Skip to content

Ymweld â fila John Nash yn Llanerchaeron

Y fila a ddyluniwyd gan John Nash yn yr 1790au yn Llanerchaeron
The villa designed by John Nash in the 1790s | © National Trust / Arnhel de Serra

Yng nghanol tlysni Dyffryn Aeron, mae fila John Nash yn gwneud y gorau o’r golygfeydd o’r dirwedd drawiadol.  Camwch drwy’r drws ac fe welwch sut mae symlrwydd yr ochr allan yn cuddio amrywiaeth o siapiau a manylion cymhleth, yn ogystal ag enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn, sy’n swatio yng nghefn y tŷ.

Pethau i'w gweld yn fila Llanerchaeron

Cwblhawyd plasty’r teulu yn Llanerchaeron ym 1795 yn ôl dyluniad John Nash, pensaer uchelgeisiol nad oedd wedi ennill ei blwyf eto. Mae plasty Llanerchaeron yn Fila Sioraidd o arddull Paladaidd – yr arddull a ddysgwyd i Nash yn ystod ei saith mlynedd fel disgybl gyda Robert Taylor, pensaer Paladaidd arbenigol a ddyluniodd Neuadd Tref Caerfyrddin yn yr un arddull yn ystod yr un cyfnod.

Gwneud y gorau o’r golygfeydd

Ar yr olwg gyntaf, mae’r tŷ yn un syml – bocs deulawr plaen o stwco a llechi. Ond gwnaeth Nash ei leoli’n ofalus iawn i wneud y gorau o’r golygfeydd o’r dirwedd drawiadol. Trefnodd y prif ystafelloedd o gwmpas cyntedd grisiau canolog wedi’i oleuo o uwchben.

Ystafell ffrynt gyda phiano, lle tân, gramoffon a chyrtens pinc hir yn erbyn papur wal streipiog
Y tu mewn i’r fila, Llanerchaeron | © National Trust / Heather Birnie

Dylunio mewnol o safon

Mae’r ystafelloedd yn dangos ei feistrolaeth o siapiau cymhleth a manylion clasurol cynnil. Cadwch olwg am y ffrisiau gwaith plastr yn arbennig: mae pob un yn unigryw, a phob un o’r safon uchaf.

Ardal y gweision

Mae ardal y gweision yng nghefn y tŷ yn dangos y gwahaniaeth rhwng bywyd bob dydd y teulu a’u staff dyfal. Mae lle tân Edwardaidd yn y gegin sydd yn aml wedi’i gynnau i bobi, felly cofiwch gadw golwg am bice ar y maen cartref.

Casgliad Pamela Ward

Mae dwy hen ystafell wely yn y fila yn Llanerchaeron yn gartref i gasgliad unigryw o hen eitemau a hynodion, sef Casgliad Pamela Ward. Yn eclectig ac amrywiol, mae’n drysorfa o eitemau diddorol ac, yn aml, anarferol a oedd yn berchen i ddynes a oedd yr un mor ddiddorol â’i chasgliad.

Mae’r arddangosfa ddiweddaraf, Pwyth a Gweu // Stitch and Weave, yn arddangos cymysgedd o dapestrïau, tecstilau gweëdig a brodwaith sy’n dyddio o’r 17eg - 19eg ganrif.

Nid yw’r mwyafrif o’r eitemau hyn wedi cael eu harddangos i’r cyhoedd o’r blaen. Cafodd bob eitem ei dethol i adlewyrchu diddordebau eang Pamela, ac maent yn cynnwys amrywiaeth o arddulliau, cyfnodau hanesyddol a thechnegau.

Un o’r eitemau hynaf a gaiff ei harddangos yw darn diddorol o’r tapestri 'Diogenes discarding his cup', o gyfres o’r enw 'The Life of Diogenes'. Meddylir ei fod wedi dod o weithdy Mortlake yn Llundain ar ddiwedd y 17eg ganrif. Mae sawl set o dapestrïau ‘Diogenes’, neu rannau ohonynt, yn goroesi yng nghasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnwys yng Nghastell y Waun a Pharc Dyrham. 

Hen dapestri o rosyn coch gydag arlliwiau brown a gwyrdd yn y cefndir
Arddangosfa Decstilau Pamela Ward Llanerchaeron | © National Trust / Heather Birnie

Yr iard wasanaeth

Dyma un o’r ardaloedd mwyaf diddorol a phwysicaf yn Llanerchaeron, ac mae’n unigryw bron am oroesi yn ei ffurf wreiddiol. Cafodd ei gynllunio i fod mor effeithlon â phosib, ac mae’n adrodd hanes cudd yr holl waith sydd ei angen i redeg plasty.

Yn yr iard wasanaeth fe welwch y llaethdy, y gegin laeth, yr ystafell cawswasg a’r storfa, y popty, yr ystafell fygu, yr ystafell halltu, y bragdy a’r ystafell olchi sych.

Cadwch olwg am ein cathod preswyl sydd i’w gweld yn aml y tu allan, yn yr iard wasanaeth.

Iard sgwâr wedi’i hamgylchynu gan waliau gwyn a nifer o ddrysau
Yr iard wasanaeth, Llanerchaeron | © National Trust / Aled Llywelyn
Ymwelwyr yn cerdded o flaen tŷ Llanerchaeron ar ddiwrnod heulog

Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron

Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o furiau allanol melyn y tŷ yn Llanerchaeron
Erthygl
Erthygl

Hanes Llanerchaeron 

Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.

Catering assistant with a tray of coffee and hot chocolate in the cafe at Llanerchaeron, Wales.
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Llanerchaeron 

Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.

Gardd y gwanwyn, Llanerchaeron
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r Ardd Furiog yn Llanerchaeron 

Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.

Clychau’r gog yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yn Llanerchaeron 

Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.