Skip to content

Gwirfoddoli yn Nhŷ Tredegar

Gweini ar gwsmeriaid yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, Cymru
Gweini ar gwsmeriaid yn Nhŷ Tredegar | © National Trust Images/Aled Llywelyn

Drwy wirfoddoli yn Nhŷ Tredegar, byddwch yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a chael profiadau newydd.

Y gwahaniaeth mae gwirfoddolwyr yn ei wneud

Mae tua 300 o wirfoddolwyr yn cynnig help llaw drwy gydol y flwyddyn i sicrhau y gall y tŷ a’r ardd agor rhwng Chwefror a Rhagfyr. Fel elusen, mae’r gefnogaeth hon yn amhrisiadwy.

Bob blwyddyn mae miloedd yn cael eu croesawu drwy ddrysau Tŷ Tredegar i ymlacio yn yr ardd ffurfiol, palu i hanes y tŷ a gwrando ar straeon am y teulu Morgan.

Gwirfoddolwyr sy’n helpu i gadw’r ardd yn daclus, a gwirfoddolwyr sy’n adrodd ag angerdd straeon am sw Evan Morgan neu ymdrechion dyngarol Godfrey Morgan.

Gwahanol rolau gwirfoddoli

Mae llwyth o rolau gwirfoddoli ar gael yn Nhŷ Tredegar; pob un yn gwneud gwahaniaeth i’r gwaith o warchod a gofalu am yr eiddo hwn yn ei ffordd ei hun. Mae rhestr o’r holl rolau gwahanol sydd gan wirfoddolwyr o fewn y tîm isod.

Mae Tŷ Tredegar yn lwcus o gael criw angerddol o wirfoddolwyr, ac felly nid yw’n recriwtio ar gyfer pob rôl bob amser. Cysylltwch â’r tîm os oes gennych ddiddordeb mewn maes penodol.

Gwirfoddoli yn yr hanesyddol Dŷ Tredegar, Casnewydd, Cymru
Gwirfoddoli yn yr hanesyddol Dŷ Tredegar | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

Yn y tŷ

Gwirfoddolwch yn y tŷ fel croesawydd a dod â 500 mlynedd o hanes yn fyw i ymwelwyr, gan rannu straeon lliwgar Tredegar a chadw llygad ar y casgliad gwerthfawr.

Gwirfoddoli yn yr awyr agored

Ymunwch â’r tîm awyr agored a dod yn gydlynydd dydd yn yr ardd neu helpwch i gynnal a chadw’r ardd ffurfiol.

Gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau

Helpwch i drawsnewid y tŷ a’r ardd i ddathlu pob tymor, o’r Pasg i’r Nadolig. Mwynhewch eich hun a helpwch ymwelwyr i gael diwrnod gwych yn y rôl amrywiol a heriol hon.

Y tu ôl i’r llenni

Enillwch brofiad mewn swyddfa brysur drwy ein helpu i gadw trefn ar bopeth fel gwirfoddolwr gweinyddol. 

Mae ‘na hefyd wirfoddolwyr archif yn gweithio y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod yr holl straeon yn cael eu cofnodi’n ddiogel yn yr archifau, helpu gyda gweithrediad gweinyddol yr eiddo a helpu i gynnal a chadw’r eiddo.

Tri ymwelydd yn sgwrsio o dan fasarnen o flaen y plasty brics coch.
Crwydro'r parc yn Nhŷ Tredegar | © National Trust Images/Aled Llywelyn

Pam ymuno â ni?

Mae llawer o resymau dros ymuno â ni; gallai gwirfoddoli fod y penderfyniad gorau a wnaethoch erioed.

  • Dod yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig
  • Cwrdd â phobl o bob cefndir a gwneud ffrindiau newydd
  • Defnyddio eich sgiliau presennol a dysgu rhai newydd
  • Gwella eich CV a datblygu eich gyrfa
  • Mwynhau’r awyr iach
  • Dysgu am hanes y lle arbennig hwn

Drwy ymuno â’r tîm, gallwch gael effaith go iawn ar y diwydiant treftadaeth, gan alluogi trigolion Casnewydd a thu hwnt i fwynhau rhyfeddodau’r lle arbennig hwn a chadw Tŷ Tredegar yma i bawb, am byth.

‘Gan fy mod i eisoes yn gweithio’n rhan-amser mewn addysg, ro’n i’n chwilio am gyfle i wneud rôl wahanol mewn sefydliad arall.
Mae gwirfoddoli yn Nhŷ Tredegar wedi rhoi’r profiad newydd yma i fi, ond gyda’r hyblygrwydd sy’n dod law yn llaw gyda gwirfoddoli. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn.’

– Mandy, gwirfoddolwr gweinyddol Tŷ Tredegar

Cysylltwch â ni am wirfoddoli yn Nhŷ Tredegar

E-bostiwch ni yn tredegar@nationaltrust.org.uk a byddwn mewn cysylltiad i drafod eich anghenion penodol a sut y gallwch gael y mwyaf allan o’ch amser gyda ni.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A volunteer talks to two visitors, indicating something on the wall

Volunteer 

Our volunteers make our work to look after nature and history for future generations possible. Learn more about the volunteering opportunities available and hear a selection of their stories to find out what it's like to volunteer with us.

A volunteer talking to a visitor at Wightwick Manor and Gardens, West Midlands
Erthygl
Erthygl

Frequently asked questions on volunteering 

These frequently asked questions should give you all you need to know about who can volunteer, what it involves and how to apply.

Llun mawr, hirgrwn ar y nenfwd plastr addurniadol yw canolbwynt yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, sydd wedi’i haddurno’n goeth gyda lluniau â fframiau aur ar y waliau, a chadeiriau wedi’u clustogi â ffabrig porffor.
Erthygl
Erthygl

Hanes Tŷ Tredegar  

Neidiwch i mewn i hanes y plasty arbennig hwn a’r Morganiaid, Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd.   Darllenwch am eu gorffennol lliwgar, gan gynnwys hanesion o hynodrwydd a gwrthryfel y dosbarth gweithiol.  

A builder assesses scaffolding on the front of Tredegar House
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith yn Nhŷ Tredegar 

Mae’r miliynau o bunnoedd sydd wedi’u gwario ar brosiectau adnewyddu a chymunedol Tŷ Tredegar, o erddi i doi newydd, yn helpu trigolion lleol i ailgysylltu â gorffennol yr eiddo hanesyddol.