Skip to content

Camwch i fyd ‘Tin Droi’

Three of the Tin Droi commission drawings, including a drawing of a members card, and the characters 'AirBnB cleaner' at Powis Castle and the 'Man who loves clothes'
Enghreifftiau o ddarluniau sydd i'w gweld ar gyfrif @tindroi_dawdle | © Bedwyr Williams

Yn ystyried eich bod yn adnabod Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru? Byddwch yn barod i’w gweld mewn goleuni newydd gyda ‘Tin Droi’, comisiwn creadigol mewn cydweithrediad â’r artist Bedwyr Williams.

Mae’r cyfrif yn cynnwys unigolion cyfarwydd a hoffus o gyfrif Instagram poblogaidd iawn Williams (@bedwyr_williams), gan gynnwys ‘Man who absolutely loves clothes’ ac ‘AirBnB cleaner’. Mae’r cyfrif yn dogfennu’r cymeriadau wrth iddynt ymweld â lleoedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf.

Daw enw’r cyfrif “Tin Droi” o’r cyfieithiad Cymraeg am “loetran,” a bydd yn portreadu’r cymeriadau wrth iddynt grwydro amrywiaeth o eiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ledled Cymru.

A drawing of Bedwyr sat by his desk with some digital drawings on the computer
Bedwyr Williams yw'r artist sy'n gyfrifol am Tin Droi | © Bedwyr Williams

Pwy yw Bedwyr Williams

Ganwyd Bedwyr Williams yn Llanelwy, Gogledd Cymru, ac fe’i magwyd ym Mae Colwyn. Cwblhaodd BA mewn Celf Gain yn Central St Martins ym 1997 ac MA yn Ateliers, Arnhem. Ar ôl cyfnod yn Llundain, dychwelodd i Gymru i fyw a gweithio yng Nghaernarfon. Derbyniodd Wobr Prynu Ymddiriedolaeth Derek Williams ar y cyd ag Artes Mundi yn 2017, a bu’n cynrychioli Cymru yn y Venice Biennale yn 2013.

Mae ei sioeau unigol yn cynnwys Do the Little Things, Ancient Connections, Ferns, Swydd Wexford, Iwerddon a Chadeirlan Tyddewi, Sir Benfro, Cymru (2022); THE SEE WALL, East Quay, Watchet, Lloegr (2022); Milquetoast, Southwark Park Galleries, Llundain, ar daith i Dŷ Pawb, Wrecsam, Cymru a KARST, Plymouth (2021); Hypercaust / Y Tyrrau Mawr, Southard Reid, Llundain, Lloegr (2019); ECHT, Tramway, Glasgow International, Yr Alban (2014) a Fondazione Sandretto Re Rebaudengo, Turin, Yr Eidal (2017).

Mae ei waith wedi’i gynnwys mewn sawl sioe grŵp sefydliadol yn Goldsmiths CCA, Llundain, Lloegr (2022); Somerset House, Llundain (2021 - 22); South London Gallery, Llundain (2018); Hayward Gallery ar daith i Concrete, Dubai (2018); ICA Singapore (2017); a The British Art Show 8.

Sesiwn holi ac ateb gyda’r artist Bedwyr Williams

Beth wnaeth i chi ddewis y teitl Tin Droi?
Meddyliais am y gair loetran a pha mor ddoniol yw ei fod yn cael y goblygiadau negyddol hyn. Mae ‘paid â loetran’ yn rhywbeth hen ffasiwn i’w ddweud erbyn hyn, ac mae’n addas i gyfnod llawer o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Pan feddyliais am y cyfieithiad Cymraeg, sef ‘Tin Droi’ - sy’n rhyw fath o olygu ‘pen ôl - yn troi’, meddyliais, perffaith!
Beth ydych chi’n ei fwynhau am rannu darluniau ar Instagram, sut mae’n wahanol neu efallai yn well na rhannu’ch gwaith, mewn galeri neu amgueddfa?
Beth sy’n wahanol am Instagram yw ei fod yn cael gwared â’r curaduron a’r unigolion yn y canol. Gallaf danio fy syniadau yn gyhoeddus pryd bynnag y dymunaf. Rwyf wedi cael profiadau da gydag orielau a churaduron, ond rwyf wastad wedi bod ychydig yn ansicr yn llywio’r byd hwnnw. Rwy’n hoff o sut y gellir defnyddio Instagram mewn modd parasitig, yn gallu gosod eich gwaith ymysg y postiadau coginio, camau dawns, denu sylw a gwyliau. Rwy’n hoffi’r modd y gall dilynwyr ymuno yn y sylwadau (gan amlaf) hefyd. Nid yw wedi’i fwriadu ar gyfer artistiaid, ond ar gyfer pethau rwyf wedi bod yn eu gwneud ers y cyfnod clo, mae’n berffaith. Rwy’n hoffi hefyd bod artistiaid snobyddlyd a chyrff celfyddydol yn ei ystyried yn hen ffasiwn bellach.
Fedrwch chi esbonio ychydig am sut yr ydych yn creu’r darluniau? A ydynt yn datblygu’n gyflym, ac oes yn well gennych bellach weithio’n ddigidol yn hytrach na’r ffordd draddodiadol gyda phensil a phapur?
Fel arfer mae gen i gnewyllyn o syniad yn ymddangos yn fy mhen fel pêl bingo ac yna rydw i’n dewis cymeriad. Yn aml byddaf yn chwerthin yn uchel ar ben fy hun, sy’n arwydd da fel arfer. Nid yw llawer o bobl nad ydynt yn ddoniol yn hoffi pan ydych yn chwerthin am eich jôcs eich hun, ond mae hynny’n aml yn rhoi syniad i chi o’u diffyg doniolrwydd ehangach. Prynais ipad gyda phensil yn ystod y cyfnod clo, a newidiodd hyn fy mywyd fel artist. Rwy'n ddiamynedd iawn ac yn neidio rhwng taclusrwydd ac anhrefn. Mae gweithio’n ddigidol yn caniatáu i fi wneud golwg, heb byth orfod ei lanhau.
Mae’r straeon cyfredol yr ydych yn eu creu ar Instagram yn aml yn debyg i operâu sebon bach, gyda’ch dilynwyr wedi ymgolli’n rhediad stori eich cymeriadau. Ydych chi’n rhagweld unrhyw funudau dramatig yn digwydd yn ystod y gyfres hon o ddarluniau Tin Droi?
Dydw i ddim yn siwr am ddrama, ond rwyf yn awyddus i weld sut effaith a gaiff lleoedd yr YG ar fy nghymeriadau. Ar wahân i’r pleser addysgol amlwg, mae ymweld â hen safleoedd, fel arfer yn arwain at lawer o hunanholi ynof. Nid fy mod yn dychmygu bod yn iarll neu’n fwtler, ond mae rhywbeth am fod mewn lle tawel a warchodir fel bod mewn deorydd prudd. Rwy’n amau y digwyddith hyn i’r cymeriadau hefyd, hyd yn oed i rai o’r rhai lletchwith.
O’r holl gymeriadau sydd wedi ymddangos gennych yn y blynyddoedd diwethaf, pwy ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf at fynd ar ymweliad ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru?
Rydw i’n hoff iawn o’r wraig sy’n glanhau’r Air B and B. Mae’n arsyllwraig sy’n meddwl am bethau mewn ffordd dda. Credaf fod pobl Cymru (ddim pawb yn amlwg) yn aml yn dawel mewn sefyllfaoedd ac yn cymryd popeth i mewn. Rydw i’n cofio fy nhad (dyn bonheddig a thawel) yn dweud ei fod wedi gwylio rhyw ddynion mewn hetiau gwellt yn chwarae jazz traddodiadol mewn sioe amaethyddol. Roedd y ffordd yr oedd arweinydd y band, oedd wedi’i wisgo’n dwt, yn siglo i fyny ac i lawr i’r gerddoriaeth wedi aros gyda fo. Hefyd rwy’n ddilynwr ffasiwn cythryblus a byddwn wrth fy modd yn mynd â hyn i Erddig pe bawn i'n cael cyfle.