiau’r-milwr coch, cribau San Ffraid, cwcwll y mynach (sy’n brin a gwenwynig iawn) a llawer mwy.

Toriad braf i’r haf

Mae’r caeau gwair yn cael eu torri ar ddiwedd yr haf (canol i ddiwedd Gorffennaf neu ddechrau Awst). Petai’r gwair yn cael ei dorri’n gynharach byddai’n atal planhigion y ddôl rhag gosod eu hadau. Ac yn yr hydref a’r gaeaf rydym yn dod â bridiau traddodiadol o ferlod (neu wartheg o bryd i’w gilydd) yma i bori.

Mae hyn yn annog twf newydd ar y glaswelltir ac yn cael gwared ar lystyfiant sydd wedi mynd yn rhy drwchus, gan ganiatáu i amrywiaeth ehangach o flodau gwyllt godi’u pen yn y gwanwyn a’r haf.

Felly, os hoffech dreulio ychydig oriau’n ymlacio mewn paradwys o fywyd gwyllt, Lan-y-lai yw’r lle i chi.

A close-up of a small dog sitting next to its owner at Clent Hills
Mwynhewch gerdded eich ci yn Lan-y-lai, Bro Morgannwg | © National Trust Images / James Dobson

Awydd mynd am dro?

Os oes gennych 20 munud neu awr, os ydych chi’n cerdded y ci neu’n crwydro gyda ffrindiau, Lan-y-lai yw’r ddihangfa berffaith. Mae dau lwybr yn ymdroelli drwy’r dolydd ac ar hyd yr afon.

Fe welwch y lleoliad ar ei orau drwy ddilyn y llwybr hawdd o gwmpas y dolydd, ac mae yna lwybrau pren i’ch tywys dros yr ardaloedd gwlypaf fel y gallwch fwynhau popeth sydd gan Lan-y-lai i’w gynnig.

Bywyd gwyllt i’w weld yn Lan-y-lai

Adar

Mae’r llwyni trwchus, glaswellt hir, coed hynod a glannau troellog yn golygu bod Lan-y-lai yn lle arbennig i adar. Fe welwch las y dorlan yn gwibio ar hyd glannau Afon Elái, boda’n plymio’n fry uwchben, cnocell y coed yn archwilio’r coed derw hynod ac amrywiaeth o adar cân yn gwibio o lwyn i lwyn - mae’n werth ymweld â’r dolydd hyn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Meadow brown butterfly on a thistle at Parkhill Camp, Wiltshire
Dewch o hyd i weirlöyn y ddôl yn Lan-y-lai | © National Trust Images / John Miller

Pili-palod

Mae nifer fawr o bili-palod yn ymgartrefu yma, o weirlöyn y ddôl i’r gweirlöyn brych, o’r fantell paun i weirlöyn y perthi. Ac mae gwenyn a phryfed eraill yn drac sain swynol i ddiwrnodau braf o haf.

Ymysg y bywyd gwyllt arall sydd yma mae ystlumod, madfallod a mamaliaid bach. Ac os ydych chi’n lwcus, fe allech gael cip ar ddyfrgi yn yr afon neu ar y glannau.

Bach o amynedd

Rhaid bod yn amyneddgar wrth wylio bywyd gwyllt, felly gosodwch flanced yng nghysgod hen dderwen neu eisteddwch ar y lan y dŵr gyda’r dyfroedd yn sisial o dan eich traed, ac fe sylwch yn ddigon buan fod amser yn hedfan yn y gornel fach ddedwydd hon o gefn gwlad. Ymgollwch eich hun yn y glaswellt hir gyda phicnic – aiff prysurdeb y byd modern yn angof mewn dim o dro.

Coed hynod

Mae’r coed derw enfawr, sydd i’w gweld yma a thraw yn Lan-y-lai, yn cael eu galw’n goed hynod ac maen nhw’n tua 500 mlwydd oed. Mae eu canghennau’n geinciog a chlymog, yn llawn cymeriad ac yn gynefin hanfodol i adar, pryfed a chreaduriaid eraill.

Maen nhw’n llefydd gwych i ffeindio ffyngau ffantastig, y mae creaduriaid di-asgwrn-cefn yn dibynnu arnynt i oroesi (ynghyd â chen a phren marw).

Y dderwen hynafol

Mae coeden hynod yn hen iawn o gymharu ag eraill o’r un rhywogaeth, ond nid oes diffiniad pendant i’r term. Ystyrir coed derw’n goed hynod pan maen nhw’n 500 neu 600 oed, fel y rhai yn Lan-y-lai, ond ystyrir y ffawydden yn goeden hynod a hithau’n ddim o beth – dim ond 300 oed! Mae hyn gan fod gwahanol rywogaethau o goed yn tyfu ar gyflymderau gwahanol.

Os ydych chi’n teimlo’n anturus, dringwch i’r canghennau isaf i gael golwg graffach ac i werthfawrogi’r amgylchedd arbennig sy’n cael ei greu gan y cewri hyn.

Perllan Gymunedol Lan-y-lai

Mwynhewch lonyddwch Perllan Gymunedol Lan-y-lai, a grëwyd i greu cydbwysedd rhwng cnydau da a bywyd gwyllt gwerthfawr. Wedi’i rheoli gan Cyswllt Peterston Connect, mae’r berllan yn ffynnu yng Ngwarchodfa Natur Leol Dolydd Lan-y-lai. Yn 2019 enillodd y safle Wobr Baner Werdd Gymunedol.

Microhinsawdd dda

Plannwyd y berllan gyda chymysgedd o goed afalau, gellyg, eirin du ac eirin treftadaeth Cymreig. Mae microhinsawdd dda wedi galluogi perlysiau fel y gyfardwf, yr helyglys a’r blodyn taranau i ffynnu, ac maent yn cael eu cadw mewn ardaloedd pendant i ddenu pryfed peillio.

Mae gwreiddiau dyfnion y perlysiau’n helpu’r gorlifdir (nad yw’n addas ar gyfer coed â gwreiddiau dyfnion) i ddraenio ac yn creu arddangosfeydd blodau trawiadol ar ddechrau’r haf.

Yn y gaeaf, mae yna westai pryfed, blychau nythu adar ac ardaloedd i ddenu ymlusgiaid sy’n gaeafu.

Lloches helyg

Gwehyddwyd lloches helyg yn 2016 gyda chymorth Clare Revera o Out to Learn Willow, sydd wedi’u lleoli yn Aberogwr, gan ddefnyddio toriadau o Ysgol Gynradd Llanbedr-y-fro.

Os hoffech ymweld â’r berllan, gallwch barcio yn y fynedfa neu yn y gilfan gerllaw, gyferbyn â thafarn y pentref.

Meadow brown butterfly on a thistle at Parkhill Camp, Wiltshire

Darganfyddwch fwy yn Lan-y-lai

Dysgwch sut i gyrraedd Lan-y-lai, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Daffodils in bloom at Dyffryn Gardens in Wales, with the 19th century mansion in the background.
Erthygl
Erthygl

Y gerddi yn Nyffryn 

Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.

Teulu a’u ci yn crwydro’r ystâd yn Nhŷ Tredegar, Cymru
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parcdir yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.