Ynghudd yng nghoedwig a thwyni Gwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Whiteford, gallwch dreulio’ch dyddiau yma yn darganfod arfordir Gogledd Gŵyr ac yna, gyda’r nos, yn eistedd allan o flaen tân agored yn rhostio malws melys neu’n cwtsho tu mewn o flaen y stôf bren.
Mae tair ystafell wely, pedair ystafell ymolchi (un en-suite) a chegin sy’n cynnwys y cwbl sydd ei angen ar gyfer paratoi popeth o baned o de i ginio Nadolig gyda’r holl drimins (oes, mae gwesteion wedi aros yma dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd). Mae digon o gadeiriau esmwyth i 10 o bobl gael eistedd, gwres o dan y llawr, a’r stôf bren holl bwysig!