Skip to content
Datganiad i'r wasg

O waelod y dyffryn i gopa’r mynydd, mae prosiect mawr yn mynd rhagddo i wyrdroi dirywiad byd natur yn Nant Ffrancon, Eryri

Cyhoeddwyd:
08 Medi 2026
Golygfa o ddyffryn Nant Ffrancon yn Eryri
Golygfa lawr drwy ddyffryn Nant Ffrancon yn Eryri | © NTI/Paul Harris

Yn nyffryn Cymreig dramatig Nant Ffrancon yn Eryri, mae prosiect mawr i adfer byd natur yn mynd rhagddo i adfer cynefinoedd, adfer rhywogaethau prin ac ail-gysylltu cymunedau â byd natur.

Yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a’i ariannu gan bron i £1m o Gronfa Rhwydweithiau Natur, sy’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, mae’r prosiect #NNF5 Natur i Bobl Nant Ffrancon yn ceisio adfer byd natur ar raddfa eang dirweddol.

O gopaon mynyddoedd Cwm Idwal i waelod Dyffryn Ogwen a phopeth yn y canol, mae’r dyffryn dynodedig [1] yn wynebu dirywiad ecolegol difrifol. Mae cynefinoedd wedi dod yn rhanedig ac mae rhai o rywogaethau Cymru sydd fwyaf dan fygythiad, gan gynnwys mwyalchen y mynydd a llinos y mynydd, mewn perygl o ddiflannu.

Gan weithio ar y cyd â chymunedau lleol, ffermwyr tenant, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner, ar dir y mae’r Ymddiriedolaeth yn gofalu amdano yn y dyffryn, mae clytwaith o dros 1635 hectar (4040 erw) o gynefinoedd, sy’n ardal dros 51 gwaith maint Llyn Ogwen [2], yn cael ei hadfer a’i diogelu. 

Bydd cynefinoedd o flaenoriaeth [3] gan gynnwys corsydd ucheldir, rhosydd mynyddig, afonydd a glaswelltir blodau gwyllt yn elwa o ymyriadau ymarferol wedi’u targedu, megis pori.

Bydd arolygon ecolegol a monitro rheolaidd yn mapio effaith y gwaith ar adfer Nant Ffrancon, gan ddefnyddio rhywogaethau megis bele’r coed a dyfrgwn, a phlanhigion megis aethnen a meryw fel dangosyddion o iechyd y dyffryn wrth i’r prosiect fynd rhagddo. 

Bydd Hwb Natur Ogwen wrth wraidd y prosiect, yn bwynt canolog ar gyfer adfer byd natur, dysgu a gweithredu ac ymgysylltu cymunedol. Bydd cyfleusterau’n cynnwys coeden frodorol a meithrinfa blanhigion, lle ar gyfer hyfforddi sgiliau, cynnal digwyddiadau cymunedol ac ysgolion.

Gan ddod â’r rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn treulio amser yn Nant Ffrancon ynghyd, bydd y prosiect yn helpu i lywio rheolaeth a gweithgareddau’r dyfodol sy’n adlewyrchu gwybodaeth, anghenion a dyheadau lleol, gan helpu i feithrin cysylltiad lleol a stiwardiaeth treftadaeth naturiol yn y dyffryn. 

Dywedodd Simon Rogers, Rheolwr Prosiect Natur i Bobl Nant Ffrancon i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Mae Nant Ffrancon yn un o dirweddau mwyaf arbennig Cymru, ond fel sawl lle, mae’n wynebu heriau sylweddol oherwydd colli cynefinoedd a dirywiad mewn bioamrywiaeth. Rydym wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol, ac mae angen i ni weithredu nawr.

“Mae Natur i Bobl Nant Ffrancon yn rhoi cyfle cyffrous i ni weithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, ffermwyr a phartneriaid, i adfer ac uno cynefinoedd sy’n well i fyd natur, cefnogi rhywogaethau dan fygythiad a chreu dyfodol mwy gwydn i’r dyffryn. 

“Wrth adeiladu ar waith adfer byd natur blaenorol a pharhaus yn yr ardal, a rhoi pobl wrth wraidd yr adferiad byd natur, rydym yn gobeithio creu gwaddol parhaol lle gall bywyd gwyllt, ffermio a chymunedau ffynnu gyda’i gilydd a lle all bywyd gwyllt ffynnu am genedlaethau.”

Tlysau Mynydd Eryri [4], prosiect cadwraeth y bartneriaeth dan arweiniad Plantlife Cymru i ddiogelu dyfodol rhai o’r planhigion alpaidd mwyaf prin yng Nghymru, yw un o’r prosiectau y bydd Natur i Bobl Nant Ffrancon yn darparu gwaddol ar ei gyfer. Er enghraifft, bydd y prosiect yn adeiladu ar y defnydd arloesol o goleri da byw GPS i reoli pori yn fwy manwl. Defnyddir y dechnoleg hon ar hyn o bryd ym Mlaen y Nant, fferm draddodiadol yr ucheldir dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae’r elusen gadwraeth yn awyddus i’w hail-osod y flwyddyn nesaf.

Menter arall sy’n ategu’r prosiect newydd yw partneriaeth barhaus gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, yn canolbwyntio ar adfer mawndir ac ail-gysylltu Afon Ogwen gyda’i gorlifdir [5]. Bydd hyn yn gwella amgylchedd naturiol Nant Ffrancon ymhellach, gan wrthdroi degawdau o golledion a helpu i ail-adeiladu gwytnwch ecolegol a hinsawdd. 

Mae prosiect Natur i Bobl Nant Ffrancon, fydd yn parhau hyd at ddechrau 2029, yn cyfrannu’n uniongyrchol at uchelgais yr elusen cadwraethol i greu 250,000 hectar o dirweddau sy’n gyfoethog o ran natur, ar dir yr Ymddiriedolaeth ac oddi arno yn y ddegawd nesaf. Bydd yn mynd i’r afael â’r dirywiad trychinebus mewn byd natur ar hyd a lled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gwahoddir unrhyw un sydd yn awyddus i ddysgu rhagor i fynychu Diwrnod Cymunedol Nant Ffrancon ar 3 Hydref ar fferm Blaen y Nant. Yn ystod y diwrnod bydd ras hwyl, cerddoriaeth fyw, sgyrsiau llawn gwybodaeth ac ystod o weithgareddau, gan roi cyfle i gymryd rhan yn y prosiect a helpu i lywio cynlluniau’r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth gweler: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/carneddau-and-glyderau/prosiect-natur-i-bobl-nant-ffrancon

Derbyniodd y prosiect #NNF5 Natur i Bobl Nant Ffrancon arian drwy Gronfa Rhwydweithiau Natur, yn cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Troednodion

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Spring apple blossom with a lawn and the red stone medieval Powis Castle behind, Welshpool, Wales