Skip to content
Prosiect

Maes parcio newydd i Ben y Fan

Dau gerddwr mewn dillad glaw yn sefyll ar bont gyda nant yn llifo oddi tani ynghanol tirwedd o weundiroedd
Cerddwyr ar Ffordd y Bannau rhwng Pont ar Daf a Phen y Fan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog | © National Trust Images/John Millar

Ydych chi’n un o’r miloedd sy’n heidio i Ben y Fan bob blwyddyn? Mae’n bosib eich bod wedi sylwi bod copa uchaf de Cymru yn prysuro o flwyddyn i flwyddyn. Dyna pam rydym yn creu maes parcio newydd, addas ym Mhont ar Daf, y pwynt mynediad mwyaf poblogaidd ar gyfer dringo Pen y Fan.

Cyfleusterau a mynediad

Rydym yn falch iawn o ofalu am Ben y Fan ac rydym am sicrhau y gall pawb sy’n ymweld brofi harddwch aruthrol y lle arbennig hwn. Mae mwy na 500,000 o bobl yn ymweld â Phen y Fan bob blwyddyn, a bydd y maes parcio newydd hwn yn sicrhau y gallant ddechrau eu taith gyda mynediad i’r holl gyfleusterau sydd eu hangen arnynt, mewn lle sy’n asio i’r amgylchedd.

‘Rydym wrth ein bodd o symud y prosiect hwn i’r cam cyflawni. Mae angen maes parcio newydd ers cryn amser a bydd yn trawsnewid y croeso y gallwn ei roi i ymwelwyr, gan alluogi pobl i brofi’r lle anhygoel hwn ar ei orau.’

– Alan Kearsley-Evans, Rheolwr Cyffredinol, Bannau Brycheiniog a Gŵyr

Y weledigaeth ar gyfer maes parcio Pont ar Daf

Mae ein cynlluniau ar gyfer Pont ar Daf yn cynnwys tua 200 o fannau parcio ychwanegol i geir, gyda darpariaeth ar gyfer defnyddwyr anabl, pwyntiau gwefru cerbydau trydan, mannau parcio i fysus (gan gynnwys bysus mini) a beicwyr, ac ardal i’r gwasanaethau brys a defnyddwyr eraill y bannau.

Bydd y cyfleusterau newydd i ymwelwyr yn cynnwys tai bach â mynediad i bobl anabl, toiled Changing Places a chyfleusterau newid cewyn, y bydd rhai ohonynt ar gael 24 awr y dydd. Bydd gwelliannau i arwyddion, llwybrau troed a gwybodaeth hefyd yn galluogi pobl i gynllunio eu dydd yn well.

Cwestiynau cyffredin

Pa bryd y bydd maes parcio Pont ar Daf yn gorffen?

Mae'r rhan fwyaf o'r maes parcio ym Mhont ar Daf wedi agor bellach, gyda thros 180 o leoedd parcio ar gael.

Byddwch yn ymwybodol bod gwaith yn dal i fynd rhagddo mewn rhai rhannau o'r maes parcio, gan gynnwys y baeau gwefru cerbydau trydan.

A fydd modd parcio ym Mhont ar Daf tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo?

Mae'r rhan fwyaf o'r maes parcio wedi agor bellach ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi.

A fydd amseroedd agor y maes parcio’n newid?

Yn yr un modd â'r rhan fwyaf o feysydd parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae rhannau o'r maes parcio ym Mhont ar Daf y mae'r gwaith wedi'u cwblhau ynddynt, yn agored bob awr o'r diwrnod, drwy'r flwyddyn. Bydd rhan o’r maes parcio ar gael 24 awr y diwrnod. Efallai y bydd hyn yn newid wrth i ni ddod i ddeall yn well sut mae ymwelwyr yn defnyddio’r maes parcio newydd.

A fydd angen i mi dalu i ddefnyddio’r maes parcio newydd?

Caiff aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol barcio am ddim ym maes parcio Pont ar Daf, fel yn holl feysydd parcio eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Os nad ydych yn aelod, bydd rhaid talu ffi neilltuol o £7.50 fesul car i barcio. Gallwch dalu un ai gan ddefnyddio ein peiriannau talu ac arddangos, neu drwy ddefnyddio Pay By Phone. Bydd yr opsiwn i dalu gyda cherdyn ar gael saith diwrnod yr wythnos rhwng 8am a 4pm pan fydd staff ar y safle. Mae costau parcio yn berthnasol 24 awr y dydd.

Drwy gyflwyno ffioedd parcio ym Mhont ar Daf, gallwn barhau i godi arian mawr ei angen er mwyn cynnal cyfleusterau ac ymgymryd â gwaith cadwraeth pwysig ar draws yBannau Brycheiniog.

Pam cyflwyno ffioedd parcio ym Mhont ar Daf?

Fel nifer o sefydliadau eraill, mae’r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn sylweddol. Oherwydd hynny, rydym wedi gorfod ail-ystyried ein model gweithredu yn nifer o’r lleoedd rydym yn gofalu amdanynt.

Rydym yn elusen, ac yn dibynnu ar yr incwm rydym yn ei dderbyn gan ein hymwelwyr er mwyn ein helpu i ofalu am y lleoedd arbennig dan ein gofal. Drwy gyflwyno ffioedd parcio ym Mhont ar Daf yn y dyfodol, gallwn barhau i gyflwyno arian mawr ei angen er mwyn cynnal cyfleusterau ac ymgymryd â gwaith cadwraeth pwysig ar draws Bannau Brycheiniog.

A fydd modd talu gydag arian parod neu gerdyn?

Gallwch dalu’r ffi parcio o £7.50 fesul car un ai drwy arian parod gan ddefnyddio ein peiriannau talu ac arddangos, neu drwy ddefnyddio Pay By Phone. Bydd yr opsiwn i dalu gyda cherdyn ar gael saith diwrnod yr wythnos rhwng 8am a 4pm pan fydd staff ar y safle.

A fydd staff yn y maes parcio ym Mhont ar Daf?

Mae tîm croeso newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gael yn y maes parcio saith diwrnod yr wythnos, rhwng 8am a 4pm, i'ch helpu chi i gynllunio eich diwrnod ym Mannau Brycheiniog.

Mae gen i fathodyn glas, a fydd rhaid i mi dalu?

Os oes gennych chi fathodyn glas, cewch barcio am ddim yn unrhyw un o'n meysydd parcio talu ac arddangos. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw dangos eich bathodyn yn glir yn y ffenestr flaen.

Beth am unigolion sy’n cyrraedd Pont ar Daf ar droed, ar gefn beic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Ni fyddwn yn codi ffi ar gyfer mynediad. Ni fydd angen i chi dalu os ydych yn cyrraedd ar gefn beic, ar droed neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

A fydd lleoedd ar gyfer ymwelwyr sydd eisiau stopio ym Mhont ar Daf i ddefnyddio'r cyfleusterau?

Os ydych yn stopio am 10 munud neu lai, mae nifer fach o leoedd ar gael, yn rhad ac am ddim.

A fydd lle i gartrefi modur a champerfaniau barcio yn y maes parcio newydd?

Mae croeso i bawb ddefnyddio'r maes parcio newydd ym Mhont ar Daf, gan gynnwys cartrefi modur a champerfaniau, ond ni fydd modd i chi aros dros nos. Os ydych yn bwriadu aros dros nos yn yr ardal, byddem yn eich annog chi i ddefnyddio'r parciau gwersylla a charafannau swyddogol ym Mharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog a'r cyffiniau. Gweler safleoedd addas yma: www.breconbeacons.org

A gaf i barcio dros nos ym maes parcio Pont ar Daf?

Bydd rhan o'r maes parcio newydd ym Mhont ar Daf ar agor 24 awr y diwrnod fel bod modd cyrraedd y Bannau Brycheiniog ar gyfer heiciau/gweithgareddau awyr agored yn ystod y dydd a'r nos. Wedi dweud hynny, ni fydd modd aros dros nos. Os ydych yn bwriadu aros dros nos yn yr ardal, byddem yn eich annog chi i ddefnyddio'r parciau gwersylla a charafannau swyddogol ym Mharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog a'r cyffiniau.

Nid wyf yn aelod o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; ees rhaid i mi dalu am barcio yn ystod oriau'r nos?

Mae costau parcio yn berthnasol ym maes parcio Pont ar Daf 24 awr y dydd. Mae'r cyflwyniad hwn o dâl parcio yn ein galluogi i godi'r arian hanfodol sydd ei angen arnom i gynnal cyfleusterau a gwneud gwaith cadwraeth pwysig ym Mannau Brycheiniog.

A gaf i wefru fy ngherbyd trydan ym Mhont ar Daf?

Bydd mannau gwefru cerbydau trydan yn rhan o'r cyfleusterau newydd maes parcio Pont ar Daf. Oherwydd oedi yn y gwaith i'r maes parcio, nid yw'r pwyntiau gwefru ar waith ar hyn o bryd. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am Bont ar Daf neu ein gwaith mewn mannau eraill ym Mannau Brycheiniog, cysylltwch â ni dros e-bost brecon@nationaltrust.org.uk a byddwn yn hapus i helpu.

Gwnaed y prosiect yn bosib o ganlyniad i gyllid rhannol gan Lywodraeth Cymru a Chynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Croeso Cymru.

Golygfa o Ben y Fan tuag at Gorn Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, De Cymru.

Darganfyddwch fwy ym Mannau Brycheiniog

Dysgwch sut i gyrraedd Bannau Brycheiniog, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o lethrau Corn Du ym Mannau Brycheiniog yn dangos y llethr serth ac erydiad llwybr troed
Erthygl
Erthygl

Gwaith ar lwybrau troed Bannau Brycheiniog 

Mae’r llwybrau troed sy’n cris-croesi Pen y Fan, Bannau Brycheiniog yn dioddef o erydiad ac yn cael eu cynnal gan dîm o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwirfoddolwyr gan ddefnyddio technegau traddodiadol.

Llun tirlun yn edrych ar draws copaon gwyrddion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Powys.
Erthygl
Erthygl

Crwydro Pen y Fan a Chorn Du 

Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.

Dyfroedd Rhaeadr Henrhyd, Powys, yn tasgu i lawr wyneb y graig i’r pwll oddi tano. Mae canghennau mawr yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Rhaeadr Henrhyd a Choedwig Graig Llech 

Darganfyddwch Raeadr Henrhyd a gwyliwch y dŵr yn plymio i geunant coediog Nant Llech. Mae Coedwig Graig Llech yn hafan i fwsogl a chen. Mae’r llecyn gwyrdd naturiol hwn yn boblogaidd gyda gwylwyr adar hefyd oherwydd ei amrywiaeth eang o adar y coed.

Pedwar person mewn dillad hafaidd yn ceisio sgramblo i lawr llethr ar fynydd Corn Du
Erthygl
Erthygl

Gwirfoddoli ym Mannau Brycheiniog 

Mae ‘na lawer o gyfleoedd i wirfoddoli ym Mannau Brycheiniog. Gallwch gyfarch ymwelwyr ym maes parcio Pont ar Daf neu ymuno â’r Tîm Llwybrau a helpu’r ceidwaid i drwsio llwybrau troed ucheldirol.