Plu disglair, gwyn, y crëyr bach, sy’n golygu mae nhw yw’r adar mwyaf amlwg yng Nghwm Ivy. Mae nhw yma bob dydd, yn sefyll yn aml wrth bwll bas yn disgwyl yn amyneddgar am y pysgod sy’n cael eu gadael yma gan y llanw ar adeg trai, ynghyd a’i cefnder mawr, y crëyr glas.
Os y’ch chi’n lwcus, mae’n bosib y gwelwch fflach drydanol o liw wrth i las y dorlan ruthro heibio neu blymio am ei fwyd. Mae’n well gan hwn ddŵr cymharol lonydd i hela am bysgod a phryfed y dŵr.
Mae’r gornchwiglen i’w gweld yma gydol y flwyddyn, gwrandewch am ei chri pîîî-wit hyfryd. Mae rhai yn nythu yma hefyd ac yn dodwy ar y ddaear ar ymylon y gors.
Gwylio adar yng Nghwm Ivy
Mae dwy guddfan adar yng Nghwm Ivy, cuddfan Cheriton a chuddfan Monterey, wedi’i lleoli bob ochr i’r forfa; lle perffaith i fwynhau’r synau a’r olygfa o’r forfa esblygol hon, sydd hefyd yn ran o Warchodfa Natur Genedlaethol Whitffordd.