Skip to content

Ein gwaith yn Stad Southwood

Dwy fenyw’n nesáu at gât ar lwybr yr arfordir yn Stad Southwood, gyda banc o flodau gwyllt yn y blaendir
Ymwelwyr yn cerdded ar lwybr yr arfordir yn Stad Southwood, Sir Benfro | © National Trust Images/John Millar

Rhoddwyd Southwood i ni yn 2003 gan Mrs Maurer, y prynodd ei chyndeidiau’r ystâd yng nghanol y 1800au. O’r adeiladau fferm traddodiadol i’r caeau, y dolydd a’r rhostir, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i adfer yr ystâd yn ôl i’w gwir ogoniant.

Adfer yr adeiladau

Roedd angen gwneud gwaith adnewyddu sylweddol ar y ffermdy rhestredig Gradd II hanesyddol a’r buarth. O ailosod y to a gwyngalchu’r waliau i glirio malurion ac ailadeiladu’r llwybrau cobls, roedd digon i gadw’r tîm yn brysur, a dweud y lleiaf.

Ymysg y darganfyddiadau hynod a wnaed oedd darn rhyfeddol o graffiti Fictoraidd ar wal atig y ffermdy. Rydym yn tybio ei fod yn dogfennu dyletswyddau pedwar gwas a bluodd 26 o wyddau yn Rhagfyr 1878.

Beth mae’r gwaith adfer wedi’i gynnwys?

  • 22,860 darn o lechen

  • 8,300 o goed wedi’u plannu

  • 12 o wyliau gwaith

  • 3,500 o oriau gwirfoddol

  • 650 paned o de

Helpu natur i ffynnu yn Southwood

Diolch i gefnogaeth Loteri Cod Post y Bobl, rydym hefyd wedi gallu gwella’r dirwedd i fywyd gwyllt yn Folkeston, un o bum fferm sy’n rhan o 850 erw Stad Southwood. 

Goroesodd y fferm y newidiadau a ddaeth gydag amaethyddiaeth ddwys, a rhoddodd gyfle gwych i ni wella’r dirwedd i bobl a natur. Mae’r ddôl blodau gwyllt hynafol bellach yn fwrlwm o wenyn a ieir bach yr haf, mae môr o glychau’r gog yn y caeau ar hyd llwybr yr arfordir, ac mae perthi blodeuog yn hafan ddiogel i rywogaethau prin o adar, fel y bras melyn. Gwnaed defnydd da o’r cyllid hwn hefyd drwy wella’r dirwedd yn Fferm Goodhope ger Pen Strwmbl, 15 milltir i fyny Arfordir Penfro.

Hafan i adar

Yn ôl adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019, mae adar ffermdir wedi gweld dirywiad o 54% ers y 1970au. Yng Nghymru yn unig, mae nifer y breision melyn wedi dirywio 58% ers 1995 (adroddiad Sefyllfa Adar Cymru 2018) ac mae bellach ar y rhestr goch o rywogaethau dan fygythiad.

Yellowhammer perched in tree at Long Nanny, Northumberland
Bras melyn ar gangen | © National Trust Images/Derek Hatton

Mae perthi Folkeston yn cynnig yr amodau perffaith i lawer o rywogaethau o adar ffermdir, gan gynnwys un o boblogaethau mwyaf Sir Benfro o’r bras melyn. Mae buddsoddi mewn seilwaith, fel ffensys a gatiau, yn ein galluogi i ddiogelu a gwella’r rhwydwaith o berthi mawr ar draws y fferm, sy’n cynnig cynefin nythu a bwydo hanfodol i’r rhywogaethau hyn, yn ogystal â chreu coridorau i fywyd gwyllt ledaenu i rannau eraill o Stad Southwood a ffermdir cyfagos.

Adfer cynefin

Dros y canrifoedd, gwnaed gwelliannau amaethyddol ar Stad Southwood i wella cynhyrchiant. Rydym am roi mwy o le i natur, felly mae ein ffocws ers cymryd rheolaeth o’r fferm wedi bod ar reoli’r tir yn wahanol.

Un o’n cyflawniadau mwyaf yw ailgyflwyno dros hanner milltir o fanciau perth traddodiadol o gwmpas y fferm, gyda chymorth cyllid gan Ymddiriedolaeth SITA. Mae adfer y cynefin coll hwn wedi bod yn amhrisiadwy i fywyd gwyllt, ac rydym wedi gweld adar ffermdir yn dychwelyd, ystlumod yn defnyddio’r safle i glwydo, llwyth o bryfed ac anifeiliaid yn twrio a joio’r banciau pridd.

Mae’r llystyfiant yn fwy cyfoethog hefyd, gyda rhywogaethau fel y dail-ceiniog, bysedd y cŵn, y ddraenen ddu a’r blodyn neidr bellach i’w gweld yn y rhwydwaith o berthi.

Pori er lles cadwraeth

Rydym yn helpu i barhau â thraddodiad ffermio sy’n estyn yn ôl canrifoedd gyda’n anifeiliaid pori, sy’n mwynhau deiet o laswellt naturiol o’n rhostir tra’n cadw’r cynefin mewn cyflwr da.

Heb bori rheolaidd, mae rhostir yn gordyfu’n gyflym ar draul y grug eiconig, blodau, pryfed ac adar. Mae da byw yn cadw rheolaeth ar y prysgwydd a’r porfeydd cystadleuol, gan gynnal llystyfiant agored sy’n gyfoethocach i natur.

Dyna pam na welwch chi ein Gwartheg Duon Cymreig bendigedig neu’n Merlod Mynydd Cymreig yn Fferm Southwood bob amser, gan eu bod nhw fel arfer allan yn pori ein rhostiroedd clogwynog a’r tir comin rhwng Tyddewi ac Abergwaun.

Ein praidd

Mae Gwartheg Duon Cymreig a Merlod Mynydd Cymreig yn enwog am eu gwydnwch, eu hyblygrwydd ar bob math o dirwedd, eu hunan-ddibyniaeth a’u natur ddiddig. Felly, mae’r bridiau brodorol hyn yn addas i’n anghenion pori er lles cadwraeth.

Mae ein ceidwad da byw yn gofalu am y preiddiau gan sicrhau bod rhostiroedd gogledd Sir Benfro’n cael eu pori’n gyfartal. Ar gyfartaledd, mae’r gwartheg a’r merlod yn pori 100 hectar o dir y flwyddyn.

Dolydd a phorfeydd

Rydym hefyd yn gweithio i wella cynefinoedd eraill ar y fferm, gan gynnwys y dolydd blodau gwyllt, glaswelltir corsiog (neu rostir) a chnydau grawnfwyd y gwanwyn.

Mae ffensys, gatiau a chyflenwadau dŵr yn ein galluogi i gynyddu’r ardal y gallwn ei ‘chau’ ar gyfer gwellt neu ohirio pori’r gwartheg bob blwyddyn. Mae gan hyn fanteision uniongyrchol i’r glaswelltiroedd botanegol-gyfoethog a’r pryfed prin maen nhw’n eu cynnal, ac mae hefyd yn ein helpu ni i gynnal y dolydd clychau’r gog arfordirol.

Gwartheg Duon Cymreig yn sefyll mewn cae gyda phobl yn pwyso ar gât yn y cefndir
Gwartheg Duon Cymreig yn Stad Southwood, Sir Benfro | © National Trust Images/John Millar

Pŵer pobl

Gwaith tîm sydd wedi gwneud ein cynllun rheoli tir yn bosibl, gyda’n ceidwaid, cynorthwywyr cadwraeth gwirfoddol a grwpiau gwyliau gwaith yn rhoi o’u hamser i gyflawni dros natur.

Rydym am i ymwelwyr allu gweld ein dull gweithredu sy’n rhoi natur yn gyntaf gyda’u llygaid eu hunain a mwynhau’r gorau o dirwedd Southwood. Dyna pam rydym hefyd wedi agor cyfres o lwybrau cerdded cyhoeddus; dewiswch o lwybr arfordirol 3½ milltir neu lwybr ling-di-long milltir o hyd.

Gwarchod gorffennol a diogelu dyfodol Southwood

Mae gwarchod gorffennol Southwood yn bwysig i ni, ond felly hefyd ddiogelu ei dyfodol. Mae eich cefnogaeth – boed yn ymweliad, aelodaeth neu rodd maes parcio – yn golygu y gallwn barhau â’n gwaith cadwraeth hanfodol a sicrhau bod y lle arbennig hwn yn cael ei fwynhau am genedlaethau i ddod.

Diolch

Gyda’ch cefnogaeth barhaus gallwn barhau gyda’n gwaith cadwraeth hanfodol. Diolch am helpu i ddiogelu’r llefydd arbennig hyn.

Painted lady butterfly at Quarry Bank Mill, Cheshire

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa arfordirol yn edrych tua’r de-orllewin tuag at Fae San Ffraid dros benrhyn cribog Dinas Fawr. Mae Ynys Sgomer i’w gweld yn y môr yn y pellter.
Lle
Lle

Arfordir Solfach 

Solva’s jutting headlands, gentle valleys and sweeping shores all have a tale to tell. From Iron Age settlements and industry to chilling coastal chronicles, there’s lots to uncover. | Mae stori i bob un o bentiroedd ymwthiol, dyffrynnoedd esmwyth a glannau eang Solfach. O aneddiadau a diwydiant yr Oes Haearn i groniclau arfordirol iasol – mae digonedd i’w ddarganfod.

Caerfi to Newgale, Pembrokeshire

Yn hollol agored heddiw
Golygfa o ben clogwyn gyda charreg fawr ar y dde yn edrych i lawr i’r môr islaw
Lle
Lle

Penrhyn Dewi 

A colourful coastline with heaps of history, this pretty peninsula’s been a cultural hotspot for thousands of years. Discover the area’s ancestry, from Celtic life to Wales’ patron saint. | Gyda’i forlin lliwgar a’i hanes cyfoethog, mae’r penrhyn hardd hwn wedi bod yn ganolbwynt diwylliannol ers miloedd o flynyddoedd. Dewch i ddarganfod hanes hynafiaid yr ardal, o fywyd y Celtiaid i nawddsant Cymru.

St David's Peninsula, Pembrokeshire

Yn hollol agored heddiw