Skip to content

Cystadleuaeth ffotograffiaeth 50 mlwyddiant Stagbwll

Cyhoeddwyd:
02 Mehefin 2026
Elyrch ar y llynnoedd yn Stagbwll, Sir Benfro
Elyrch ar y llynnoedd yn Stagbwll, Sir Benfro | © National Trust Images/Sue Jones

Eleni mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dathlu 50 mlynedd o ofalu am stad syfrdanol Stagbwll. Rydyn ni’n gwahodd pawb i’n helpu i ddathlu'r lleoliad ysbrydoledig hwn yn Sir Benfro drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth ar y thema "Beth mae Stagbwll yn ei olygu i mi".

Mae'r gwobrau'n cael eu noddi gan Gymdeithas Ymddiriedolaeth Genedlaethol Sir Benfro, gyda gwobrau ariannol i’r enillwyr a’r sawl sy’n dod yn 2il a 3ydd ym mhob categori oedran: Oedolion, 18 ac iau, ac 11 ac iau. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 1 Gorffennaf.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi a bydd rhai printiau’n cael eu harddangos ym mhicnic dathlu 50 mlwyddiant Stagbwll ddydd Sul 12 Gorffennaf.

Bydd yr holl geisiadau’n cael eu beirniadu gan Rhian Sula, Rheolwr Cyffredinol, Sir Benfro, Dr Andrew Weaver, aelod o bwyllgor Cymdeithas Ymddiriedolaeth Genedlaethol Sir Benfro, a Drew Buckley, ffotograffydd proffesiynol lleol clodwiw.

Byddant yn chwilio am ffotograff creadigol, llawn dychymyg sy'n cysylltu â'r thema, "Beth mae Stagbwll yn ei olygu i mi."

Rhaid i bob llun fod wedi cael ei dynnu ar Stad Stagbwll a bod mewn fformat jpeg digidol gydag o leiaf 2400 picsel. E-bostiwch eich cais i stackpole@nationaltrust.org.uk erbyn 1 Gorffennaf. Rhowch deitl i’ch llun a chofiwch gynnwys eich enw llawn, oedran, manylion cyswllt a'r ddolen i'r thema yng nghorff yr e-bost. Darllenwch y telerau ac amodau am yr holl fanylion am gymryd rhan. Dydyn nhw ddim yn hir ond maen nhw’n bwysig iawn.

A close up photo of a wildflower meadow at Stackpole, Pembrokeshire featuring tall, purple wild orchids.
Wild orchids flowering in the meadow at Stackpole | © National Trust Images/Chris Lacey

Cystadleuaeth ffotograffiaeth – Beth mae Stagbwll yn ei olygu i mi, Noddir gan Gymdeithas Ymddiriedolaeth Genedlaethol Sir Benfro, Telerau ac Amodau

Mae'r holl wybodaeth a roddir ar gael i ymgeiswyr fel rhan o'r broses o gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn ffurfio rhan o'r telerau ac amodau hyn.

  • Mynediad am ddim
  • Mae'n rhaid bod lluniau wedi'u tynnu ar Stad Stagbwll. Nid oes angen iddynt fod wedi'u cymryd yn ystod dyddiadau'r gystadleuaeth.
  • Y dyddiadau ar gyfer cymryd rhan yn y gystadleuaeth yw 1 Mehefin-1 Gorffennaf 2026
  • 1 cais fesul person
  • Mae yna 3 chategori oedran – 11 ac iau, 18 ac iau, 19 a hŷn
  • Rhaid i ymgeiswyr dan 16 oed gael caniatâd gan eu rhiant/gwarcheidwad a bod yng nghwmni oedolyn os ydyn nhw’n ennill y wobr gyntaf. Mae'r rhiant/gwarcheidwad yn cytuno i'r telerau ac amodau ar eu rhan.
  • E-bostiwch eich cais gyda 'Chystadleuaeth ffotograffiaeth Stagbwll' yn y llinell pwnc i stackpole@nationaltrust.org.uk ar neu cyn 23:59 ar 1 Gorffennaf 2026.
  • Rhaid i geisiadau gynnwys teitl ar gyfer y llun, brawddeg yn disgrifio'r llun neu'r ysbrydoliaeth ar gyfer y llun, ac enw, oedran a manylion cyswllt y cystadleuydd.
  • Rhaid i geisiadau fod mewn fformat jpeg a bod o leiaf 2400 picsel neu 1 megabeit (mb).
  • Ni ddylai ceisiadau gynnwys pobl y gellir eu hadnabod.
  • Bydd y beirniadu’n digwydd rhwng 6-10 Gorffennaf, gyda phanel o 3 beirniad. Bydd y beirniaid yn chwilio am luniau sy'n adrodd stori ac yn ateb y thema 'Beth mae Stagbwll yn ei olygu i mi' mewn ffordd greadigol a diddorol.
  • Bydd gwobrau ariannol yn cael eu dyfarnu ym mhob un o'r 3 chategori oedran:

11 ac iau: 1af £50 2il £30 3ydd £15

18 ac iau: 1af £75 2il £50 3ydd £25

19 a hŷn: 1af £100 2il £75 3ydd £50

  • Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mhicnic dathlu Stagbwll yn Llys Stagbwll ddydd Sul 12 Gorffennaf.
  • Bydd lluniau'n cael eu harddangos ar ddiwrnod y picnic dathlu, a bydd y lluniau buddugol yn cael eu harddangos mewn fframiau yng Nghanolfan Stagbwll am gyfnod o amser wedyn.
  • Mae'r hawlfraint yn aros gyda'r ymgeisydd, fodd bynnag, drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth rydych chi'n rhoi caniatâd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chymdeithas Ymddiriedolaeth Genedlaethol Sir Benfro atgynhyrchu'r ddelwedd at ddibenion arddangos a hyrwyddo. Bydd lluniau’n cael eu credydu i'r ffotograffydd.
  • Yn amodol ar ganiatâd enillwyr y gwobrau, byddwn ni’n anelu at ddefnyddio manylion a ffotograffau’r enillwyr mewn deunydd cyhoeddusrwydd ar ôl y digwyddiad ar sianeli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chymdeithas Ymddiriedolaeth Genedlaethol Sir Benfro, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
  • Nid yw'r gystadleuaeth ar agor i gyflogeion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol na'u teuluoedd agos, nac unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.
  • Bydd data personol a ddarperir yn ystod y gystadleuaeth hon yn cael ei brosesu fel y nodir yn ein polisi preifatrwydd.
  • Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych chi'n cytuno i'r telerau ac amodau hyn.
  • Noddir y gystadleuaeth ffotograffiaeth gan Gymdeithas Ymddiriedolaeth Genedlaethol Sir Benfro. www.pembsnta.org.uk
Ymwelwyr yn cerdded i lawr allt at draeth yn Stagbwll

Darganfyddwch fwy yn Stagbwll

Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.