Ble fydd eich ymweliad nesaf?
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy.
Mae atebion isod i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am ymweld, defnyddio’r system archebu, a phryderon sy’n bodoli o hyd ynghylch mesurau coronafeirws.
Does dim rhaid i chi archebu ymweliad ymlaen llaw ar gyfer llawer o leoliadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mwyach. Ar gyfer rhai eiddo lle mae trefniadau archebu wedi’u cyflwyno ar gyfer teithiau tywys, i reoli niferoedd ymwelwyr neu am resymau eraill (fel capasiti fferi), mae angen archebu o hyd.
Cymerwch olwg ar y llefydd lle mae’n rhaid archebu
Cymerwch olwg ar wefan yr eiddo rydych chi’n ymweld ag ef neu ap symudol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn teithio.
Ar gyfer llefydd lle mae’n rhaid archebu ymlaen llaw o hyd, gallwch archebu tocyn trwy ymweld â gwefan yr eiddo neu ap symudol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Os na allwch archebu ar-lein, gallwch ffonio ein tîm archebu ar 0344 249 1895
Os oes angen i chi ddod â gofalwr neu gydymaith hanfodol gyda chi fel ymwelydd anabl, gallwch archebu tocyn gofalwr wrth archebu, a hynny am ddim.
Ar hyn o bryd nid yw’r system archebu yn gallu derbyn cardiau rhodd fel modd o dalu am archebion. Felly, dilynwch y camau hyn i archebu eich tocyn a sicrhewch eich bod yn mynd â’ch cerdyn rhodd gyda chi i’r til wrth gyrraedd.
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd i archebu ar-lein, gallwch ffonio ein tîm archebu ar 0344 249 1895 a fydd yn cwblhau’r broses hon i chi.
Mae’r tocynnau at eich defnydd chi yn unig, ac ni ellir eu hailwerthu. Byddwn yn canslo tocynnau y mae gennym reswm dros gredu eu bod wedi’u hailwerthu.
Os gwnaethoch greu cyfrif wrth wneud eich archeb, byddwch yn gallu newid dyddiad neu amser eich archeb ar-lein hyd at 24 awr cyn dyddiad eich ymweliad, neu drwy ffonio 0344 249 1895. Os ydych chi’n aelod ac nad ydych yn gallu dod mwyach, rhowch wybod i ni drwy ein ffonio ar yr un rhif. Bydd hyn yn galluogi rhywun arall i gael tocyn yn eich lle.
Nid ydym yn gallu cynnig tocynnau ar wahân ar gyfer tŷ neu ardd o dan y system archebu bresennol. Rydym yn deall y gallai hyn achosi anawsterau. Bydd manylion am sut y gallwch ymweld â’r tŷ wedi’u cynnwys yn eich cadarnhad archebu.
Mae cyfraith treth elusennol yn golygu bod yn rhaid i’n lleoliadau fod ar gael i bawb – nid dim ond aelodau. Felly, ni allwn gynnig mynediad arbennig neu flaenoriaeth archebu i unrhyw un.
Bydd, bydd prisiau’n amrywio rhwng gwahanol eiddo ac yn dibynnu ar faint o’r eiddo sydd ar agor.
Fel llawer o sefydliadau, rydym wedi dioddef colledion incwm sylweddol yn ystod y cyfnod clo, a ddaeth â llawer o’n gweithgareddau cadwraeth i ben. Bydd eich arian yn ein helpu i barhau â gwaith cadwraeth hanfodol a pharhau i gynnig mynediad at natur, harddwch a hanes.
Na, rhaid i bob archeb aelod gael ei gwneud yn erbyn aelodaeth bresennol. Bydd angen i chi nodi eich rhif aelodaeth unigryw wrth archebu, a byddwn yn gwirio cardiau aelodaeth pan fyddwch yn cyrraedd.
Gall aelodau barcio am ddim. Bydd angen i bobl nad ydynt yn aelodau dalu lle mae peiriannau talu ac arddangos.
Bydd hyn yn wahanol mewn gwahanol leoliadau yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Fodd bynnag, lle gallwn ni, byddwn ni’n ceisio cyhoeddi’r cyfleusterau sydd ar gael, fel tai bach, ar wefannau eiddo, ond cofiwch y gallai hyn newid o bryd i’w gilydd.
Bydd hyn yn dibynnu ar y maes parcio rydych chi’n ei archebu.
Chwiliwch am eiddo ac fe welwch yr oriau agor ar ei hafan.
Mae llawer o’n tai ar agor yn llawn, ond mae rhai’n cynnwys ystafelloedd na allwn eu hagor am y tro am resymau staffio, cadwraeth neu resymau eraill.
Mae seddi ymwelwyr ar gael mewn mannau amrywiol ym mhob un o dai hanesyddol a gerddi’r Ymddiriedolaeth. Mae croeso i ymwelwyr sydd eisiau eistedd ddefnyddio’r seddi sydd ar gael neu ofyn i stiward ystafell neu aelod o staff os nad oes seddi’n amlwg ar unwaith.
Mewn rhai eiddo, byddwn yn gofyn i ymwelwyr adael bagiau mawr gyda ni tra’u bod nhw’n ymweld. Mae hyn er mwyn osgoi difrod damweiniol a gwella diogelwch.
Mae’r cyfyngiad hwn yn cynnwys bagiau cefn, bagiau llaw mawr, bagiau plastig, bagiau ysgwydd mawr a bagiau camera/camera fideo. Gall y rhain gael eu gadael yn ddiogel wrth y fynedfa i unrhyw dŷ lle mae’r cyfyngiad yn berthnasol (yn benodol tai hanesyddol gyda chynnwys bregus, arwynebau addurniadol bregus neu lwybrau ymwelwyr cul).
Gall unrhyw sawdl sy’n llai na stamp post achosi difrod na ellir ei drwsio i loriau, carpedi a matiau brwyn. Mae’n ddrwg gennym ni, ond ni chewch wisgo sgidiau â sodlau miniog. Mae sliperi plastig ar gael i ymwelwyr sydd â sgidiau anaddas neu fwdlyd, neu mae sgidiau ar gael i’w prynu.
Cofiwch fod gwadnau rhychiog yn dal graean a cherrig mân, sy’n crafu lloriau cain. Mae crafwyr sgidiau a brwshys ar gael. Mae’n bosibl y cewch orchudd esgidiau mewn eiddo sydd â lloriau bregus.
Gall y defnydd o ffonau symudol ymyrryd â gweithrediad cywir offer monitro amgylcheddol electronig sensitif, felly gofynnwn i ymwelwyr eu diffodd wrth fynd i mewn i dai neu adeiladau eraill lle mae offer o’r fath yn debygol o fod.
Hefyd, cofiwch fod yn ystyrlon wrth ddefnyddio ffonau symudol mewn gerddi a mannau agored caeedig eraill, lle gallai sŵn ffôn yn canu neu sgyrsiau uchel darfu ar fwynhad tawel pobl eraill.
Ni chewch ysmygu y tu mewn i dai, bwytai na siopau’r Ymddiriedolaeth. Gofynnwn i ysmygwyr hefyd ymatal rhag ysmygu mewn gerddi, gan fod arogl blodau yn rhan mor bwysig o fwynhad ymwelwyr.
Rydym yn croesawu cerddwyr i’r miloedd o erwau o gefn gwlad ac arfordir sydd yn ein gofal. I ddysgu mwy, ewch i’n tudalennau cerdded. (Saesneg yn unig).
Mae gwisgo gorchudd wyneb yn ddewis personol i ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr.
Gall unrhyw ymwelwyr ag eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dynnu lluniau yn yr awyr agored at eu defnydd preifat eu hunain. Dylai unrhyw un sydd am werthu neu gyhoeddi ffotograffau gysylltu ag images@nationaltrust.org.uk
Dylid gofyn am ganiatâd ar y pryd os dymunwch chi ffilmio neu dynnu llun bwriadol o aelodau staff neu wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Caniateir ffotograffiaeth amatur (gan gynnwys ffilmio) mewn ystafelloedd hanesyddol bellach, yn ôl disgresiwn rheolwr yr eiddo. Fel gyda ffotograffiaeth awyr agored, mae unrhyw ffotograffau at ddefnydd preifat yn unig, a dylech e-bostio images@nationaltrust.org.uk gydag unrhyw ymholiadau am werthu neu gyhoeddi ffotograffau.
Fodd bynnag, dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol y gallai fod materion yn ymwneud â hawlfraint mewn rhai lleoliadau ac y gallai fod angen caniatâd pellach mewn perthynas â chasgliadau nad ydynt yn eiddo i ni. Yn y sefyllfaoedd hyn, penderfyniad rheolwr yr eiddo sy’n derfynol ynghylch caniatáu ffotograffiaeth.
I atal dirywiad cynnwys sy’n sensitif i olau, yn enwedig tecstilau a dyfrlliwiau. Mae lefelau golau’n cael eu monitro’n rheolaidd a’u rheoli’n ofalus gan ddefnyddio bleindiau a llenni haul. Rydym yn argymell i ymwelwyr roi amser i’w llygaid addasu i’r amodau tywyllach yn yr ystafelloedd lle mae’r lefelau golau’n cael eu lleihau i warchod deunydd bregus.
Mae rhai tai hanesyddol yn cynnig teithiau arbennig yn ystod misoedd y gaeaf, pan mae staff y tŷ yn arddangos arferion cadw tŷ traddodiadol. Maen nhw’n esbonio pam mae polisïau cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofyn am lefelau golau isel yn ystod y gaeaf. Mae’r digwyddiadau ‘rhoi’r tŷ i gysgu’ hyn weithiau’n cael eu hysbysebu yn y wasg leol, neu gallwch ddod o hyd i fanylion yn adran digwyddiadau’r eiddo.
Nid ydym yn caniatáu hedfan dronau o, na thros, dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac eithrio gan gontractwyr a gomisiynir gan yr Ymddiriedolaeth at ddiben penodol, sy’n bodloni meini prawf CAA llym, sydd ag yswiriant addas ac sy’n gweithredu o dan amodau rheoledig.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein polisi dronau llawn
I helpu ymwelwyr i gynllunio eu diwrnod, ein nod yw gweini diodydd poeth, cacennau a phrydau ysgafn, gan gynnwys brechdanau, sŵp, pasteiod a rholiau selsig, ond gofynnwn i ymwelwyr gofio y gallai hyn newid ar fyr rybudd, yn amodol ar y sefyllfa newidiol gyda’r gadwyn gyflenwi.
Mae’n bosib na fydd ein bwydlen yn darparu ar gyfer gwahanol anghenion dietegol gystal â’r arfer, ac rydym yn annog ymwelwyr sydd a gofynion dietegol penodol i ddod â snacs gyda nhw i osgoi cael eu siomi.
Gallwch, gall ymwelwyr ddod â’u bwyd a diod eu hunain. Peidiwch â gadael sbwriel ar eich ôl, os gwelwch yn dda.
Mae llawer o eiddo’n croesawu picnics – mae gan rai ohonynt ardal picnics bwrpasol, ond ni all ambell un eu caniatáu. Cadwch olwg am yr eicon ‘addas ar gyfer picnics’ ar dudalennau eiddo unigol.
Ni chaniateir tanau a barbeciws fel arfer. Os ydych chi’n bwriadu cael picnic mewn eiddo am y tro cyntaf, ffoniwch nhw ymlaen llaw i gadarnhau.
Mae ffynhonnau dŵr ar gael i’w defnyddio yng Nghymru a Lloegr. Mae rhai caffis/siopau bwyd nawr yn gallu ail-lenwi poteli dŵr aml-dro ar yr amod eu bod yn lân ac mewn cyflwr da. Bydd dŵr potel hefyd ar gael i’w brynu mewn caffis a siopau bwyd.
Mae rhai caffis a siopau bwyd yn derbyn cwpanau aml-dro ar yr amod eu bod yn lân ac mewn cyflwr da. Am bob diod boeth sy’n cael ei phrynu gan ddefnyddio cwpan aml-dro, cewch ostyngiad o 25c. Mae’r gostyngiad hwn wedi’i gyflwyno i helpu ymwelwyr i wneud dewis rhwng cwpanau untro neu aml-dro, gyda’r nod o leihau nifer y cwpanau untro sy’n cael eu defnyddio.
Mae cost o 5c ar gyfer defnyddio cwpanau untro. Gobeithiwn y bydd ymwelwyr yn dod â’u cwpanau eu hunain gyda nhw am ostyngiad o 25c. Er bod y rhain yn newidiadau bach, maen nhw’n ein helpu i fod yn fwy cynaliadwy.
Mae ein cwpanau wedi’u gwneud o ddeunydd planhigion, felly mae modd eu compostio lle mae cyfleusterau lleol ar gael. Er bod hyn yn dal yn opsiwn gwell na chwpanau na ellir eu compostio, maen nhw’n dal i gynhyrchu gwastraff. Mae defnyddio cwpan aml-dro yn lleihau gwastraff diangen.
Na, rydym yn derbyn unrhyw gwpanau aml-dro, ar yr amod eu bod yn lân ac mewn cyflwr da.
Daeth y cynllun cerdyn ffyddlondeb diodydd poeth i ben ar 28 Chwefror 2021. Gall cardiau sydd wedi’u llenwi gael eu cyfnewid am y cynllun cwpanau aml-dro. Yn hytrach nag un ddiod boeth am ddim, gall cardiau sydd wedi’u llenwi gael eu cyfnewid am ostyngiad o £2 ar gwpan eco aml-dro’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn un o siopau eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y fantais hirdymor i gefnogwyr yw y byddant yn cael gostyngiad o 25c ar bob diod boeth yn y dyfodol pan yn defnyddio’r cwpan aml-dro.
Rydym yn diweddaru ein gwefan yn rheolaidd, felly defnyddiwch hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Os nad yw’r ateb i’ch ymholiad ar y wefan, cysylltwch â ni ar 0344 800 1895 neu e-bostiwch enquiries@nationaltrust.org.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu.
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy.
Trefnu diwrnod allan yn un o’r tai neu erddi rydym yn gofalu amdanynt? Mae angen archebu ymlaen llaw ar gyfer rhai llefydd o hyd. Dysgwch pa rai, a dysgwch sut y gallwch ymuno ag un o’n profiadau teithiau tywys newydd. (Saesneg yn unig)
Lawrlwythwch ap yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer ffonau symudol a thabledi i ddatgloi byd newydd o ddarganfyddiadau, gyda gwybodaeth am fwy na 500 o lefydd arbennig ledled y DU. (Saesneg yn unig)
Ymweld gyda grŵp? Gallai’r atebion i’n cwestiynau cyffredin helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. (Saesneg yn unig)
Dewch o hyd i wybodaeth am ddod yn aelod, ymweld, gwirfoddoli neu wneud rhodd. (Saesneg yn unig)
This guide provides the address and any necessary satnav details to find places.