
Casgliadau Tŷ Tredegar
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ Tredegar ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gan honni eu bod yn ddisgynyddion i dywysogion Cymru, roedd teulu Morgan yn berchen ar ystâd Tŷ Tredegar am dros bum canrif. Yn gyfoethog a dylanwadol, cadarnhaodd cenedlaethau olynol eu ffortiwn trwy briodasau manteisiol a dal swyddi gwleidyddol uchel yn lleol ac yn genedlaethol. Lluniodd teulu Morgan dirwedd gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd Casnewydd a'r cyffiniau, ac mae Tŷ Tredegar yn dal i fod yn rhan bwysig o'r gymuned heddiw.
Gan ysgrifennu ym 1540, disgrifiodd yr hynafiaethydd John Leland y tŷ yn Nhredegar fel ‘lle carreg hardd iawn’. Erbyn 1664, roedd statws cymdeithasol William Morgan (tua 1640-80), AS Sir Fynwy a'i wraig Blanche (m. 1673/4) cymaint fel bod angen tŷ newydd arnynt i gyd-fynd.
Cymerodd bron i wyth mlynedd i gwblhau'r tŷ ac fe'i hadeiladwyd ar raddfa fawreddog, gan amgylchynu ei ragflaenydd Tuduraidd a adeiladwyd o garreg, y mae rhannau ohono i'w gweld o hyd. Adeiladwyd y Tŷ Tredegar newydd o frics – deunydd adeiladu prin yng Nghymru ar y pryd – gydag addurniadau cerrig. Yn bedronglog, cafodd ei ddrychiadau a'i du mewn eu hail-fodelu gan ddefnyddio manylion Baróc a chrëwyd mynedfa newydd, fawreddog. Yn wynebu'r tŷ ar draws cwrt ffurfiol, mae'r Stablau o faint yr un mor drawiadol a hynod addurnedig.
Nid yw'r pensaer yn hysbys ond mae gan Tredegar debygrwydd o ran arddull i waith Syr Roger Pratt yn Kingston Lacy a Coleshill (bellach wedi eu colli). Disgrifiodd yr hanesydd pensaernïol John Newman y tŷ a adeiladwyd gan William a Blanche fel un o ‘dai rhagorol cyfnod yr Adferiad ym Mhrydain gyfan.’
Mae ymchwil yn parhau i ffynonellau cyfoeth y Morganiaid yn yr 17eg ganrif. Yn fuan ar ôl adeiladu'r tŷ newydd, comisiynodd y Morganiaid long, y Tredegar of Newport, a oedd yn masnachu â Barbados ym 1676, gan ddychwelyd i Fryste gyda llwyth o siwgr. Roedd mab William a Blanche, Thomas Morgan (1664-1700), yn berchen ar gyfranddaliadau yn y Royal African Company, y cwmni masnachol a sefydlwyd gan fasnachwyr Dinas Llundain ym 1660, i fasnachu ar hyd Arfordir Gorllewin Affrica.

Bu farw llinach wrywaidd teulu Morgan o Dredegar yn dilyn marwolaeth heb blant John Morgan (1742-92), a oedd wedi priodi Louisa Pym Burt (m. 1815) ym 1788. Daeth Louisa ag arian a godwyd o werthu ystadau a phlanhigfeydd ei thad ar Nevis a St Croix i Dredegar. Gan nad oedd ganddo blant, olynwyd John gan ei chwaer hynaf a'i gyd-etifedd, Jane (1731-97), gwraig Syr Charles Gould (1726-1806), cyfreithiwr ac AS. Gwnaed Gould yn farwnig ym 1792 a newidiodd ei gyfenw i Morgan. Erbyn hynny, roedd ystâd Tredegar yn ymestyn dros fwy na 40,000 erw, gan gynnwys bryniau cyfagos Caerdydd, Aberhonddu a'r Cymoedd.
Sylweddolodd Syr Charles fod yr ystâd yn gyfoethog mewn mwynau a bod ganddi botensial diwydiannol enfawr. Trodd yr ystâd yn gyfalaf, a phrydlesu’r tir i berchnogion mwyngloddiau, yn ogystal â sefydlu Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Ehangodd ei fab, Syr Charles Gould Morgan, 2il Farwnig (1760-1846), y prosiectau masnachol a diwydiannol hyn, a mwy neu lai sefydlu Casnewydd fel canolfan fasnach bwysig. Fel AS dros Sir Fynwy, cyflwynodd yr 2il Farwnig ddeisebau ei etholwyr i ddiddymu caethwasiaeth Caribïaidd ar 10 Chwefror 1826.
Roedd bod yn berchen ar ystâd mor fawr yn dod â chyfrifoldeb mawr, ac yn y 1830au daeth teulu Morgan yn ganolbwynt i fudiad y Siartwyr, protest i gynyddu hawliau gwleidyddol y dosbarthiadau gweithiol, a arweiniodd at Wrthryfel Casnewydd ym 1839.

Gwnaed mân newidiadau i'r tŷ yn ystod y 19eg ganrif, pan ostyngwyd y to, tynnwyd ei gwpola a'i falwstrad, ac ail-fodelwyd y Grisiau Mawr. Ni chyffwrddwyd adeiladau a gardd yr ystâd i raddau helaeth ac maent wedi goroesi heddiw bron fel yr oeddent ddiwedd yr 17eg ganrif.
Parhaodd y teulu Morgan i ddal dylanwad gwleidyddol sylweddol drwy gydol y blynyddoedd dilynol, gyda sawl cenhedlaeth o aelodau gwrywaidd y teulu yn gwasanaethu fel ASau fel yr oedd eu hynafiaid wedi'i wneud. Ym 1859, cafodd Syr Charles Morgan Robinson Morgan, 3ydd Barwnig (1792-1875) ei sefydlu fel Barwn 1af Tredegar o Dredegar. Cafodd ei fab Godfrey Charles Morgan (1831-1913) ei sefydlu'n Is-iarll Tredegar ym 1905. Gan etifeddu Tredegar ym 1875, fe'i cofir yn eang fel 'Godfrey the Good'. Fel y byddai'n addas i ddyn cyfoethog iawn o'r cyfnod, roedd Godfrey yn noddwr cyhoeddus. Rhoddodd rannau o'i dir i ffwrdd, gan gynnwys yr hyn sydd bellach yn Barc Belle Vue ac Ysbyty Brenhinol Gwent. Gostyngodd hefyd rent i'w denantiaid mewn cyfnodau o galedi.

Gor-nai Godfrey, Evan, 2il Is-iarll Tredegar (1893-1949), oedd y Morgan olaf i dreulio ei oes yn Nhredegar. Yn wyllt ei natur, roedd yn adnabyddus am ei bartïon afradlon, am gadw milodfa o anifeiliaid, a'i ymdrechion i ymarfer 'y gelfyddyd ddu'. Roedd Evan yn ffrindiau gyda llawer o ffigurau artistig blaenllaw'r cyfnod gan gynnwys Augustus John, Charlie Chaplin ac Aldous Huxley.
Bu farw Evan ym 1949, gan adael cyfoeth o hanesion bywiog ond baich ariannol a olygai fod yn rhaid i'r teulu Morgan werthu Tŷ Tredegar ym 1951.
Pan werthwyd y tŷ daeth yn ysgol Gatholig i ferched. Yn y 1970au, prynodd Cyngor Casnewydd y tŷ a'i drawsnewid yn amgueddfa a oedd yn adlewyrchu stori unigryw'r plasty.
Yn 2012, prydlesodd y cyngor y tŷ i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd bellach yn gofalu am ei adeiladau hanesyddol, ei erddi a'i barcdir. Heddiw, mae Tredegar yn croesawu dros 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn gan gynnwys llawer o Ystâd Dyffryn gyfagos a chymunedau ehangach Casnewydd.


Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ Tredegar ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Tŷ Tredegar yn cael sylw yn y llyfr darluniadol hardd, '60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol', a ysgrifennwyd gan un o’n curaduron arbenigol. Prynwch y llyfr i ddysgu mwy am bum adeilad rhyfeddol yng Nghymru, yn ogystal â strwythurau cyfareddol eraill ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.

Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.

Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.

Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
