Skip to content
Prosiect

Y prosiect ym Mhlas yn Rhiw

Aerial view of a stone-built country house with green gardens.
Awyrlun o dŷ a gardd Plas yn Rhiw | © National Trust Images/Paul Harris

Mae Plas yn Rhiw yn mynd trwy waith cadwraeth ac adfer helaeth ar hyn o bryd i ddiogelu ei ddyfodol. Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael ag anghenion strwythurol a chadwedigaeth allweddol, gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Plas yn Rhiw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Tra bod y tŷ dal ar gau, rydym yn awyddus i rannu diweddariadau ar gynnydd ac effaith y gwaith hanfodol hwn.

Gwaith cadwraeth ac adfer parhaus ym Mhlas yn Rhiw

Mae gofalu ac edrych ar ôl pob eiddo yn ganolog i'n hachos. Yn ystod y gwaith adnewyddu to ym Mhlas yn Rhiw yn 2023, datgelodd arolygon i'r grisiau a’r lloriau fod angen gwneud gwaith adfer helaeth. Penderfynwyd gau’r tŷ er mwyn gallu gwneud y gwaith cadwraeth ac adfer helaeth i ddiogelu ei ddyfodol. Mae disgwyl i’r tŷ aros ar gau tan fis Gorffennaf 2026, ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd ein hymwelwyr wrth i ni wneud y gwaith hollbwysig hwn.

Ym 1938, dechreuodd y teulu Keating gwaith adfer helaeth eu hunain i'r tŷ hwn. Roedd Plas yn Rhiw yn adfail llwyr, ac roedden nhw’n wynebu talcen caled heb ei debyg. Yn ystod y gwaith diweddar i osod to newydd, daeth heriau go debyg i'r amlwg. Wrth archwilio’r lloriau uwch, gwelwyd bod pydredd yn y grisiau a gwendid strwythurol yn y lloriau. Ar ôl cwblhau’r to yn 2024, mae’r gwaith adeiladu sy’n mynd rhagddo heddiw yn canolbwyntio ar adnewyddu’r mannau hyn.

Beth yw’r prosiect?

Yn 2023, dechreuodd prosiect adnewyddu mawr, gan ddechrau gyda’r to newydd cyntaf mewn dros 200 mlynedd. Defnyddiwyd 4,839 o lechi Cymreig o chwarel y Penrhyn wrth gadw cymaint o lechi gwreiddiol â phosibl. Fe wnaethom ailgartrefu’n ofalus pum haid o wenyn mêl du Cymreig. Trwy osod bylchau bach o amgylch y to ac o dan y llechi, rydym wedi creu mannau i'r gwenyn ddychwelyd.

Gwenynwyr yn ailgartrefu gwenyn yn ofalus o do Plas yn Rhiw
Gwenynwyr yn ailgartrefu gwenyn yn ofalus o do Plas yn Rhiw | © National Trust Images/Iolo Penri

Yn ystod yr adnewyddiad to, datgelodd arolygon i'r grisiau fod pydredd sych a gwendidau strwythurol yn y lloriau. Roedd cam cyntaf y prosiect yn cynnwys tynnu ac ailosod y grisiau uchaf a thrin y pydredd sych. Bydd ail gam y prosiect hwn yn digwydd unwaith bydd y prosiect llawr wedi’i gwblhau. Mae'r gwaith yn cynnwys ychwanegu cynhalwyr dur, disodli trawstiau sydd wedi'u difrodi ac atgyweirio mannau llawr wrth gadw deunyddiau gwreiddiol. Bydd yr adferiad hwn yn gwella diogelwch a sefydlogrwydd hirdymor Plas yn Rhiw.

Ym 1938, roedd yr heriau a wynebodd y teulu Keating yn enfawr. Roedd mieri’n tyfu dros y drws ffrynt, a’r nant yn llifo drwy’r neuadd. Golygai hynny fod y grisiau ar y llawr gwaelod wedi’u difrodi am byth. Codwyd grisiau cerrig yn lle’r rhain, tra cadwyd y grisiau uwch yn rhai derw.

Bydd y gwaith hwn, sydd wedi'i ariannu gan etifeddiaeth y chwiorydd Keating, yn sicrhau adfer y grisiau yn ddiogel ac yn hanesyddol, gan wella uniondeb strwythurol a chyflwyniad.

Llinell Amser y Prosiect a Diweddariadau yn y Dyfodol

Rŵan gyda’r to wedi’i gwblhau, mae ein sylw yn troi at y grisiau a’r lloriau. Daeth yr angen am yr atgyweiriadau hyn i'r amlwg yn ystod y prosiect ail-doi. Rhaid cwblhau’r gwaith adnewyddu hanfodol yma cyn y gallwn ailagor y tŷ, gan sicrhau bod Plas yn Rhiw yn cael ei ddiogelu am flynyddoedd i ddod. Disgwylir ailagor y tŷ yn llawn ym mis Gorffennaf 2026.

Wrth i'r prosiect fynd rhagddo, byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda'r holl newyddion diweddaraf felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych yn ôl i ddarganfod mwy.

Diolch am eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth wrth i ni gwblhau'r gwaith cadwraeth bwysig hwn. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni eleni i ddysgu mwy am sut rydym yn gofalu am y lle arbennig hwn. Mae pob ymweliad, rhodd ac aelodaeth yn helpu i ddiogelu a gofalu am yr adeilad hanesyddol hwn fel y gall y genhedlaeth nesaf ei fwynhau.

Close-up of a slate roof with builders, scaffolding and a stone chimney under renovation
Prosiect ail-doi ym Mhlas yn Rhiw | © National Trust Images/Iolo Penri

Cwestiynau cyffredin