Cwm Ivy: Lle daw’r môr i mewn

Golygfa o gors Cwm Ivy o’r awyr

Darn bach o dir ar arfordir Gogledd Gŵyr yw cors Cwm Ivy. Cafodd ei hawlio o’r môr i’w ddefnyddio fel tir ffermio yn yr 17eg ganrif a’i amddiffyn o’r môr gan forglawdd a dyfodd yn ei faint a’i gryfder dros y blynyddoedd. Nawr, ar ôl bod yn dir ffermio am bron 400 mlynedd mae’r dirwedd yn newid a’r môr yn dod nôl i mewn.

Mae hi’n ddegawd ers i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyhoeddi ei hadroddiad arloesol ‘Shifting Shores’ oedd yn cyflwyno un neges glir … fel cenedl allwn ni ddim parhau i adeiladu er mwyn amddiffyn ein harfordir. Mae hyn yn golygu, mewn safleoedd fel Cwm Ivy, allwn ni ddim ceisio herio byd natur drwy ddal nôl y llanw. Yn hytrach mae’n rhaid gadael i’r broses naturiol fynd yn ei blaen.

Yr heriau 

Yn Nhachwedd 2013, roedd morglawdd Cwm Ivy yn dangos ôl traul. Ar ôl sawl cyfnod o law trwm llenwodd y nant fewndirol i’r fath raddau fel na allai’r llifddor, a gynlluniwyd i ddraenio’r gors, ryddhau’r dŵr yn ddigon cyflym. Fe wnaeth holl bwysau’r dŵr greu twll bach yn y wal, ac fe waethygodd pethau dros y gaeaf canlynol wrth i stormydd, glaw, llanw uchel a nerth y môr ddechrau gwneud y twll yn fwy gan adael i gryn dipyn o ddŵr môr lifo mewn i’r gors dŵr croyw. Ym mis Awst 2014 methodd y wal yn llwyr a daeth ei gyfnod fel ‘amddiffynfa o’r môr’ i ben, i bob pwrpas.

Edrych ymlaen 

Yn unol â gweledigaeth ‘Shifting Shores’, sef caniatáu i’r broses o ail-lunio’r arfordir ddigwydd mor naturiol â phosibl yn hytrach na chynnal yr amddiffynfeydd,  ry’n ni nawr yn canolbwyntio ein hegni ar reoli’r newid cynefin o gors ddŵr croyw i forfa heli a hefyd ar geisio taclo’r broblem sydd wedi codi gan nad yw hi’n bosib bellach i gerdded y llwybr ar hyd top y morglawdd. 

Wedi i’r morglawdd dorri, bron yn syth fe ddechreuodd planhigion y gors newid yn sylweddol. Dechreuodd y gwair ar y tir ffermio wywo o fewn ychydig o ddyddiau, a chollodd y coed eu dail yn gyflym gan adael dim ond coed marw erbyn gwanwyn 2015. Ond a oedd hyn yn broblem? Doedd y lle ddim yn edrych yn arbennig o’i gymharu â’r gwyrddni ffrwythlon oedd yn arfer bod yno pan roedd yn gynefin dŵr croyw. Ond er mor salw oedd y newid, dim ond rhywbeth dros dro oedd hyn. Unwaith i blanhigion y morfa ddechrau gwreiddio, dechreuodd Cors Cwm Ivy newid mewn ffordd hynod o drawiadol i fod yn forfa heli sy’n gynefin cyfoethog i fywyd gwyllt.

Hefyd, mae coed marw sy’n dal i sefyll yn gynefin prin a phwysig iawn yng Nghymru. Wrth i bobl fynd wrthi i drefnu a ‘thacluso’ cefn gwlad, mae cynefinoedd fel hyn wedi diflannu a mynd yn fwy prin. Mae coed marw, sy’n dal i sefyll, yn hanfodol i adar fel cnocell y coed sy’n bwydo ar y bonion ac maen nhw’n gynefin gwych i bob math o anifeiliaid di-asgwrn-cefn. 

Erbyn diwedd Mawrth 2015 roedden nhw’n gweld yr arwyddion cyntaf  o fywyd planhigion y morfa i’w gweld. Y llwylys Seisnig oedd y cyntaf i ddod i’r golwg, a dilynwyd hyn yn gyflym gan y llyrlys, yr helys,clustog Fair a’r troellig. Erbyn Mehefin roedd y gors yn ferw o liwiau gwyrdd llachar sydd i’w gweld mewn morfa iach. 

Yn ogystal â phlanhigion y morfa, ry’n ni hefyd wedi sylwi bod dyfrgwn a glas y dorlan yn llawer mwy prysur yn y gors, gan fod trai’r llanw yn gadael pyllau llawn pysgod ar ôl - helfa rwydd i’r creaduriaid ysglyfaethus nodedig hyn. Ar hyn o bryd ry’n ni’n adeiladau cuddfan adar arall er mwyn i bobl wylio bywyd gwyllt y morfa. Dros y gaeaf byddwn yn gwella’r llwybrau cerdded a’r arwyddion yn yr ardal.