
Darganfod mwy ym Mhlas yn Rhiw
Darganfod sut i gyrraedd Plas yn Rhiw, ble i barcio, pethau i'w gweld a'u gwneud, a mwy.
Ymwelwch â Phlas yn Rhiw a helpwch ni i warchod ein to drwy arwyddo llechen.
Dewch yn ran o wead Plas yn Rhiw haf yma a helpwch ni i atgyweirio ein to sy'n gollwng. Rydym yn eich gwahodd i adael eich marc ar yr adeilad hanesyddol yma am y 100 mlynedd nesaf drwy arwyddo un o'n llechi to newydd.
Fel elusen cadwraeth, rydym yn ymroddedig i ofalu am leoliadau arbennig fel y plasdy lledrithiol yma. Yn anffodus mae cyflwr y to wedi dirywio gyda dŵr yn treiddio i mewn i’r adeilad yn rheolaidd gan fygwth cyflwr y tŷ a’r casgliad amhrisiadwy o eiddo'r chwiorydd Keating.
Felly, yn yr hydref mi fyddem yn cychwyn ar brosiect i adnewyddu’r to ac rydym yn eich gwahodd i adael eich marc ar Blas yn Rhiw drwy lofnodi un o’r llechi to newydd.
Dyma gylfe prin i ddod yn rhan o hanes Plas yn Rhiw. Bydd yr holl elw yn mynd tuag at waith cadwraeth yr adeiladau ym Mhlas yn Rhiw, gan gychwyn efo'n prosiect ail-doi mawr yn y gaeaf. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y to yn goroesi ar gyfer dyfodol Plas yn Rhiw i'r 22ain ganrif a thu hwnt.
Byddwn yn cau yn gynnar eleni i ddechrau ar y gwaith, ac ein diwrnod agored olaf bydd 24 Medi. Cymerwch olwg ar ein horiau agor yma i arwyddo llechen eich hun a dod yn rhan o hanes.
Darganfod sut i gyrraedd Plas yn Rhiw, ble i barcio, pethau i'w gweld a'u gwneud, a mwy.
Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.
Dysgwch ragor am gyn-breswylwyr Plas yn Rhiw, o'r teulu Lewis oedd yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif, i'r chwiorydd Keating a'i hadferodd yn 1939.