Croeso i’n gwefan newydd

Mae’n bosib y sylwch ar rai newidiadau i’n gwefan. Dysgwch am y gwelliannau rydym yn eu gwneud a ffeindiwch atebion i rai cwestiynau cyffredin.
Rydym yn gwneud gwelliannau hanfodol i’n systemau TG, sy’n golygu na fyddwch yn gallu ymuno, adnewyddu eich aelodaeth na rhoi cyfraniad ar y wefan hyd 23 Ionawr.
Ond, gallwch ddal i ymuno neu roi yn y mannau yr ydym yn gofalu amdanynt. Os hoffech chi adnewyddu eich aelodaeth cyn 23 Ionawr, gallwch ffonio ein Canolfan Gwasanaethau Cefnogwyr ar 0344 800 1895.
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.
Cwestiynau cyffredin
Cysylltwch â ni
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Canolfan gymorth
Dewch o hyd i wybodaeth am ddod yn aelod, ymweld, gwirfoddoli neu wneud rhodd. (Saesneg yn unig)

Fy Nghyfrif
Rydym wedi gwrando ar yr hyn yr ydych wedi ei ddweud wrthym am fod eisiau mwy o hyblygrwydd o ran eich dewisiadau aelodaeth, felly rydym wedi creu Fy Nghyfrif. Dysgwch sut i gofrestru, gwneud newidiadau i’ch aelodaeth a dewis sut yr ydych am gael clywed gennym.

Darganfyddwch ap yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Lawrlwythwch ap yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer ffonau symudol a thabledi i ddatgloi byd newydd o ddarganfyddiadau, gyda gwybodaeth am fwy na 500 o lefydd arbennig ledled y DU. (Saesneg yn unig)

Cwestiynau cyffredin am ymweld ac archebu
Dewch o hyd i atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am ymweld a defnyddio’r system archebu, yn ogystal â phryderon sy’n bodoli o hyd ynghylch mesurau coronafeirws.
