Skip to content

Ein gwaith yn Nhŷ Tredegar

A builder assesses scaffolding on the front of Tredegar House
Gwnaeth y prosiect Codi’r Caead, a gynhaliwyd yn 2017, adfer rhan fawr o’r to | © Hannah Thompson, National Trust

Mae Tŷ Tredegar wedi cynnal prosiectau adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ail-deilio rhan fawr o do enfawr y plasty ac adnewyddu adeilad y golchdy at ddefnydd cymunedol. Dyma sut mae’r gwelliannau hyn o fudd i’r gymuned leol.

Gwarchod Tŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Gyda dros 500 mlynedd o hanes o fewn ei furiau, mae tîm Tredegar yn gweithio bob dydd i warchod hanes gwerthfawr y tŷ a sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau’r lle arbennig hwn. Mae hyn yn amrywio o fonitro’r amodau i ddiogelu’r casgliad i ailosod darnau mawr o’r to enfawr.

Codi’r Caead ar Dŷ Tredegar

Yn 2017, gorffennwyd prosiect adeiladu enfawr gwerth £1.3m yn Nhŷ Tredegar i ddiogelu dyfodol y plasty, sy’n dyddio o’r 17eg ganrif, yn ogystal â’r gerddi a’r parcdiroedd amgylchynol, am genedlaethau i ddod.

Fel rhan o’r prosiect ‘Codi’r Caead’, gosodwyd sgaffaldiau dros y to cyfan gan y contractwyr Ellis & Co a’r cwmni sgaffaldiau Pen Mill Scaffolding, a ddefnyddiodd eu profiad arbenigol i drwsio ac ailddatblygu sawl ardal, gan gynnwys gwneud atgyweiriadau sylweddol i do llechi’r plasty, a’i simneiau a’i ffenestri.

Ochr yn ochr â chyllid gan y llywodraeth, cododd y cyhoedd filoedd o bunnoedd ar gyfer ymgyrch #LlofnodiLlechen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a helpodd byddin o wirfoddolwyr i warchod a diogelu 500 mlynedd o dreftadaeth Tŷ Tredegar drwy dreulio misoedd yn pacio a diogelu’r casgliad hanesyddol yn ofalus yn ystafelloedd yr atig fel y gallai gwaith atgyweirio gael ei wneud.

Creu lle i’r gymuned leol

Mae Tŷ Tredegar yn rhannu cymaint o’i hanes gyda’i gymuned leol, a bydd yn rhannu ei ddyfodol gyda hi hefyd. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn frwd dros wneud lle i drigolion lleol, nid dim ond i fwynhau Tŷ Tredegar ond i gael budd ohono hefyd.

Mae gennym nifer o gydberthnasau hirsefydlog â sefydliadau lleol, sy’n defnyddio’r safle i wella iechyd meddwl, dysgu rhywbeth newydd a gwneud ffrindiau gyda phobl debyg.

The restored laundry building
Mae’r golchdy, sy’n adeilad rhestredig gradd II hanesyddol, yn cynnig lle i sefydliadau lleol gynnal hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol | © Hannah Thompson, National Trust

Prosiect y Golchdy

Mae adnewyddu adeilad yr hen olchdy wedi bod yn rhan fawr o’r gwaith cadwraeth yn Nhredegar. Mae bellach yn ofod i grwpiau lleol ac ymwelwyr ymlacio a theimlo’r manteision corfforol ac emosiynol o gael eich amgylchynu gan natur.

Mae’r golchdy, sy’n adeilad rhestredig gradd II hanesyddol, yn cynnig lle i sefydliadau lleol gynnal hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol, yn ysbrydoli dysgu, yn cynnig cyfleoedd cymdeithasu ac yn hybu lles cymuned Dyffryn.

Y rhandiroedd

Gall y rhandiroedd hygyrch sy’n amgylchynu’r golchdy gael eu defnyddio gan drigolion lleol i dyfu bwyd lleol, gan helpu i ailgysylltu cymuned Dyffryn â threftadaeth leol.

Ers blynyddoedd lawer, mae ‘rhandirwyr’ cymuned Dyffryn wedi bod yn tyfu a chynaeafu ffrwythau a llysiau yn y rhandir yn Nhŷ Tredegar. Mae yna hefyd ardd synhwyrau ar y safle nawr, sy’n llawn perlysiau a phlanhigion cyffyrddadwy ac aromatig, ynghyd â gardd lonyddwch – sy’n cynnig ardal dawel i fyfyrio a meddwl.

Mae ardal o welyau blodau uwch yn sicrhau y gall defnyddwyr cadair olwyn hefyd fanteisio ar y budd enfawr y gall garddio ei gynnig. Er bod y gerddi’n cael eu defnyddio’n bennaf gan grwpiau cymunedol lleol, maen nhw hefyd ar agor i’r cyhoedd ar ddyddiadau penodol.

Gwirfoddolwr yn yr Ardd Furiog yn Nhŷ Tredegar, Cymru
Gwirfoddolwr yn yr Ardd Furiog yn Nhŷ Tredegar, Cymru | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

‘Y prosiect hwn yw gwir ystyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ni ddechreuodd pethau gyda chadwraeth neu’r adeilad – pobl oedd y man cychwyn, a beth mae pobl yr ardal hon ei eisiau gan y gofod hyfryd hwn, a chynnig croeso i bawb’

– Hilary McGrady, cyfarwyddwr cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Gall yr awyr iach ddod â manteision enfawr i les corfforol a meddyliol. Gall un rhyngweithiad â natur gael effaith gadarnhaol ar hwyliau rhywun sy’n para hyd at saith awr, yn ôl arbenigwyr. Mae pobl sy’n wynebu risg uwch o ddatblygu problemau iechyd meddwl, fel iselder neu orbryder, yn cael budd enfawr o fod yn yr awyr agored.

Gall gweithgareddau fel garddio cymunedol hefyd wella hyder a chynyddu rhyngweithiadau cymdeithasol rhywun, gan ei helpu i wneud cysylltiadau newydd a chael cefnogaeth gan bobl debyg.

Llwybrau Lles Coetiroedd

Mae Llwybrau Lles Coetiroedd yn brosiect cydweithredol rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Growing Space, Cyswllt Cymunedol Dyffryn a Cadwch Gymru’n Daclus i ddatblygu coetir a mannau gwyrdd cynaliadwy a reolir gan y gymuned o fewn ystâd Dyffryn.

Wedi’i ariannu drwy raglen Create Your Space y Loteri Fawr, nod y prosiect yw gwella lles cymdeithasol, corfforol a meddyliol y teuluoedd a’r unigolion hynny sy’n byw yn Nyffryn a’r cyffiniau. Mae’r rhandir cymunedol a’r gerddi yn Nhŷ Tredegar yn rhan o’r prosiect ehangach hwn.

Golygfa o’r Orendy a’r Parterre, sydd ag adrannau cymesur o lawnt a phatrymau wedi’u creu ar y llawr gyda thywod a chregyn yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A visitor in the garden in May at Tredegar House, South Wales
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yn Nhŷ Tredegar 

Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.

A view of the front of the red mansion house
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gwneud yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.

Llun mawr, hirgrwn ar y nenfwd plastr addurniadol yw canolbwynt yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, sydd wedi’i haddurno’n goeth gyda lluniau â fframiau aur ar y waliau, a chadeiriau wedi’u clustogi â ffabrig porffor.
Erthygl
Erthygl

Hanes Tŷ Tredegar  

Neidiwch i mewn i hanes y plasty arbennig hwn a’r Morganiaid, Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd.   Darllenwch am eu gorffennol lliwgar, gan gynnwys hanesion o hynodrwydd a gwrthryfel y dosbarth gweithiol.