Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar
Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yn y gwanwyn, yr haf a’r hydref, darganfyddwch dair gardd yn Nhŷ Tredegar: gardd liwgar, wyllt y Berllan, Gardd y Gedrwydden â’i borderi blodau mawr a Gardd yr Orendy â’i parterre addurniadol.
Dros fisoedd yr hydref mae blodau’r haf yn cilio a choelcerth o liwiau’n tanio. Mae’r Dringwr Fflamgoch Tri Phigyn yn fôr o goch dros waliau’r ardd ffurfiol a’r adeiladau hanesyddol yn fferm y plas. Ac mae’r derw cochion campus yn gwneud llun gwych, yn yr un modd â’r ffyngau bach sy’n gorchfygu’r gerddi ffurfiol.
Mae’r fwyaf o’r tair gardd yn llawn rhyfeddodau – dilynwch y llwybrau i ddarganfod tai gwydr cudd a llond perllan o goed afalau.
Mae’r cynlluniau manwl cyntaf o’r ardd ym 1827 yn dangos gardd gynhyrchiol iawn - y lefel o hunangynhaliaeth fyddai ei hangen ar gyfer plasty mawr. Wrth i chi fynd ling-di-long drwy’r ardd, cadwch eich llygaid ar agor am hen beipiau’r tai gwydr angof lle roedd y teulu Morgan yn tyfu ffrwythau trofannol.
Ychwanegwyd y nodweddion egsotig ac addurniadol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, gan roi ymdeimlad hynod i Ardd y Berllan. Yn y 1930au, defnyddiwyd yr ardal sy’n arwain at Fwthyn y Garddwr fel cartref ar gyfer rhan o filodfa hynod Evan Morgan.
Mae’n bosibl mai’r peth gorau am Ardd y Berllan yw’r bartneriaeth sy’n helpu i ofalu amdani. Ers dros ugain mlynedd mae Growing Space, elusen iechyd meddwl gofrestredig yng Nghasnewydd, wedi bod yn gofalu am yr ardd hon. Maen nhw’n cynnig sgiliau gwaith a chefnogaeth i oedolion â salwch meddwl i wella ansawdd eu bywydau a’u helpu i wireddu eu breuddwydion.
Mae Gardd y Gedrwydden yn dyddio’n ôl i gyfnod cynnar yn hanes y safle ac mae’n agos iawn at y tŷ, felly mae’n ddigon posib mai hon oedd ‘Hoff Ardd’ y teulu Morgan. Gyda phyrth mawr ar y naill ochr a borderi blodau eang yn ei hamgylchynu, mae Gardd y Gedrwydden yn edrych fel yr oedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi'i rhannu’n ddwy gan lwybr echelinol canolog.
Yng nghysgod Cedrwydden Libanus sy'n 250-year-old mlwydd oed - yr olaf o chwe Chedrwydden a blannwyd - mae Gardd y Gedrwydden yn llecyn perffaith i ymlacio, mwynhau picnic a chwarae. Cadwch lygad ar agor am flodau traed yr arth, irisau a’r sgorpionllys ym morderi blodau'r ardd.
Yng nghanol yr ardd mae obelisg carreg, a godwyd er cof am 'Sir Briggs' - y ceffyl a gariodd Godfrey Morgan, arglwydd cyntaf Tredegar, yn Rhuthr y Frigâd Ysgafn ('The Charge of the Light Brigade' yn Saesneg). Yn dilyn y frwydr, daeth Sir Briggs i Dŷ Tredegar i fwynhau gweddill ei oes, a bu farw o henaint ym 1874 yn 28 oed.
Nid dim ond y ceffyl arwrol hwn sydd wedi’i gladdu yma – mae’r ardd hefyd yn cynnwys cerrig bedd cŵn annwyl y teulu, Peeps, Friday a Barry.
Mae Gardd yr Orendy, y lleiaf o'r tair gardd, yn edrych fel yr oedd fwy na dau gan mlynedd yn ôl, pan roedd y Morganiaid yn byw yma.
Mae dyluniad cain, tonnog yr arddangosfa parterre addurniadol yn cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau o bob lliw a llun, gan gynnwys cregyn môr, morter calch wedi’i falu, llwch brics, llwch glo, tywodydd gwyn ac oren a glaswellt.
Yn ystod y 1930au roedd Evan Morgan yn defnyddio'r Orendy i gynnal ei bartïon gwyllt enwog, ond hefyd fel lle i gadw ei adar egsotig. Mae’r Orendy hyd heddiw yn gartref i amrywiaeth o goed ffrwythau a phlanhigion parhaol a fyddai wedi tyfu yma yn y ddeunawfed ganrif.
Nodwedd fwyaf trawiadol yr Orendy yw Gwthfwrdd Cefn Mabli, sy'n 42 troedfedd o hyd. Y gwthfwrdd hwn, un o ryfeddodau mawr Cymru, yw’r bwrdd ‘styllen dderw sengl hiraf yng ngwledydd Prydain. Roedd y gwthfwrdd, a wnaed yng nghyfnod y Rhyfel Cartref ar gyfer Tŷ Cefn Mabli, eisoes yn enwog yn yr ail ganrif ar bymtheg.
- Thomas Dinely, 1684
Ar ôl ymweld â’r gerddi ffurfiol, beth am ymweld â Gardd y Golchdy yn Fferm y Plas? Wedi’i hadnewyddu fel gardd gymunedol hygyrch yn 2019, mae’r man gwyrdd hwn yn llawn planhigion sy’n wych i wenyn, llysiau, a hyd yn oed ardal dawel i’r rheini sydd am osgoi’r tyrfaoedd a mwynhau heddwch byd natur. Gallwch fynd i Ardd y Golchdy am ddim rhwng 10.30am a 4pm.
Mwynhewch bopeth sydd gan Mam Natur i’w gynnig y tymor hwn gyda’r gweithgareddau ’50 Peth i’w Gwneud Cyn Dy Fod Di’n 11 ¾’. Gwnewch y mwyaf o’r tywydd gwlyb drwy grwydro yn eich welîs, neu chwiliwch yn y llwyni am ffyngau ffantastig. Gallwch gasglu taflenni gweithgaredd o dderbynfa’r ymwelwyr, neu eu lawrlwytho yma.
Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Neidiwch i mewn i hanes y plasty arbennig hwn a’r Morganiaid, Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch am eu gorffennol lliwgar, gan gynnwys hanesion o hynodrwydd a gwrthryfel y dosbarth gweithiol.
Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.
Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.
Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.