Skip to content

Ymweld â Phlas yn Rhiw gyda’ch ci

Ci ar dennyn yn crwydro eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ci ar dennyn yn crwydro eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol | © National Trust Images/John Miller

Nid yw diwrnod hefo’ch teulu yn gyflawn heb eich cyfaill ar bedair coes. Dyma ein hawgrymiadau i sicrhau eich bod chi a’ch ci yn gwneud y mwyaf o’ch taith i Blas yn Rhiw.

Ein system sgorio pawennau  

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar fydd eich ymweliad i chi a’ch ci cyn i chi gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae gan Blas yn Rhiw sgôr o un bawen. 

Mae croeso i gŵn yma, ond mae’r cyfleusterau’n gyfyngedig. Gallant ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored gerllaw, yn dibynnu ar y tymor. Darllenwch ‘mlaen i weld ble yn union gallwch chi fynd â’ch ci.

Ble allai fynd â fy nghi ym Mhlas yn Rhiw? 

Mae croeso i gŵn ddod i archwilio llwybrau’r coetir isaf, tu ôl i’r dderbynfa i ymwelwyr a’r toiledau, ar dennyn byr. Mae croeso iddynt hefyd ar y cwrt wrth yr ystafell de ar dennyn. 

Ble fydd fy nghi ddim yn cael mynd? 

Dim ond cŵn cymorth sy’n cael mynd i’r brif ardd, y coetir uchaf, y berllan a’r tŷ. 

Cod Cŵn 

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cyfleusterau sydd ar gael i’m ci 

Mae bowlenni dŵr ar gael tu allan i’r dderbynfa i ymwelwyr ac ar gwrt yr ystafell de. Mae un bin baw cŵn ar y safle, ym man cychwyn y llwybrau yn y coetir isaf ar ôl y toiledau. 

Y tŷ ym Mhlas yn Rhiw, yng nghanol asaleas llachar a dail newydd y gwrychoedd pren bocs, yng Ngwynedd, Cymru.

Darganfyddwch fwy ym Mhlas yn Rhiw

Dysgwch pryd mae Plas yn Rhiw ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymweld â’r ardd ym Mhlas yn Rhiw 

Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.

Llun agos o ganghennau coed afalau ym Mhlas yn Rhiw gyda’r coetir yn y cefndir ar Benrhyn Llŷn, Cymru

Ymweld â'r tŷ ym Mhlas yn Rhiw 

Dewch i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd i ddysgu sut y gwnaeth tenantiaid y gorffennol y tŷ yn gartref cysurus.

Offer ymolchi gan gynnwys hufen dwylo ac eau de cologne Yardley, yn yr Ystafell Wely Felen ym Mhlas yn Rhiw, Pwllheli, Gwynedd.

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

A visitor with their dog leaving the Muddy Paws café at Lyme Park, Cheshire

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Taith Plas yn Rhiw a phentref y Rhiw 

Taith trwy goetir arfordirol i bentref y Rhiw, gan fynd o amgylch godre’r mynydd ac yn ôl i lawr i Blas yn Rhiw ar hyd lonydd gwledig.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2.3 (km: 3.68)
Golygfa o’r traeth tywod gwyn ym Mhorth Neigwl gyda choed gwyrdd llachar a choetir yn y blaendir o ystâd Plas yn Rhiw, Gwynedd, Cymru