Skip to content

Pethau i’w gwneud yn Nhŷ Tredegar

A view of the front of the red mansion house
Y Plasty, a adeiladwyd gan William a Blanche Morgan rhwng 1672 a 1674 | © Aled Llywelyn, National Trust

Teg dweud bod Tŷ Tredegar wedi dioddef ei siâr o ddyddiau du, ond mae wedi mwynhau oesoedd aur hefyd. O ‘le teg o garreg’ i’r plasty brics coch mawreddog a welwch heddiw, sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg. Camwch drwy’r drws i weld Ystafell Aur ddisglair, gyda cherfiadau o greaduriaid gwyllt a gwych.  Ymwelwch â’r Gegin Fawr a darganfod ystafell â chrochan enfawr a fyddai wedi bod fel ffair ‘slawer dydd.

Darganfyddwch Dŷ Tredegar

Bu’n gartref i’r teulu Morgan (Arglwyddi Tredegar yn ddiweddarach); teulu dylanwadol a Chymry balch a oedd yn honni eu bod yn ddisgynyddion i Dywysogion Cymru. Gwnaethant ddominyddu byd gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd Brycheiniog, Morgannwg a Mynwy hyd at y 1940au.

Muriau mawreddog

Mae’r tŷ wedi bod ar y safle ers yr oesoedd canol, ac mae cofnodion o'r tŷ o'r cyfnod Tuduraidd yn disgrifio plasty tra gwahanol i'r un a welwch heddiw. Wedi’i adeiladu o garreg yn wreiddiol, cafodd yr adeilad ei ymestyn a’i ail-fodelu gyda brics coch drudfawr tua 1674. Crwydrwch drwy Ardd y Gedrwydden ac fe welwch arwyddion o’r ddwy oes yn y brics a’r morter.

Llun mawr, hirgrwn ar y nenfwd plastr addurniadol yw canolbwynt yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, sydd wedi’i haddurno’n goeth gyda lluniau â fframiau aur ar y waliau, a chadeiriau wedi’u clustogi â ffabrig porffor.
Yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Ymgollwch eich hun yn ein hanes

Ond nid dim ond y tu allan i’r tŷ sydd wedi newid. Camwch drwy’r drws ac fe welwch un o gyfnodau pwysicaf ein hanes yn dod yn fyw o flaen eich llygaid.

Roedd y Morganiaid yn enwog am eu natur liwgar a’u penderfyniad i fod yn driw iddyn nhw eu hunain, a gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol ar eich ymweliad. Does dim angen sibrwd yn y coridorau neu sbecian ar ‘stafell tra’n sefyll y tu ôl i raff; ymgollwch eich hun yn ein hanes wrth i chi ddysgu mwy am stori unigryw Tŷ Tredegar.

Y prif bethau i’w gweld tu mewn i Dŷ Tredegar

Ystafelloedd yr ail ganrif ar bymtheg

Mae’r Ystafell Aur yn wledd i’r llygaid – dawnsiwch yn ôl traed y teulu Morgan yn yr ardal adloniant ysblennydd hon.

Rhyfeddwch at y cerfiadau cain o nadredd, llewod a griffwns ar y paneli derw yn yr Ystafell Frown a’r gwaith plastr, mowldiau ac eurwaith addurniadol sydd i’w gweld ym mhob twll a chornel.

Y tu mewn i’r cwpwrdd crwst yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd. Mae yna fwrdd pren mawr gydag offer pobi arno yn y canol a silffoedd ar hyd y waliau sydd wedi’u peintio’n las.
Y cwpwrdd crwst yn Nhŷ Tredegar | © National Trust Images/Chris Lacey

O dan y grisiau

Roedd yr ystafelloedd hyn fel ffair pan roedd y teulu gartref. Sefwch o dan nenfydau uchel y Gegin Fawr a dychmygwch faint o waith fyddai wedi cael ei wneud i baratoi un o wleddoedd niferus y Morganiaid. A pheidiwch â methu’r hen foeler trawiadol a’r crochan anferth a ddefnyddiwyd i baratoi’r prydau bwyd.

Ystafelloedd gwely'r 1930au

Dysgwch am hynodrwydd Evan yn Ystafell y Brenin a chadwch lygad ar agor am luniau o’i gangarŵ bocsio, Somerset, a Blue Boy, y parot a wyddai eiriau brwnt yn unig. Ar hyd y coridor, mae’r Ystafelloedd Gwely Glas a Choch yn atseinio ag atgofion o’r Dywysoges Rwsiaidd, Olga Dolgarouky, ail wraig Evan a ddaeth i Dŷ Tredegar ym 1939. A pheidiwch â cholli’r Cwpwrdd Cedrwydd yng nghefn y tŷ, â’i ffitiadau pren anarferol.

Pethau i’r teulu eu gwneud o dan do yn Nhŷ Tredegar

Bydd ein tîm ymroddedig o groesawyr yn rhannu hanesion am Dredegar wrth i chi grwydro drwy’r ystafelloedd oesol hyn.

Crëwch eich straeon eich hunain am hanes Tŷ Tredegar gyda’r pypedau, sy’n disgwyl amdanoch yn y Lolfa. A chofiwch geisio dod o hyd i’r wynebau rhyfedd a rhyfeddol sydd wedi’u cerfio i mewn i’r paneli derw yn yr Ystafell Frown. Cadwch lygad ar agor am nadredd, llewod a griffwns.

A mother and child play with silhouette puppets
Mae ein harddangosfa bypedau ryngweithiol yn ôl | © Trevor Ray Hart, National Trust
Golygfa o wedd ogledd-orllewinol Tŷ Tredegar, Casnewydd, o’r tu allan i’w gatiau haearn gyr du ac aur addurniadol.

Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar

Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar  ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A visitor in the garden in May at Tredegar House, South Wales
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yn Nhŷ Tredegar 

Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.

Llun mawr, hirgrwn ar y nenfwd plastr addurniadol yw canolbwynt yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, sydd wedi’i haddurno’n goeth gyda lluniau â fframiau aur ar y waliau, a chadeiriau wedi’u clustogi â ffabrig porffor.
Erthygl
Erthygl

Hanes Tŷ Tredegar  

Neidiwch i mewn i hanes y plasty arbennig hwn a’r Morganiaid, Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd.   Darllenwch am eu gorffennol lliwgar, gan gynnwys hanesion o hynodrwydd a gwrthryfel y dosbarth gweithiol.  

Coffee and cake at the Orangery restaurant Cliveden National Trust
Erthygl
Erthygl

Bwyta yn Nhŷ Tredegar 

Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Child walking their dog in autumn at Tredegar House, Newport, Wales
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parcdir yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.