Skip to content

Ymweld â’r ardd ym Mhlas yn Rhiw

Llun agos o ganghennau coed afalau ym Mhlas yn Rhiw gyda’r coetir yn y cefndir ar Benrhyn Llŷn, Cymru
Coed afalau ym Mhlas yn Rhiw, Penrhyn Llŷn | © National Trust/Malcolm Davies

Crwydrwch o gwmpas yr ardd organig, yn llawn o blanhigion wedi eu fframio â dros chwarter milltir o wrychoedd pren bocs. Bydd pob tymor yn cynnig rhywbeth gwahanol i chi ei ddarganfod yn yr ardd ym Mhlas yn Rhiw. Dysgwch beth fyddwch chi’n ei weld pan fyddwch yn ymweld.

Hydref 

Mae tair eucryphia urddasol yn tra-arglwyddiaethu ar yr ardd trwy gydol mis Medi, eu blodau gwyn pur yn berwi o wenyn. Mae codau ffrwythau tebyg i chili y Magnolia (campbellii mollicomata) yr un mor atyniadol â'i blodau yn y gwanwyn. 

Y berllan

Wrth i'r dyddiau ddechrau byrhau, mae lliwiau fflamgoch y coetir yn gefnlen hardd. Crwydrwch yn ein perllan ac fe welwch ddigonedd o ffrwythau, y cyfan yn gynhenid i Gymru. Chwiliwch am yr afal Enlli enwog. 

 

Eirlysiau yn yr ardd ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd, Cymru
Eirlysiau yn yr ardd ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd | © National Trust Images/Clwb Camera Dwyfor

Gaeaf 

Wrth i’r dail ddisgyn, byddwch yn barod i gael eich synnu gan y golygfeydd o’r môr a’r arfordir o’r ardd ym Mhlas yn Rhiw. 

Elebwr a llysiau’r blaidd 

Bydd yr ardd yn parhau i roi trwy fisoedd llwm y gaeaf, gyda'r pren bocs Nadolig a'r gollen ystwyth yn llenwi'r ardd â'u peraroglau; bydd crafanc-yr-arth, bleidd-dag y gaeaf a choesynnau coch noeth y cwyrosyn coch yn cynnig amrywiaeth o liwiau. 

Eirlysiau ym Mhlas yn Rhiw 

Yr eirlysiau llachar yw'r arwydd cyntaf bod y gwanwyn ar ei ffordd.  Byddant yn garped ar lawr y coetir ac yn llenwi'r ardd, golygfa i ryfeddu ati.  

 

 

Plas yn Rhiw yn ei ogoniant
Plas yn Rhiw yn ei ogoniant | © National Trust Images / Annapurna Mellor

Gwanwyn

Mwynhewch y magnolias a’r camellias rhyfeddol, Rhododendron ac asaleas, cennin Pedir, tiwlipau a phob math o drysorau yn y borderi. Yn hwyr yn y gwanwyn cewch arddangosfa wych gan y wisteria sy'n dringo, gan orchuddio'r hen adeiladau.

Tegeirianau

Chwiliwch am y tegeirianau brith cyffredin yn y berllan, clychau'r gog yn y coetir uchaf a briallu ger pwll y felin, golygfa i ryfeddu ati. 

Rhododendron  

Chwiliwch am y tegeirianau brith cyffredin yn y berllan, clychau'r gog yn y coetir uchaf a briallu ger pwll y felin, golygfa i ryfeddu ati. 

Y parcdir a chlychau’r gog ym Mhlas yn Rhiw  

Yn y gwanwyn, ymgollwch yn yr arddangosfa ryfeddol o glychau'r gog sy'n garped ar lawr y coetir, a'r briallu melyn llachar. 

Bydd y berllan yn dod yn fyw tua diwedd Ebrill a mis Mai, gyda dros 130 o goed yn blodeuo. Bydd y glaswelltir o ddiddordeb hefyd, chwiliwch am y briallu brith cyffredin, pys y ceirw a blodau'r llefrith. Daw'r gog heibio Plas yn Rhiw ac fe'i clywyd ac fe’i gwelwyd yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

 

 

Ymwelydd yn yr ardd ym Mhlas yn Rhiw, Penrhyn Llŷn, Gwynedd
Ymwelydd yn yr ardd ym Mhlas yn Rhiw | © National Trust/Malcolm Davies

Haf

Crwydrwch trwy fôr o liwiau'r haf yn cynnwys casgliad o dri lliw ar ddeg; y mathau pen mop, les a villosa anarferol. Bydd ffiwsias, rhosod hen ffasiwn a blodau parhaol y borderi yn llenwi'r ardd â lliw ac arogleuon hyfryd. 

Jasmin wen

Wrth adael y tŷ, mae'r feranda yn cysgodi jasmin wen hardd, tair abwtilon ashford coch sy'n blodeuo'n barhaus trwy gydol y flwyddyn, a rhes o rosod dringol, heb bigau (zepherine drouhin). 

Caeau blodau gwyllt 

Bydd y caeau blodau gwyllt yng nghefn y tŷ yn llawn o bryfed. Gwyliwch am wenoliaid a gwenoliaid y bondo yn cario pryfed i'w cywion, neu fwncathod yn troelli uwch ben. 

 

 

 

 

 

Y tŷ ym Mhlas yn Rhiw, yng nghanol asaleas llachar a dail newydd y gwrychoedd pren bocs, yng Ngwynedd, Cymru.

Darganfyddwch fwy ym Mhlas yn Rhiw

Dysgwch pryd mae Plas yn Rhiw ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Hanes Plas yn Rhiw 

Dysgwch ragor am gyn-breswylwyr Plas yn Rhiw, o'r teulu Lewis oedd yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif, i'r chwiorydd Keating a'i hadferodd yn 1939.

Tu mewn i’r Gegin ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd. Mae hambwrdd brecwast, tebot a chwpanau ar fwrdd pren y gegin. Mae lle tân carreg a stôf ynddo, ac mae hors ddillad yn sefyll o’i flaen.

Ymweld â'r tŷ ym Mhlas yn Rhiw 

Dewch i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd i ddysgu sut y gwnaeth tenantiaid y gorffennol y tŷ yn gartref cysurus.

Offer ymolchi gan gynnwys hufen dwylo ac eau de cologne Yardley, yn yr Ystafell Wely Felen ym Mhlas yn Rhiw, Pwllheli, Gwynedd.

Ymweld â Phlas yn Rhiw gyda’ch ci 

Mae gan Blas yn Rhiw sgôr o un bawen. Dyma i chi ganllaw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ddod â’ch ci i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd, Cymru.

Ci ar dennyn yn crwydro eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ein gwaith ym Mhlas yn Rhiw 

Darllenwch sut y trawsnewidiwyd cae yn gynefin llawn bywyd gwyllt ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd.

Y berllan a blannwyd mewn gweirglodd uwch ben y tŷ ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd, Cymru.