
Our Dream Farm gyda Matt Baker
Darganfyddwch ragor am y gyfres a gwyliwch y penodau ar Channel 4.
Rydym wedi bod yn chwilio am ffermwr tenant i reoli Llyndy Isaf, fferm 600 erw yn Eryri. Gwyliwch ail gyfres Our Dream Farm gyda Matt Baker ar Channel 4 i ddilyn y saith ymgeisydd gobeithiol ar eu taith.
Mae’r gyfres wyth pennod, sy’n cael ei chynhyrchu gan Big Circus Media a’i chyflwyno gan y cyflwynydd teledu Matt Baker, yn cynnwys rhestr fer o saith ymgeisydd sy’n ymgeisio am denantiaeth fferm yn Llyndy Isaf, sef fferm 600 erw yn Eryri.
Yn dilyn y gyfres gyntaf lwyddiannus yn 2024, mae’r gyfres hon yn tynnu sylw at y broses o ymgeisio am denantiaeth fferm. Mae ymgeiswyr yn cyflwyno cynlluniau busnes, yn trafod eu gweledigaeth ar gyfer y fferm ac yn profi bywyd ar yr ystâd trwy gymryd rhan mewn tasgau a phrofiadau ffermio go iawn.
Dywedodd Giles Hunt, Cyfarwyddwr Tir ac Ystadau: 'Roeddem yn falch iawn o weithio gyda Big Circus a Channel 4 i wneud cyfres arall o Our Dream Farm. Gobeithiwn fe fydd y gyfres yn cynyddu dealltwriaeth o'r rôl y mae ffermwyr a rheolwyr tir yn ei chwarae wrth adfer byd natur, cynhyrchu bwyd a gwella'r hinsawdd ar gyfer y DU gyfan.'
Rwy’n falch iawn ein bod ni nôl am ail gyfres, sy’n tynnw sylw at waith ffermwyr tenant a’r heriau mae ein cymuned ffermio yn eu hwynebu nid yn unig wrth gynhyrchu bwyd ond hefyd wrth ofalu am ein hamgylchedd. Mae’n fferm anhygoel a gobeithio y bydd gwylwyr yn mwynhau’r tirweddau syfrdanol ac yn mwynhau dysgu mwy am draddodiadau, diwylliant a dulliau ffermio mynydd yng Nghymru.
Bydd y gyfres yn rhoi mwy o wybodaeth am ffermio tenantiaid a’r rôl hollbwysig y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth helpu byd natur i ffynnu yng nghefn gwlad, tra eu bod hefyd yn rhedeg busnesau cynaliadwy sy’n cynhyrchu bwyd da. Rydym yn falch o arddangos iaith a diwylliant Cymru, gan amlygu pa mor bwysig yw ffermio i gymunedau gwledig Cymru.
Darganfyddwch ragor am y gyfres a gwyliwch y penodau ar Channel 4.
Darganfyddwch sut rydyn ni'n gweithio gyda ffermwyr i ymchwilio ffyrdd newydd, ymarferol o wella dulliau ffermio er budd ffermwyr, byd natur a'r amgylchedd. (Saesneg yn unig)
Dysgwch fwy am ein huchelgeisiau ar gyfer y tir yn ein gofal a sut rydym yn gweithio gyda ffermwyr a deiliaid hawliau comin i gefnogi ffermio carbon isel ac ecogyfeillgar. (Saesneg yn unig)
Mae cyfle unigryw i gymryd tenantiaeth busnes fferm 15 mlynedd wedi codi yn yr hyfryd Llyndy Isaf, yn Nant Gwynant, gyda'r broses o ddewis y tenant yn cael ei ffilmio ar gyfer sioe deledu i ddarlledwr cenedlaethol.