Bydd yr haul yn tywynnu ar Gaerdydd: Gerddi Dyffryn i gynnal Helios, cerflun enfawr newydd Luke Jerram
- Cyhoeddwyd:
- 12 Mai 2025
- Amser darllen:
- 2 minutes

O ddydd Gwener 23 Mai, bydd Gerddi Dyffryn ger Caerdydd yn cynnal Helios, gwaith celf syfrdanol saith metr o hyd o'r haul gan yr artist o fri, Luke Jerram.
Mae'r gosodiad ymdrochol yn cyfuno delweddaeth solar fanwl, golau disglair, a synau wedi'i hysbrydoli gan NASA ac yn cynnig cyfle swreal i fynd yn agos at yr haul.
Gerddi Dyffryn, sydd dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, yw'r unig leoliad yng Nghymru lle bydd ymwelwyr yn gallu gweld Helios yn ystod ei daith ledled y DU.
Bydd ymwelwyr yn gallu gweld Helios yn yr awyr agored ar Lawnt y De yng Ngerddi Dyffryn o ddydd Gwener 23 i ddydd Llun 26 Mai, a dydd Iau 29 Mai i ddydd Sul 1 Mehefin. Bydd oriau agor estynedig yn galluogi mwy o bobl brofi'r gwaith celf a'i weld mewn gwahanol oleuadau, gan gynnwys ar fachlud haul ar rai dyddiau.
Mae Helios yn cynnig golygfa fanwl o'r haul, wedi'i adeiladu i raddfa fel bod pob centimetr yn cynrychioli 2,000 cilomedr o wyneb yr haul go iawn. Bydd model wedi’i adeiladu i raddfa o'r Ddaear hefyd yn cael ei ddangos, gan gynnig cyfle unigryw i ddeall ein lle yn y bydysawd.
Ynghyd â'r delweddau trawiadol, mae seinwedd atmosfferig a grëwyd gan Duncan Speakman a Sarah Anderson yn cynnwys recordiadau NASA go iawn o weithgarwch yr haul, gan ychwanegu at y profiad ymdrochol.
Mae Luke Jerram, yr artist y tu ôl i Amgueddfa'r Lleuad a Gaia, yn cael ei ddathlu'n rhyngwladol am ei osodiadau ar raddfa fawr sy'n cyfuno celf a gwyddoniaeth.
Meddai Luke Jerram: “Rydyn ni i gyd yn gwybod ei bod hi'n beryglus edrych yn uniongyrchol ar yr haul, gan y gall niweidio ein golwg. Mae Helios yn ffordd ddiogel i ni ddod yn agos at – ac archwilio – ei arwyneb manwl gan gynnwys smotiau haul, sbigylau a ffilamentau.”
Roedd dyluniad Edwardaidd Gerddi Dyffryn wedi'i wreiddio yn y mudiad Celf a Chrefft, gan gyfuno traddodiad ac arbrofi. Heddiw, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi'i hysbrydoli gan ysbryd y dyluniadau gwreiddiol ac yn defnyddio ffyrdd newydd ac arloesol o arddio gyda bioamrywiaeth a newid hinsawdd mewn golwg. Mae cynnal Helios yn parhau â'r traddodiad o gysylltu pobl sy'n ymweld â natur, gan gynnig cyfle i ymwelwyr fyfyrio ar rym yr haul a chysylltiad Gerddi Dyffryn â'r byd naturiol.
Ychwanegodd Lizzie Smith Jones, Rheolwr Cyffredinol, Portffolio De-ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd i groesawu Helios i Erddi Dyffryn. Mae'r gosodiad trawiadol hwn nid yn unig yn brofiad unigryw a swrrealaidd, ond hefyd yn dyst i ymrwymiad parhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnig profiadau diwylliannol eithriadol yng Nghymru ac ar draws y DU.
“Ydy, mae Cymru’n cael hen ddigon o law, ond ym mis Mai eleni mae'r haul yn sicr o ddisgleirio ar Erddi Dyffryn! Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr yn gyffrous i rannu'r gwaith celf anhygoel hwn gyda'n holl ymwelwyr. Rydyn ni'n gwybod y bydd yn brofiad bythgofiadwy i bawb.”
Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu archwilio llwybr haul drwy'r gerddi, yn cael eu hannog i greu eu gwaith celf eu hunain gyda phecynnau creadigol i'w benthyg am ddim, cymryd rhan mewn crefftau â thema solar a rhoi cynnig ar wisgoedd â thema gofod.
Nid oes tâl ychwanegol i brofi Helios yng Ngerddi Dyffryn, bydd y pris mynediad arferol yn berthnasol, mae aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn mynd am ddim.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad i weld Helios yng Ngerddi Dyffryn.
Mae Helios wedi’i gyd-gomisiynu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cork Midsummer Festival, Eglwys Gadeiriol Lerpwl, Hen Goleg y Llynges Frenhinol a Choleg Prifysgol Llundain.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Helios yng Ngerddi Dyffryn
Dewch i weld Helios, cerflun sfferig goleuedig o'r haul gan yr artist Prydeinig Luke Jerram, sydd ar ddangos yng Ngerddi Dyffryn 23-26 Mai a 29 Mai-1 Mehefin 2025. Trefnwch eich ymweliad yma.

Gerddi Dyffryn
Gardd Edwardaidd sy’n cael ei hadfer, gyda thirwedd dymhorol sy’n newid yn barhaus.