Skip to content

Ein gwaith yn Rhosili

Gwartheg Shetland ar y Warren ym Mae Rhosili
Gwartheg Shetland ar y Warren ym Mae Rhosili | © Chris Smith

Mae Rhosili wedi ffynnu dros y blynyddoedd diwethaf diolch i’n harferion ffermio ecogyfeillgar. Drwy blannu cnydau âr traddodiadol a dolydd blodau gwyllt, rydym wedi helpu i wella bioamrywiaeth a chreu ffynonellau bwyd i wenyn, pili-palod a heidiau o adar gaeafu. 

Paradwys y peilliwr

Mae peillwyr yn dirywio’n sylweddol ledled y wlad, ond mae Rhosili’n gwyrdroi’r duedd genedlaethol. Dim ond dwy flynedd yn ôl, roedd y boblogaeth wenyn yma cyn lleied â 2,000, ond heddiw amcangyfrifir bod chwarter miliwn o wenyn yn y caeau blodau haf yn unig.

Mae newid ein ffordd o ffermio a rhoi natur wrth galon yr hyn a wnawn wedi gwella bioamrywiaeth yr ardal hon yn ddramatig. 

Creu gweirgloddiau newydd

Roedd gweirgloddiau’n gyffredin yn ffermydd y DU ers talwm, gan gynnig bwyd i’r anifeiliaid dros y gaeaf. Roedd y dolydd hyn yn llawn planhigion a blodau gwahanol i gynnig deiet naturiol dros y gaeaf, ac roedden nhw’n gynefinoedd bywyd gwyllt gwych. 

Ond mae ffermio modern bellach yn ffafrio caeau silwair, sydd yn aml yn cynnwys cyn lleied â dwy rywogaeth o blanhigyn a dim blodau o gwbl.

Pŵer blodau

Drwy gael gweirgloddiau sy’n fôr o flodau unwaith eto, gallwn ddarparu ffynhonnell o neithdar i beillwyr fel gwenyn, pili-palod a gwyfynod. Mae hefyd yn lle gwych i fagu teulu os ydych chi’n aderyn sy’n nythu ar y ddaear, ac mae’r glaswellt tal yn lloches i famaliaid bach fel llygoden y gwair a’r llŷg (neu chwistlen).

Y fantell dramor ar flodyn pengaled wyllt
Mae plannu dolydd blodau gwyllt yn helpu peillwyr fel gwenyn a phili-palod | © National Trust Images/Harry Davies

I roi hwb i’n dolydd rydym wedi eu hadu eto gyda chymysgedd gyfoethog o hadau glaswellt a blodau gwyllt. Ariannwyd y gwaith hwn gan Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr, a gefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mewn ardaloedd eraill rydym wedi gwasgaru gair gwyrdd o ddôl sefydledig i helpu i gynyddu nifer y planhigion gwahanol sydd gennym ni ar draws y Vile.

Addasu amaethu

Mae’r dull ffermio ‘cae lleiniau’ traddodiadol wedi’i ailgyflwyno ar draws 45 hectar o dir amaeth ar y Vile yn Rhosili. Mae’r hen ddull hwn o amaethyddiaeth yn cynnwys rhannu caeau cnydau’n lleiniau hir, cul, gan ganiatáu mwy o gylchdroi cnydau sydd, mewn tro, yn gwneud y pridd yn fwy ffrwythlon. Y nod yw ffermio’r caeau hyn mewn ffordd gynhyrchiol, gan greu incwm tra hefyd yn rhoi budd i fywyd gwyllt.

Pori er lles cadwraeth

Mae gwartheg Shetland, brîd sy'n enwog am ei galedwch a'i allu i addasu, wedi ymgarterfi ym mae hardd Rhosili. Mae'r gwartheg cryno yma, sy'n frodorol i Ynysoedd Shetland, yn ffynnu yng nghanol tirwedd amrywiol y Warren, gan gymysgu'n ddi-dor â'r rhostir arfordirol a phori ar y porfeydd ffrwythlon sy'n ymestyn tuag at glogwyni'r môr.

Gyda'u cotiau trwchus unigryw yn darparu inswleiddio yn erbyn y gwyntoedd oer a thymeredd mor isel â -12C, maent yn pori'n fodlon, gan ymgorffori hanfod ffermio cynaliadwy mewn cytgord â natur.

Mae eu presenoldeb nid yn unig yn ychwanegu at harddwch golygfaol y dirwedd ond mae hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal cydbwysedd cain yr ecosystem, gan gyfrannu at ymdrechion cadwraeth yr hafan arfordirol delfrydol hon. Wrth iddynt bori'n heddychlon yn erbyn cefndir golygfeydd ysgubol Bae Rhosili, saif gwartheg Shetland fel tyst i wytnwch a thraddodiad yn y gornel syfrdanol hon o Gymru.

Plannu cnydau âr ecogyfeillgar

Mae gan y caeau cnydau ymylon llydan ac nid oes hadau’n cael eu hau yma. Mae hyn yn creu lle i flodau gwyllt âr prin, prydferth. Mae’r feillionen goch yn cael ei hau o dan yr holl gnydau, sydd nid yn unig yn dda i’r gwenyn a’r pili-palod ond hefyd yn diogelu’r priddoedd ar ôl y cynhaeaf. 

Fodd bynnag, mae’n anodd dod o hyd i beiriannau amaethyddol modern sy’n ddigon bach i ffitio i mewn i’r caeau i gynaeafu’r cnydau. I sicrhau y gallem barhau i ffermio’r caeau lleiniau traddodiadol, prynom ddyrnwr medi o’r 1970au sy’n ddelfrydol ar gyfer y gwaith.

Rheoli ein cloddiau

Mae ail-greu hen ffiniau coll hefyd yn dod â budd i fywyd gwyllt. Mae’r cloddiau rhwng ein caeau yn gweithredu fel coridorau bywyd gwyllt, gan gynnal llif o flodau gwyllt ar draws ein caeau. Maen nhw’n galluogi adar i nythu yn y cloddiau, pryfed i nythu yn y glaswellt hir a mamaliaid i deithio allan o olwg adar ysglyfaethus.

Llif llaw oren yn gorffwys ar bolyn ffens ger clawdd trwchus
Mae adfer cloddiau’n dod â manteision amrywiol i fywyd gwyllt ac amaethyddiaeth | © National Trust Images/Steve Sayers

Gallant hefyd newid yr hinsawdd yn ein caeau. Gyda diflaniad ffiniau (ac yn enwedig cloddiau), does dim byd i arafu gwynt y môr. Gall gwynt newid cymeriad y dirwedd yn gyflym iawn, a heb unrhyw le i lochesu, ni all ehedwyr gwannach fel ein pili-palod a’n gwenyn ymdopi.  

Sut byddwn yn gwybod ein bod wedi gwella amodau i fywyd gwyllt?

Rydym yn cynnal arolygon llinell sylfaen o’n holl gaeau i gofnodi eu cyflwr, asesu niferoedd bywyd gwyllt a chofnodi ansawdd y pridd (ymysg pethau eraill) i ddeall yn well sut y dylem fod yn gofalu am y tir. Drwy ailadrodd yr arolygon hyn bob blwyddyn neu ddwy, mae’r data’n helpu i lywio penderfyniadau rheoli tir parhaus.

Diolch

Gyda’ch cefnogaeth barhaus gallwn barhau gyda’n gwaith cadwraeth hanfodol. Diolch am helpu i ddiogelu’r llefydd arbennig hyn.

Ymwelwyr yn cerdded ymysg y blodau haul gyda’r môr y tu ôl iddynt yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.

Ymwelwyr yn cerdded ar hyd llwybr ym Mhenrhyn Gŵyr wrth ymyl wal gerrig gyda defaid yn y pellter. Mae’n ddiwrnod niwlog ac mae’r bryniau yn y pellter wedi’u gorchuddio gan niwl.
Erthygl
Erthygl

Hanes Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Tirwedd hynafol yw Rhosili ac arfordir De Gŵyr. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r traeth a’r golygfeydd ysgubol, ond o dan ein traed mae tir hynafol, hanesyddol a thrysorau i’w darganfod.

Rangers and HSBC volunteers planting Sphagnum moss at High Peak Estate, Derbyshire
Erthygl
Erthygl

Working towards a green recovery 

With support from the Government’s Green Recovery Challenge Fund, we're looking for ways to protect our environment and combat climate change. Find out more about the work we're doing.