Diweddariad ar greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Cyhoeddwyd:
- 01 Hydref 2025

Ym mis Gorffennaf fe wnaethom gyhoeddi bod angen i ni wneud arbedion oherwydd oherwydd y pwysau costau parhaus sy’n effeithio ar lawer o elusennau, ac i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i gyflawni ein strategaeth 10 mlynedd newydd.
Yn dilyn ymgynghoriad ac o ganlyniad i'n cynllun diswyddo gwirfoddol, rydym wedi cael cyfle i leihau’r nifer o ddiswyddiadau gorfodol. O ganlyniad i’r cwtogiad o £2m i’n targed i leihau costau tâl, rydym wedi llwyddo i adfer rhai swyddi yn y strwythur arfaethedig.
O’r gostyngiad o 6% yn nifer y swyddi yr oeddem yn disgwyl ei wneud, daeth 4% o ddiswyddiadau gwirfoddol, sy’n golygu y bydd 2% bellach yn deillio o ddiswyddiadau gorfodol. Mae hyn yn cyfateb i ostyngiad o ryw 500 o swyddi llawn amser.
Rydym yn ddiolchgar i’n holl staff a gwirfoddolwyr am y caredigrwydd a'r gwydnwch y maen nhw wedi'u dangos drwy’r broses hon.
Bydd yr arbedion yma yn helpu’r Ymddiriedolaeth i fod yn llwyddiannus o dan amodau ariannol heriol iawn a dechrau cyflawni amcanion ein strategaeth newydd o adfer byd natur, rhoi terfyn ar fynediad anghyfartal at natur a threftadaeth ddiwylliannol, ac i ysbrydoli miliynau mwy o bobl i gefnogi ein hachos. Mae gennym waith i'w wneud o hyd, ond ein nod yw cael strwythurau a ffyrdd newydd o weithio yn eu lle erbyn dechrau 2026.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi goroesi ers dros ganrif oherwydd ei bod yn parhau i addasu a chynllunio ar gyfer y tymor hir.