Skip to content

Crwydro’r comin yn Pennard

Golygfa o Fae Pwll Du o ben clogwyn, yn edrych tua’r dwyrain ar hyd arfordir Pennard ym Mhenrhyn Gŵyr, Abertawe. Mae’r tonnau’n torri’n erbyn y clogwyni islaw.
Golygfa o Fae Pwll Du, Penrhyn Gŵyr | © National Trust Images/James Dobson

Mae Clogwyni Pennard, ger Southgate, Abertawe, yn cynnig golygfeydd ysblennydd ac wedi’u dynodi’n dir comin. Dewch am dro ar y comin a darganfod bywyd gwyllt Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr.

Hanes y comin

Mae tir comin yn ardal o dir lle mae gan bobl heblaw’r perchennog hawliau traddodiadol i bori eu hanifeiliaid. Mae tiroedd comin yn ôl-ddyddio senedd-dai ac yn atgof o adeg pan fyddai tir yn aml yn wyllt a di-berchennog; gwaddol o’r system faenorol.

Mae’r Ddeddf Tiroedd Comin wreiddiol yn dyddio’n ôl i 1285. Mae bellach wedi’i diwygio dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006, gyda phob darn o dir comin wedi’i gofrestru a chofnodion yn cael eu cadw’n lleol gan Gynghorau Sir. Mae tua 12 y cant o dir Cymru wedi’i ddynodi’n dir comin, gyda dros 8,500 o diroedd comin gwahanol.

Buwch yn pori ar Glogwyni Pennard ym Mhenrhyn Gŵyr. Gellir gweld cildraeth islaw.
Buwch ar Glogwyni Pennard, Penrhyn Gŵyr, Abertawe, Cymru | © National Trust Images/John Millar

Ein rôl ar y tir comin

Rydym yn gofalu am dros 3km o dir sy’n ymestyn o Bwlldu i Fae’r Tri Chlogwyn a dros 1700 hectar o dir comin ym Mhenrhyn Gŵyr.

Tir comin ym Mhenrhyn Gŵyr

Mae dros hanner y tir ym Mhenrhyn Gŵyr wedi’i ddynodi’n dir comin, sydd gyda’i gilydd yn ffurfio un o’r ardaloedd pwysicaf o rostir isel yng Nghymru. Ledled y wlad, mae grwpiau o gominwyr yn gweithio gyda’i gilydd ac, ym Mhenrhyn Gŵyr, maent wedi ffurfio Cymdeithas Cominwyr Gŵyr.

Cod y Comin

Sefydlwyd prosiect yn cefnogi Tiroedd Comin Gŵyr gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri ym 1998 a arweiniodd at lunio’r Cod Tiroedd Comin, ased i gefnogi pobl i wneud y gorau o’u hymweliad â Phenrhyn Gŵyr.

Bywyd gwyllt ar y comin

Mae tiroedd comin wedi dod yn ardaloedd pwysig iawn ar gyfer bywyd gwyllt a chadwraeth natur, gan fod bron pob un yn cefnogi llystyfiant lled-naturiol.

Mae wyneb y clogwyni yn Pennard yn ardaloedd pwysig iawn ar gyfer bwyd gwyllt – Penrhyn Gŵyr yw’r unig le yn y DU lle mae Llysiau Bystwn yn tyfu. Mae brain coesgoch yn nythu ar y clogwyni ac yn manteisio ar y porfeydd yn yr ardal gyfagos.

Mae’r darn hwn o dir yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr ac mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Mae hyn yn golygu bod gan anifeiliaid fel gwartheg a defaid yr hawl i grwydro’r rhydd ar dir comin Pennard.

Golygfa’n edrych tua’r dwyrain ar hyd arfordir Pennard gyda’r haul yn torri drwy’r cymylau

Darganfyddwch fwy ym Mhennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt

Dysgwch sut i gyrraedd Pennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

View house Dinefwr Carmarthenshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thŷ Newton yn Ninefwr 

Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.

Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.

Olwyn ddŵr a bastiwn, Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, De Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â’r olwyn ddŵr yn Aberdulais 

Mae’r olwyn ddŵr yn Aberdulais yn cynhyrchu ynni gwyrdd ar gyfer y safle fel rhan o gynllun trydan dŵr arloesol. Mae traddodiad sy’n dyddio’n ôl 400 mlynedd yn dal i fynd.