Skip to content

Arddangosfa Beth yn y Byd! yng Nghastell Penrhyn

Agoslun o gromen wydr yn cynnwys adar lliwgar, cynhenid i Affrica wedi stwffiedig yng nghasgliad Castell Penrhyn, Cymru
Adar tacsidermi mewn cromen wydr yn yr ystafell Eboni yng Nghastell Penrhyn | © Steve Peake

Bu arddangosfa 'Beth yn y Byd!' yng Nghastell Penrhyn rhwng 2019 a 2022. Edrychai ar ddarnau yn y casgliad sy’n gysylltiedig â’r gorffennol trefedigaethol, y fasnach gaethwasiaeth dros yr Iwerydd a diwylliant gwladychiaeth drwy olwg creadigol pobl ifanc lleol.

Caniatáu i’r fideo chwarae? Mae cynnwys a gyhoeddwyd ar YouTube ar y dudalen hon.

Rydym yn gofyn am eich caniatâd cyn i unrhyw beth lwytho, oherwydd gallai’r cynnwys hwn gyflwyno cwcis ychwanegol. Efallai yr hoffech ddarllen telerau gwasanaeth  a pholisi preifatrwydd  YouTube Google cyn derbyn.

Fideo
Fideo

Edrych yn ôl ar 'Beth yn y Byd!'

Ewch ar daith rithiol o amgylch arddangosfa 'Beth yn y Byd!' a darganfyddwch ychydig o stori Castell Penrhyn fel adroddir trwy’r adeilad, peintiadau a gwrthrychau yr ydym yn gofalu amdanynt. Mae’r casgliad yn adrodd storïau o fannau sy’n bell tu hwnt i waliau’r castell; gan gynnwys rhai’r bobl a’r lleoedd a dalodd am adeiladu a dodrefnu ystâd y Penrhyn.

Creu Beth yn y Byd! yng Nghastell Penrhyn

Er mwyn creu Beth yn y Byd!, buom yn gweithio gyda Shaza, Fatimah, Leon, Adam, Abhay, Victoria, Julia, Alice, Khalid, a Zahraa o Ysgol Gynradd Ein Harglwyddes ym Mangor. Fe wnaethant ddewis 9 o wrthrychau a pheintiadau, er mwyn archwilio cysylltiadau’r castell â gwladychiaeth a’r fasnach gaethwasiaeth dros yr Iwerydd.

Ar yr un pryd, roedd staff a gwirfoddolwyr yn gweithio yn yr archifau i ehangu ein dealltwriaeth o gysylltiadau’r Penrhyn â chaethweision ar blanhigfeydd siwgr Jamaica.

Gwyliwch y fideo yma a darganfod sut yr oedd y plant yn teimlo yn ystod eu hamser yn archwilio hanes y castell.

Ymwelwyr yn edrych ar arddangosfa 'Beth yn y Byd!' yng Nghastell a Gardd Penrhyn, Gwynedd, Gogledd Cymru
Ymwelwyr yn edrych ar arddangosfa 'Beth yn y Byd!' yng Nghastell Penrhyn | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Gweithio gyda beirdd

Trwy gydol y prosiect, roedd y plant a thîm y Castell yn gweithio gyda haneswyr a’r beirdd Martin Daws ac Aneirin Karadog. Trwy ymateb yn greadigol roeddem yn gallu rhyngweithio a meddwl am y casgliad a’n hanes byd-eang mewn ffordd wahanol.

Amser i ystyried

Wrth feddwl am yr arddangosfa a’r broses yr aethom trwyddi i’w llunio, dywedodd Leon:

'Mae’n bwysig siarad am y gwrthrychau yma oherwydd mae’n hanes i ni i gyd. Mae’n dywyll, yn annymunol ac yn greulon. Dyna i chi’r Gromen Adar, maen nhw wedi cymryd rhywbeth hardd a’i drin fel petai ddim yn fyw, fel petai’n eiddo. Mae’r castell yma’n hardd, mae’r gwrthrychau yma’n hardd, ond maen nhw’n deillio o greulondeb, mae rhai ohonyn nhw’n dod o greulondeb at bobl gaeth o Affrica.

Adeiladu gwell dyfodol

'Mae ysgrifennu’r cerddi yma wedi gwneud i mi ystyried a meddwl yn ôl am hanes y Penrhyn. Dwi ddim yn berson emosiynol iawn a deud y gwir ond mae’n bwysig meddwl am ein gorffennol a gorffennol pobl eraill, pam bod y castell yma’n bodoli?

'Mae angen i ni edrych ar harddwch y gorffennol ond hefyd cydnabod ein camgymeriadau a llunio gwell dyfodol. Pam gwneud yr un camgymeriadau eto?'

Cyflwyniad i'r casgliad Beth yn y Byd!

'A short account of the African slave trade', llyfr gan Robert Norris yng Nghastell Penrhyn
'A short account of the African slave trade', llyfr gan Robert Norris yng Nghastell Penrhyn | © Steve Peake

Llyfr 'A short account of the African slave trade' gan Robert Norris

Masnachwr caethweision oedd Robert Norris. Ysgrifennodd y llyfr yma fel amddiffyniad o'r fasnach caethweision. Dywedodd am y bobl o Affrica oedd yn cael eu caethiwo a chludo ar draws Fôr yr Iwerydd: “Roedd y fordaith o Affrica i India'r Gorllewin yn un o'r cyfnodau hapusaf eu bywydau.” Tu mewn i'r llyfr, ysgrifennodd: ‘By Desire of the Author’. Mae hyn yn awgrymu ei fod wedi rhoi y llyfr i Richard Pennant, Arglwydd Penrhyn – anrheg gan un ymgyrchydd yn erbyn dileu caethwasiaeth i un arall.

1 of 5

Archifau Prifysgol Bangor

Cedwir y papurau’n ymwneud â’u stadau yn Jamaica yn Archifau Prifysgol Bangor. Er mwyn cael dysgu rhagor, dilynwch y ddolen hon i’w gwefan.

Ymwelwyr yn edrych ar fynyddoedd Eryri o ardd Castell Penrhyn wrth iddi fachlud

Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dyfrlliw yn cael ei ddangos fel delwedd ffotograffig ddu a gwyn. Yn nodi’r lleoliad fel Jamaica yn dangos bryniau, palmwydd a chychod. O gasgliad Penrhyn
Erthygl
Erthygl

Castell Penrhyn a hanes fasnach gaethwasiaeth 

Heddiw, gwelwn bensaernïaeth fawreddog, crandrwydd Fictoraidd ac addurnwaith moethus, ond mae’r hanes y tu ôl i Gastell Penrhyn yn dywyll iawn.

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.

CHWAREL Y PENRHYN gan Henry Hawkins (1822-80) o’r Penrhyn.  (Derbyniwyd yn lle treth gan Drysorlys EM a’i dyrannu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1951)
Erthygl
Erthygl

Streic Fawr y Penrhyn 

Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.