Skip to content

Ymweld â Llanerchaeron gyda'ch ci

A dog on lead is sitting on the grass beside its owners
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci | © Catriona Corrigan

Mwynhewch ddiwrnod allan yng nghanol byd natur gyda'ch ci yn Llanerchaeron. Croesewir cŵn yn y gerddi, parciau difyrion a’r teithiau cerdded coetir. Helpwch i sicrhau bod Llanerchaeron yn rhywle y gall pawb ei fwynhau drwy gadw eich ci ar dennyn byr, codi baw ci ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.

Ein system pawen

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed er mwyn ei gwneud yn haws i chi weld pa mor addas i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a'ch cyfaill pedair coes gyrraedd.

Er mwyn helpu â hyn, rydym wedi creu system raddio â phawen ac wedi rhoi gradd i'r holl leoedd dan ein gofal. Mae'r wybodaeth hon ar gael yn llawlyfr aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Llanerchaeron wedi'i raddio fel lle dwy bawen.

Mae gan y lleoedd hyn bowlenni dŵr, biniau gwastraff cŵn a llwybrau cerdded sy'n addas i gŵn. Byddwch yn gallu mynd â'ch ci i rai mannau, ond nid i bobman. Os oes safle bwyd a diod, gallwch gael paned o de gyda nhw, y tu allan mae'n debyg. Darllenwch ymlaen i ddysgu ble yn union cewch fynd â'ch ci.

Ble mae fy nghi'n cael mynd yn Llanerchaeron?

Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Llanerchaeron. Croesewir cŵn yn y gerddi, parciau difyrion a’r teithiau cerdded coetir. I gadw ein hanifeiliaid fferm a chasgliadau'n ddiogel, ni chaniateir cŵn na yn y tŷ (ar wahân i gŵn cymorth). Nodwch y dylid cadw cŵn ar dennyn byr yn y parcdir bob amser er mwyn cadw da byw yn ddiogel. Mae yna deithiau cerdded hyfryd i'w harchwilio ar draws y parcdir hynafol, ewch i'n gwefan i weld y llwybrau, neu siaradwch ag aelod o'r tîm croesawu ymwelwyr.

Pa gyfleusterau sydd ar gael i gŵn?

Mae sawl powlen o ddŵr i gŵn ar draws y safle, yn cynnwys y ganolfan ymwelwyr a'r iard.

Os fydd angen rhywbeth ar eich ci yn ystod eich ymweliad, byddwn yn falch o helpu lle fo'n bosib.

Beth arall sydd angen i mi fod yn ymwybodol ohono?

Mae gan Llanerchaeron dda byw yn pori drwy gydol y tymor, felly gofynnwn yn garedig i ymwelwyr gadw eu cŵn ar dennyn byr bob amser er mwyn cadw'r anifeiliaid yn ddiogel.

Cynghorir hefyd ichi beidio â gadael eich anifail anwes yn y car am gyfnodau hir, gan nad yw ein meysydd parcio'n cynnig llawer o gysgod yn ystod y tymhorau cynnes.

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Ymwelwyr yn cerdded o flaen tŷ Llanerchaeron ar ddiwrnod heulog

Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron

Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Clychau’r gog yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yn Llanerchaeron 

Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.

Catering assistant with a tray of coffee and hot chocolate in the cafe at Llanerchaeron, Wales.
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Llanerchaeron 

Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.

The villa at Llanerchaeron surrounded by trees
Erthygl
Erthygl

Cwestiynau Cyffredin am Lanerchaeron 

Yn ddiweddar, gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn annog adborth gonest ar gynigion i gyflwyno ffioedd parcio yn Llanerchaeron.