Skip to content
Datganiad i'r wasg

Artist enwog yn ddatgelu beth yn union sy’n digwydd ar safleoedd treftadaeth Cymru mewn llyfr newydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Glanhawr AirBnB yn ymweld â Chastell Powis yn Tin Droi gan Bedwyr Williams
Glanhawr AirBnB yn ymweld â Chastell Powis yn Tin Droi gan Bedwyr Williams | © Bedwyr Williams

Mae llyfr newydd Bedwyr Williams, sy’n cynnwys bron i 600 o luniau, yn cyfleu’r hiwmor a’r natur ddynol sy’n perthyn i ymweliadau beunyddiol â lleoedd hanesyddol Cymru

Beth yn union sy’n digwydd pan mae pobl yn ymweld â lleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru?

Cafodd yr artist Bedwyr Williams wahoddiad gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i ddarganfod yr ateb i’r cwestiwn hwn – nid trwy edrych yn ôl ar y pendefigion a arferai fyw yn y tai, ond trwy roi sylw i’r bobl sy’n eu llenwi heddiw.

Fel rhan o waith Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd trwy gyfrwng celfyddyd gyfoes, cafodd Williams, a gynrychiolodd Cymru yn Arddangosfa Eilflwydd Fenis yn 2013, ei gomisiynu i dreulio 6 mis yn teithio ar hyd a lled Cymru er mwyn sylwi ar y pethau bach, dynol sy’n siapio diwrnodau allan. Dogfennodd y siwrnai ar dudalen bwrpasol ar Instagram @tindroi_dawdle, gan ddefnyddio cymeriadau cyfarwydd o’i sianel ei hun @bedwyr_williams – yn cynnwys y “Dyn sy’n gwirioni ar ddillad” a’r “Glanhawr AirBnB” – a fu’n gweithredu fel llygaid a chlustiau i’r prosiect wrth iddynt fynd ar eu hynt trwy dai, gerddi a thirweddau.

Cyrhaeddodd y prosiect ei benllanw gyda Tîn Droi – sef llyfr rhifyn cyfyngedig sy’n cynnwys bron i 600 o luniau, a gynhyrchwyd yn ddigidol o fewn 24 awr ar ôl ymweld â’r eiddo. Teithiodd Williams o Ynys Môn yng ngogledd-orllewin Cymru i Gasnewydd yn y de-ddwyrain, gan sylwi ar bopeth – o olygfeydd Rhosili i erddi Castell Powis. Mae’r lleoliadau eraill a gynhwysir yn y llyfr yn cynnwys Pont Grog Conwy, Gardd Bodnant, Dinefwr, Erddig, Gerddi Dyffryn a Llanerchaeron, ymhlith eraill. Trwy weld y naill safle mor gyflym ar ôl y llall, dechreuodd yr artist fyfyrio ar bwy yn union sy’n defnyddio’r mannau hyn heddiw.

“Bydd y tai hyn yn gyrchfannau i dwristiaid am gyfnod hwy o lawer nag y buont yn gartrefi i bendefigion,” medd Williams. “Roedd gennyf ddiddordeb yn y realiti hwnnw – cwpl yn gwisgo trowsusau cargo cwta, rhai pobl yn sibrwd fel pe baent ofn i rywun ddweud y drefn wrthynt, pobl eraill yn uchel iawn eu cloch. Bywyd dynol o bob math.”

Cafodd ei ysbrydoli gan y pethau bach sy’n cyfrannu at gymeriad pob eiddo – o sylwadau y digwyddodd eu clywed i wrthrychau od mewn ystafelloedd crand. Dyna ichi ‘ghetto blaster’ yr Arglwydd Môn o’r 1980au ym Mhlas Newydd; system glychau ddyfeisgar Tŷ Tredegar ar gyfer tynnu sylw’r gweision a’r morwynion; a’r gwahanol fathau o hufen iâ cŵn a gynigir mewn caffis. Yn ôl yr artist, mae’r pethau yma i gyd yn cyfleu realiti beunyddiol y lleoedd hyn.

“Rydw i’n credu bod gennyf gof da iawn – rydw i’n cofio pethau gwirion bost,” meddai. “Mae gennyf ddiddordeb mewn pethau cyffredin a dynol – y pethau bach y mae pobl yn eu dweud heb drio bod yn ddoniol.”

Mae’r lluniau’n cynnwys cymeriadau a welir ar gyfrif Instagram Williams, sy’n mynd ar eu hynt trwy dai a thirweddau’r Ymddiriedolaeth gyda hiwmor di-wên. Hefyd, maent yn siarad yn ddwyieithog – nid yn yr ystyr bod eu geiriau’n cael eu cyfieithu, ond yn yr ystyr eu bod yn siarad Cymraeg a Saesneg trwy’i gilydd fel y gwneir yng Nghymru. Mae hyn wedi bod yn destun trafod yn yr adran sylwadau, ac mae’r geiriau a’r ymadroddion yn peri i’r dilynwyr geisio dyfalu eu hystyr ac ymarfer sut i’w hynganu.

Medd Helen Pye, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Rydym yn llawn cyffro o gael gweithio gyda Bedwyr Williams ar y comisiwn beiddgar a chreadigol hwn. Mae’n cynnig ffyrdd newydd o brofi’r lleoedd anhygoel hyn a’r straeon dynol sy’n gysylltiedig â nhw. Gobeithio y bydd yn ysbrydoli cysylltiad a chreadigrwydd i bawb sy’n ymweld â lleoedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ledled y wlad.”

Cafodd Tîn Droi, a gyhoeddir ar ffurf rhifyn cyfyngedig sy’n cynnwys 1,000 o gopïau, ei lansio ar 26 Tachwedd yn Hard Lines, Caerdydd, a chynhelir sgwrs gan yr artist yn Galeri Caernarfon ar 5 Rhagfyr.

Gallwch brynu’r llyfr yn Plas Newydd, Castell Penrhyn, Neuadd Erddig, Castell Y Waun, Castell Powis a Gerddi Dyffryn, a hefyd ar-lein ar dudalen Instagram Tîn Droi: https://bedwyr-williams-2.myshopify.com/#16bb7db89fe5ca5aac15bf1a7ec50fd6

Mae Tin Droi gan Bedwyr Williams wedi ei gomisiynu gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac wedi ei gynhyrchu gan Studio Response.

You might also be interested in

Camwch i fyd ‘Tin Droi’ 

Darganfyddwch y cyfrif Instagram @tindroi_dawdle, sy’n darparu gweledigaeth artistig unigryw a ffres i’r tirweddau hanesyddol a diwylliannol dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Three of the Tin Droi commission drawings, including a drawing of a members card, and the characters 'AirBnB cleaner' at Powis Castle and the 'Man who loves clothes'

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Gardd a thŷ dan orchudd barrug yn Erddig, Wrecsam