Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cynnig tenantiaeth brin ger un o gartrefi mwyaf hanesyddol Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gwahodd ceisiadau am Ddeiliad Contract (Tenant) newydd i fyw yng Nglan yr Afon, ffermdy Cymreig traddodiadol tair ystafell wely wedi'i leoli wrth ymyl un o gartrefi hanesyddol mwyaf arwyddocaol Cymru, Tŷ Mawr Wybrnant yng Nghonwy.
Mae Glan yr Afon yn ffinio â Thŷ Mawr Wybrnant, man geni'r Esgob William Morgan, ble chwaraeodd ei gyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg ym 1588 rôl hanfodol wrth ddiogelu'r iaith Gymraeg. Heddiw, mae Tŷ Mawr Wybrnant yn eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n croesawu ymwelwyr o bob cwr o'r byd.
Wedi'i nythu yng nghoedwig dyffryn Wybrnant ger Penmachno, mae Glan yr Afon yn cynnig cyfle prin i fyw wedi'i amgylchynu gan natur, hanes ac un o safleoedd treftadaeth bwysicaf Cymru yn ddiwylliannol.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn chwilio am denant a fydd yn gwneud Glan yr Afon yn gartref iddynt tra hefyd yn helpu i ddarparu presenoldeb lleol anffurfiol a chadw llygad barcud ar Dŷ Mawr Wybrnant.
Dywedodd Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Gogledd Orllewin Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
“Mae hwn yn gyfle unigryw i fyw ochr yn ochr ag un o’r tai hanesyddol pwysicaf yng Nghymru. Rydym yn chwilio am rywun sy’n gwerthfawrogi cymeriad arbennig y lleoliad ac a all ein helpu i ofalu am Dŷ Mawr Wybrnant trwy fod yn gymydog cyfrifol a chefnogol.”
Mae’r denantiaeth yn rhan o ymrwymiad ehangach Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i ofalu am leoedd hanesyddol trwy gysylltiadau lleol cryf, gan helpu i sicrhau bod safleoedd fel Tŷ Mawr Wybrnant yn parhau i gael eu diogelu a’u mwynhau am genedlaethau i ddod.
Mae’r ffermdy yn cynnig tair ystafell wely, cegin ac ystafell fyw ar wahân, a gardd breifat, gan ddarparu byw gwledig o fewn lleoliad hanesyddol dwfn. Mae’r eiddo ar gael am £700 y mis calendr.
Manylion Gosod
Manylion Gosod - Glan yr Afon, Conwy
Ffurflen Ymgeisio
Ffurflen Ymgeisio - Glan yr Afon, Conwy
Mae ceisiadau'n cau am 11.59pm ar 10 Mai, 2026.
Pethau eraill o ddiddordeb
Tŷ Mawr Wybrnant
Man geni’r Esgob William Morgan.

Residential and farm lettings
We open hundreds of historic places to the public each year. There also look after cottages, houses and farms across the wider estate for tenants to let. Find out more about residential and farm lettings and how to find a place for you.
