Diwrnodau allan i'r teulu yng Llanerchaeron

Mwynhewch ddiwrnod allan yn crwydro ystâd draddodiadol Gymreig. Ymwelwch â'r anifeiliaid ar fuarth y fferm, ewch am dro o amgylch yr ardd furiog a chymerwch eiliad i oedi ger y llyn addurniadol. Gadewch i'r plant archwilio byd natur, gweld bywyd gwyllt lleol a chymryd rhan yn ein gweithgareddau tymhorol. Mae’r fila Sioraidd ar agor o’r gwanwyn tan ddechrau’r gaeaf, gan groesawu teuluoedd i ddarganfod ei hanes, ochr yn ochr ag arddangosfeydd wedi’u hadnewyddu.
Ystafelloedd ar eu newydd wedd
Mae’r arddangosfa ddiweddaraf, Pwyth a Gweu // Stitch and Weave, yn arddangos cymysgedd o dapestrïau, tecstilau gweëdig a brodwaith sy’n dyddio o’r 17 - 19 ganrif.
Nid yw’r mwyafrif o’r eitemau hyn wedi cael eu harddangos i’r cyhoedd o’r blaen. Cafodd bob eitem ei dethol i adlewyrchu diddordebau eang Pamela, ac maent yn cynnwys amrywiaeth o arddulliau, cyfnodau hanesyddol a thechnegau.
Un o’r eitemau hynaf a gaiff ei harddangos yw darn diddorol o’r tapestri 'Diogenes discarding his cup', o gyfres o’r enw 'The Life of Diogenes'. Meddylir ei fod wedi dod o weithdy Mortlake yn Llundain ar ddiwedd y 17eg ganrif. Mae sawl set o dapestrïau ‘Diogenes’, neu rannau ohonynt, yn goroesi yng nghasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnwys yng Nghastell y Waun a Pharc Dyrham.
Man Chwarae’r Ystafell Filiards
Mae’r Hen Ystafell Filiards ar agor i deuluoedd ei mwynhau. Lle i chwarae ac ymlacio oedd hwn erioed, ac mae o bellach yn fan cynnes, creadigol a deniadol i bawb ei mwynhau.
Cynllunio eich ymweliad gyda’r teulu
I’ch helpu i gynllunio’ch diwrnod allan ymlaen llaw, dyma ychydig o wybodaeth allweddol:
· Gallwch ddod o hyd i'n holl oriau agor yma ar gyfer gwahanol rannau'r ystâd. Cynghorwn eich bod yn cael golwg ar ein horiau agor cyn i chi deithio oherwydd gall amseroedd agor newid yn dibynnu ar y tymor.
· Cymerwch ran yn ein digwyddiadau hwyliog trwy gydol y flwyddyn. Gallwch bori drwy’r cyfan yma.
· Mae croeso i gŵn o gwmpas y rhan fwyaf o'r ystâd. Darllenwch fwy am ymweld gyda’ch ffrind pedair coes yma.
· Mae toiledau wedi’u lleoli yn yr adeilad ymwelwyr ger y maes parcio a gyferbyn â'r hen floc stablau.
· Gellir gweld prisiau mynediad ar ein tudalen we yma (Gall aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gael mynediad am ddim).
Os ydych yn ymweld gyda chadair olwyn neu bram, mae mynediad gwastad o’r maes parcio i’r tŷ a’r buarth. Gellir dod o hyd i lwybrau hygyrch, gwastad o gwmpas yr ystâd, ond sylwch y gallai rhai llwybrau yn y goedwig fod yn anaddas. Os oes angen cymorth neu ragor o wybodaeth arnoch, gofynnwch i aelod o'n tîm cyfeillgar.