Tŷ Mawr a Chwm Wybrnant

Tŷ Mawr Wybrnant yw man geni’r Esgob William Morgan, a sicrhaodd ei gyfieithiad o’r Beibl i’r Gymraeg ym 1588 — ‘Y Beibl Cyssegr-lan’ — barhad yr iaith Gymraeg.
Cwm Wybrnant
Yn ôl traddodiad lleol, ‘nant y wiber’ oedd ystyr Wybrnant. Bellach, credir mai’r ystyr yw ‘nant sy’n llifo’n gyflym’, o’r hen air ‘ewybr’, sy’n golygu cyflym neu chwim.
Heddiw, mae’r cwm yn teimlo’n dawel ac yn anghysbell, ond yng nghyfnod William Morgan roedd Wybrnant ar un o hen ffyrdd y porthmyn. Byddai’r ffyrdd hyn yn cael eu defnyddio i yrru da byw fel gwartheg i farchnadoedd Lloegr, rhai mor bell â Llundain. Lle prysur oedd Wybrnant felly. Byddai’r porthmyn yn mynd heibio gyda’u hanifeiliaid ac yn dychwelyd gydag arian a’r newyddion diweddaraf o bell.

Tarddiad y ffermdy
Tŷ neuadd â ffrâm nenfforch oedd y tŷ cynharaf ar y safle, yn dyddio o bosib o'r 15fed ganrif. Dyma sut fyddai Tŷ Mawr wedi bod adeg geni a phlentyndod William Morgan.
Tua'r adeg yr oedd William yn ugain mlwydd oed ac yn mynd i Gaergrawnt, fe wnaeth ei rieni, John a Lowri Morgan, adnewyddu'r tŷ i greu'r hyn a elwir heddiw yn dŷ o fath Eryri. Gallwn ddod i'r casgliad yma oherwydd bod y prif drawstiau o'r to wedi'u dyddio'n ôl i o gwmpas gaeaf 1565, y flwyddyn y gadawodd William am Gaergrawnt.
Yn ei ffurf 1565, daeth Tŷ Mawr yn dŷ deulawr cyflawn, gyda simnai ar y naill ben a'r llall - un yn gwasanaethu lle tân mawr yn y brif neuadd a'r llall ar ysgwydd wyneb wal y talcen.

Adnewyddu Tŷ Mawr
Yn 1888 roedd Tŷ Mawr yn rhan o stad y Penrhyn. Ar ôl mynd â’i ben iddo, cafodd y tŷ ei atgyweirio gan Arglwydd Penrhyn i ddathlu 300 mlwyddiant cyfieithiad William Morgan. Rhoddwyd y ffermdy yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1951, ynghyd â miloedd o erwau o fynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau a stad Ysbyty. Erbyn hynny, roedd cyn-breswylwyr wedi moderneiddio’r tŷ yn sylweddol.
Sefydlwyd pwyllgor lleol ac arweiniodd Miss Myfanwy Williams, Glasgwm, ymgyrch i agor amgueddfa un ystafell yn Nhŷ Mawr. Agorodd yr amgueddfa i’r cyhoedd yn 1960.
I ddathlu 400 mlwyddiant y cyfieithiad penderfynwyd ailadeiladu’r ffermdy yn arddull Duduraidd wreiddiol cyfnod William Morgan. Diolch yn bennaf i ymdrechion y curadur cyntaf, Iola Wyn Jones, a aeth ati i godi ymwybyddiaeth ac arian. Cafodd Tŷ Mawr ei ailagor yn swyddogol i ymwelwyr yn 1988.

Tŷ Mawr heddiw
Rydym yn parhau i ddathlu cyfieithiad William Morgan o’r Beibl a’i effaith ar Gymru drwy weithio gyda wahanol bobl i lunio’r penodau nesaf yn stori Tŷ Mawr.
Cwblhawyd prosiect gwerth £294,500 yng ngwanwyn 2025 a oedd yn canolbwyntio ar wella mynediad a dehongli ar y safle, cael gwell dealltwriaeth o gasgliad Beiblau Tŷ Mawr, a chynnal gwaith cynnal a chadw hanfodol i fynd i'r afael â dŵr yn dod i mewn i'r ffermdy.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwelliannau yma ar gael drwy glicio ar y ddolen: Gwelliannau |Tŷ Mawr Wybrnant | Conwy | National Trust