Skip to content
Newyddion

Gosodiad celf Helios

Helios, cerflun wedi’i oleuo’n llachar o’r haul yn cael ei arddangos yn Bath Assembly Rooms, Gwlad yr Haf
Cerflun Helios yn cael ei arddangos yn Bath Assembly Rooms, Gwlad yr Haf | © National Trust/James Dobson

Rydym yn arddangos Helios, gwaith celf newydd o’r haul gan Luke Jerram. Mae’r cerflun saith medr hwn yn cyfuno delweddau o’r haul, golau a sain i dynnu sylw at fanylion cywrain yr haul.

Golwg fanylach ar yr haul

Wedi’i enwi ar ôl duw haul y Groegiaid gynt, mae Helios yn cynnig golwg fanwl ar y seren, gan gynnwys nodweddion prin fel brychau haul. Mae maint y cerflun wedi’i gynllunio fel bod pob centimedr yn cynrychioli 2,000 cilomedr o arwyneb go iawn yr haul.  

Ynghyd â’i oleuni disglair, mae Helios yn cynnwys sainlun o recordiadau NASA o’r haul, gan Duncan Speakman a Sarah Anderson. Gyda’i gilydd, mae’r goleuni a’r sain yn creu profiad unigryw y gellir ymgolli ynddo, gan ein gwahodd i werthfawrogi harddwch cudd a phŵer yr haul yn fanwl agos.  

Cysylltu pobl, celf a natur

Trwy’r darn hwn, rydym yn parhau ein traddodiad o gyflwyno celf newydd a hanesyddol i bawb. Am ganrifoedd, mae’r lleoedd sydd yn ein gofal wedi arddangos darnau celf mewn tai, gerddi a pharcdiroedd ar hyd a lled y wlad, a bydd hyn yn parhau gyda chymorth ein partneriaid, ein cefnogwyr a’n llysgenhadon. 

Mae Luke, sy’n adnabyddus am osodiadau celf mawr eraill fel Museum of the Moon a Gaia, yn defnyddio Helios i gyflwyno ffordd newydd a phersonol o werthfawrogi a sefyll i fyny dros natur. 

Rydym i gyd yn gwybod ei bod hi’n beryglus edrych yn uniongyrchol ar yr haul, gan y gall niweidio ein golwg. Mae Helios yn darparu ffordd ddiogel i ni allu mynd yn agos ato ac edrych ar ei arwyneb manwl gan gynnwys brychau haul, spiciwlau a ffilamentau.

Dyfyniad gan Luke Jerram Arlunydd Helios

Amlygu pwysigrwydd yr haul

Mae’r haul wedi ysbrydoli pobl trwy gydol hanes fel symbol o fywyd, goleuni ac adfywiad. Trwy gyfuno celf â gwyddoniaeth, mae Helios yn cynnig cyfle i fyfyrio ar y grymoedd sy’n siapio ein planed, yn ogystal â’n cysylltiad â byd natur.  

Sut i brofi Helios

Bydd Helios yn cael ei arddangos ar y safleoedd a'r dyddiadau canlynol: 

Bath Assembly Rooms, Gwlad yr Haf 

  • 11–12 Ionawr 2025 

  • 18–19 Ionawr 2025 

  • 30 Ionawr–23 Chwefror 2025 

Amseroedd agor: 12pm–6pm 

Seaton Delaval Hall, Northumberland

  • 19 Mawrth–6 Ebrill 2025 

Bydd amseroedd agor yn cael eu rhannu’n fuan. 

Ickworth Estate, Suffolk

  • 2–5 Mai 2025 

  • 8–11 Mai 2025 

Bydd amseroedd agor yn cael eu rhannu’n fuan. 

Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg 

  • 23–26 Mai 2025 

  • 29 Mai–1 Mehefin 2025 

Bydd amseroedd agor yn cael eu rhannu’n fuan. 

Lleoliadau eraill 

Bydd Helios hefyd yn cael ei arddangos mewn safleoedd eraill ar hyd a lled y DU, gan gynnwys: 

  • Charterhouse, Gorllewin Canolbarth Lloegr 

  • Downham Estate, Lewisham, Llundain 

  • Fountains Abbey, Gogledd Swydd Efrog 

  • Kedleston Hall, Swydd Derby 

Bydd manylion pellach ynghylch dyddiadau a lleoliadau yn cael eu rhannu’n fuan. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb er mwyn cael cyfle i brofi’r gosodiad celf hwn

 

 

 

 

 

 

Kinder, Edale and the Dark Peak, Derbyshire

How we're tackling climate change together

Climate change is the biggest threat to the places in our care. Learn more about the challenges we're facing together.

You might also be interested in

Dwy ferch yn edrych ar redyn tra’n sefyll ynghanol planhigion tal
Erthygl
Erthygl

Pobl a byd natur yn ffynnu: Ein strategaeth hyd at 2035 

Darllenwch am ein strategaeth, sy’n canolbwyntio ar adfer byd natur, rhoi diwedd ar fynediad anghyfartal ac ysbrydoli mwy o bobl.

David Olusoga OBE, the Art and Culture category judge of the Time + Space Award at Woolsthorpe, Lincolnshire
Erthygl
Erthygl

Our ambassadors 

In 2025, we're launching an ambassador programme for the first time in our 130-year history. Our ambassadors share a passion for our charitable purpose and will raise awareness of our cause to protect nature, beauty and history.

Conservators work on the ceiling of the Long Gallery at Lanhydrock, Cornwall

About us 

Find out who’s who at the National Trust, read our strategy and learn about our history as a conservation charity, plus much more.