Skip to content

Ymweld â Mwnt gyda'ch ci

Dog walker on Brancaster beach, Norfolk
Mynd â chŵn am dro â Mwnt | © National Trust Images/Ian Ward

Sut i gael y gorau o'ch taith gerdded gyda'ch ci ym Mwnt a mwynhau ddiwrnod allan yng nghanol byd natur o fis 1 Hydref i 30 Ebrill. Helpwch i sicrhau bod y traeth yn rhywle y gall pawb ei fwynhau drwy gadw eich ci ar dennyn byr, codi baw ci ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.

Ein system raddio â phawen

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed er mwyn ei gwneud yn haws i chi weld pa mor addas i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a'ch cyfaill pedair coes gyrraedd. Er mwyn helpu â hyn, rydym wedi creu system raddio â phawen ac wedi rhoi gradd i'r holl leoedd dan ein gofal. Mae'r wybodaeth hon ar gael yn llawlyfr aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Mwnt wedi'i raddio ag un bawen.

Croesewir cŵn ar dennyn yma, ond mae cyfleusterau'n gyfyngedig. Bydd modd iddynt ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored gerllaw, yn dibynnu ar y tymor Darllenwch ymlaen i ddysgu ble yn union cewch fynd â'ch ci.

Ble mae fy nghi'n cael mynd ym Mwnt?

Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch cyfaill pedair coes ym Mwnt. Croesewir cŵn sy'n ymddwyn ar y traeth o fis 1 Hydref i 30 Ebrill. Cadwch eich cŵn ar dennyn drwy'r adeg er mwyn cadw'r da byw sydd yno'n ddiogel.

Pa gyfleusterau sydd ar gael i gŵn?

Gellir dod o hyd i finiau yn y maes parcio.

Os fydd angen rhywbeth ar eich ci yn ystod eich ymweliad, byddwn yn falch o helpu lle fo'n bosib.

Beth sydd angen i mi fod yn ymwybodol ohono?

Mae gan Mwnt dda byw yn pori drwy gydol y tymor, felly gofynnwn yn garedig i ymwelwyr gadw eu cŵn ar dennyn byr bob amser er mwyn cadw'r anifeiliaid yn ddiogel.

Cynghorir hefyd ichi beidio â gadael eich anifail anwes yn y car am gyfnodau hir, gan nad yw ein meysydd parcio'n cynnig llawer o gysgod yn ystod y tymhorau cynnes.

Byddwch yn ymwybodol o lanw cryf a grisiau anwastad yr holl ffordd i lawr i'r traeth tywod.

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Dynes yn sefyll yn dal corff-fwrdd ac yn gwenu yn y dŵr bas, tra bod tonnau’n torri y tu ôl iddi ym Mwnt, Ceredigion, Cymru.

Darganfyddwch fwy am Fwnt

Dysgwch sut i gyrraedd Mwnt, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Dynes yn gwenu ac yn dal llaw plentyn wrth iddynt sefyll yn y môr yn gwisgo siwtiau dŵr ym Mwnt, Ceredigion, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Darganfod y Mwnt 

Mwynhewch olygfeydd trawiadol ar eich ymweliad â’r Mwnt drwy gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae’n hafan i fywyd gwyllt, felly gwyliwch y dolffiniaid, ymwelwch â childraeth cudd neu dringwch i gopa’r bryn, Foel y Mwnt.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Visitors on a walk with their dog in Heddon Valley, Devon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)