Skip to content

Priodasau yn Llanerchaeron

Priodfab yn sefyll wrth briodferch yn dal tusw o flodau.
Priodferch a phriodfab ar ddiwrnod eu priodas | © National Trust Images/Megan Taylor

Os ydych chi’n chwilio am leoliad priodas llawn hanes a chyfaredd Cymreig, Llanerchaeron yw’r lle i chi. Yn swatio yn nyffryn heddychlon Aeron, mae Llanerchaeron yn gefnlen hyfryd i’ch diwrnod arbennig.

Seremonïau sifil yn Llanerchaeron

Mae buarth coblog y cerbyty yn Llanerchaeron yn lleoliad hyfryd ar gyfer hyd at 70 o westeion. Ar ôl y seremoni gall gwesteion fwynhau diodydd yn yr ardd, tra’ch bod chi’n gwneud y gorau o’r lleoliad unigryw gyda’ch lluniau.

Gwleddoedd priodas yn Llanerchaeron

Os ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer eich gwledd briodas, mae’r lawnt croce yn lleoliad gwledig hyfryd ar gyfer pabell fawr. Byddwch chi a’ch gwesteion ynghanol ystâd hardd Llanerchaeron, gyda’r tŷ a’r parcdir yn gefnlen drawiadol i chi.

Gallwn ni gynnig y lleoliad perffaith i chi, a chewch chi ddewis eich arlwywyr, eich pabell fawr a’ch blodau.

Cysylltwch â ni am briodasau yn Llanerchaeron

P’un a ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer seremoni sifil, gwledd briodas neu gefnlen arbennig i’ch lluniau, rydym yma i helpu.

Os hoffech ddysgu mwy neu drefnu ymweliad, e-bostiwch ni: llanerchaeron@nationaltrust.org.uk

Rydym yn hapus i’ch tywys o gwmpas y safle ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Ymwelwyr yn cerdded o flaen tŷ Llanerchaeron ar ddiwrnod heulog

Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron

Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A bride and groom walking towards a sunset in the meadow at Calke Abbey with a glowing sun on the horizon and ancient trees in the background
Erthygl
Erthygl

Why choose the National Trust for your wedding? 

National Trust places are very popular for proposals and weddings. Read some stories from real couples to find out why they chose us for their special day.

Y fila a ddyluniwyd gan John Nash yn yr 1790au yn Llanerchaeron
Erthygl
Erthygl

Ymweld â fila John Nash yn Llanerchaeron 

Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.

Clychau’r gog yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yn Llanerchaeron 

Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.

Cwpl sydd newydd briodi y tu allan i'r Orendy yng Nghastell Powis, Cymru

Weddings 

From castles and ruins, to abbeys and even pubs, we have a wonderful selection of venues for your wedding day.