Skip to content

Helios yng Ngerddi Dyffryn

Experience Helios at Dyffryn Gardens during May half term 2025
Experience Helios at Dyffryn Gardens during May half term 2025 | © James Dobson

Dewch i weld yr haul fel erioed o'r blaen. Mae Helios yn gerflun sfferig saith metr goleuedig gan yr artist Prydeinig Luke Jerram. Profwch Helios yng Ngerddi Dyffryn ar 23-26 Mai a 29 Mai-1 Mehefin. Gyda goleuadau’n ymdonni, delweddau solar a synau'r haul wedi'u recordio gan NASA, mae hwn yn gyfle gwych i weld y rhyfeddod clyweledol hwn ar ddangos yn yr awyr agored.

Rydyn ni’n falch iawn o ddweud, gan fod y rhagolygon yn dangos gwyntoedd llai cryf, ein bod ni’n bwriadu arddangos Helios eto heddiw (Dydd Gwener 30 Mai). Mynediad olaf am 8.30pm.

Beth yw Helios?

Mae hwn yn gyfle unigryw i weld a phrofi darn hudol o gelf sy'n ysgogi teimladau o ryfeddod, perthyn, diolchgarwch a chwilfrydedd. Oedolion a phlant, yr hen a’r ifanc, bydd pawb yn siŵr o gael eu swyno gan yr hyn sy’n eu disgwyl ar Lawnt y De yng Ngerddi Dyffryn.

Wedi'i enwi ar ôl duw Groegaidd yr haul, mae Helios yn cynnig cip manwl ar seren fwyaf cysawd yr haul, gan gynnwys nodweddion prin fel smotiau haul. Mae'r cerflun wedi’i adeiladu i raddfa, gyda phob centimetr yn cynrychioli 2,000 cilomedr o wyneb yr haul. 

Ynghyd â'r golau, mae Helios yn cynnwys seinwedd gan Duncan Speakman a Sarah Ande sy'n cynnwys recordiadau NASA o'r haul. Gyda'i gilydd, mae'r golau a'r sain yn creu profiad unigryw ac ymdrochol, gan ein gwahodd i archwilio harddwch a phŵer cudd yr haul yn agos ato. 

Mae Gerddi Dyffryn yn cynnig cyfle gwych i weld y gwaith celf sfferig saith metr yn yr awyr agored. Bydd Helios ar ddangos ar Lawnt y De, gydag arddangosfeydd blodau trawiadol a dŵr adlewyrchol y Wyneb Deheuol yn y cefndir.

Mae Helios wedi’i gyd-gomisiynu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cork Midsummer Festival, Eglwys Gadeiriol Lerpwl, Hen Goleg y Llynges Frenhinol a Choleg Prifysgol Llundain.  

"Rydyn ni i gyd yn gwybod ei bod hi'n beryglus edrych yn uniongyrchol ar yr haul, gan y gall niweidio ein golwg. Mae Helios yn ffordd ddiogel i ni ddod yn agos at – ac archwilio – ei arwyneb manwl gan gynnwys smotiau haul, sbigylau a ffilamentau."

Dyfyniad gan Luke Jerram Arlunydd Helios

Pryd fydd Helios yng Ngerddi Dyffryn?

Gall ymwelwyr weld Helios o Ddydd Gwener 23 i Ddydd Llun 26 Mai ac o Ddydd Iau 29 Mai i Ddydd Sul 1 Mehefin. Mae'r dyddiadau hyn yn ystod hanner tymor mis Mai, ond gan y bydd y gwaith celf yn yr awyr agored, dim ond am bedwar diwrnod ar y tro y gellir ei arddangos (i warchod ei gyflwr), felly ni fydd ar ddangos dros yr hanner tymor cyfan.

Mae cerflun fel Helios yn cymryd amser i'w osod a'i dynnu i lawr felly bydd y gerddi ar gau i ymwelwyr Ddydd Mercher 21 i Ddydd Iau 22 Mai a Dydd Llun 2 Mehefin. Byddwn ni ar agor fel arfer ar 27-28 Mai gyda digon o bethau i deuluoedd eu gwneud pan na fydd Helios yn cael ei arddangos.

Faint o'r gloch bydda’ i’n gallu ei weld?

Fel y gall mwy o ymwelwyr brofi Helios, mae oriau agor arferol Gerddi Dyffryn yn cael eu haddasu a'u hymestyn tra’i fod ar ddangos:

23-26 Mai a 29 Mai-1 Mehefin: 10am-6pm (oriau agor arferol)

23-24 Mai a 30-31 Mai: 7-10pm

Cyfle gwych i weld yr haul yn machlud ar yr haul! Bydd yr ardd gyfan ar agor yn ystod yr oriau hwyrach hyn, ond byddwn ni’n annog ymwelwyr i ymgynnull ar Lawnt y De o tua 8.45pm fel y gallwn ni i gyd wylio'r machlud gyda'n gilydd, gan brofi'r haul yn machlud ar y gwaith celf fel cymuned. Mynediad olaf i'r gerddi am 8.30pm.

29 Mai: 9-10am

Mae hon yn sesiwn hamddenol ac yn gyfle gwych i'r rhai sydd ag anghenion synhwyraidd ychwanegol brofi Helios mewn amgylchedd tawelach, llai prysur.

Beth sy'n digwydd mewn tywydd gwael?

Er ein bod ni i gyd yn gobeithio am dywydd braf tra bod Helios ar ddangos, byddai'n eithaf cŵl gweld glaw yn diferu oddi ar yr haul! Mae'r gwaith celf wedi'i oleuo o'r tu mewn, felly bydd yn edrych yr un mor ysblennydd mewn tywydd garw ag y bydd ar ddiwrnod sych. Fodd bynnag, bydd Helios yn cael ei symud o’r neilltu am gyfnod os bydd y gwynt yn codi, er mwyn sicrhau diogelwch y gwaith celf ac ymwelwyr.

Os bydd tywydd gwyntog, edrychwch ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan Gerddi Dyffryn i gael diweddariadau cyn i chi deithio.

Oes angen i mi archebu?

Does dim modd archebu ymlaen llaw i weld Helios nac ymweld â'r gerddi. Cofiwch mai ein cyfnodau prysuraf bob amser yw rhwng 11am-3pm felly os hoffech chi gael profiad tawelach, mae'n well dod cyn neu ar ôl yr amseroedd hyn.

Beth yw'r gost?

Ni chodir tâl ychwanegol i brofi Helios. Bydd angen talu pris mynediad arferol Gerddi Dyffryn (am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Gallwch weld yr holl brisiau mynediad yma.

A yw'n hygyrch?

Mae Gerddi Dyffryn yn safle hygyrch i raddau helaeth gyda pharcio i ddeiliaid bathodyn glas, toiledau hygyrch ar bellterau rheolaidd oddi wrth ei gilydd, a llwybrau heb risiau o amgylch yr ardd.

Mae bygi sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr yn tywys ymwelwyr o gwmpas y gerddi.

Mae'r llwybr i ac o Helios yn hollol hygyrch. Mae sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn ar gael i'w llogi am ddim.  Archebwch y rhain ymlaen llaw, os gwelwch yn dda, i sicrhau y byddan nhw ar gael. Ffoniwch i archebu:  02920 593 328.

Mae llefydd i eistedd o amgylch Helios, fel bagiau ffa awyr agored, cadeiriau dec a seddi mwy hygyrch.

Mae pecynnau synhwyrau ar gael i ymwelwyr niwroamrywiol iau, ac maen nhw am ddim i unrhyw un eu benthyg, heb fod angen archebu na thalu blaendal (ar gael ar sail y cyntaf i'r felin).

Mae’r pecynnau’n cynnwys amddiffynwyr clust, cerrig gofid a theganau ffidlan. Gofynnwch i'r Tîm Croeso am un pan fyddwch chi'n cyrraedd.

A fydd y caffis ar agor?

Mae dau gaffi yng Ngerddi Dyffryn; bydd y ddau ar agor yn ystod arddangosfa Helios yn unol â’r oriau agor estynedig. Mae ein caffis yn gweini snacs poeth ac oer gan gynnwys brechdanau, brechdanau wedi’u tostio, pasteiod, cacennau a chrystiau ac, yn hollbwysig, dewis da o hufen iâ. Maen nhw hefyd yn gwerthu diodydd poeth ac oer gan gynnwys diodydd alcoholig.

Rydyn ni hefyd yn caniatáu ac yn annog picnics yng Ngerddi Dyffryn felly mae croeso i chi ddod â’ch gwledd eich hun gyda chi.

Beth am barcio?

Mae parcio am ddim yn y maes parcio i ymwelwyr, gyda llefydd parcio i ddeiliaid bathodyn glas a cherbydau trydan.

Cofiwch mai dim ond hyn a hyn o le sydd yn ein maes parcio, ond byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i ddarparu ar gyfer pob car. Gyda hyn mewn golwg, gofynnwn i bawb barcio'n gyfrifol, gan ystyried ymwelwyr eraill, a chadw at y baeau a’r ardaloedd parcio dynodedig. Efallai y bydd adegau pan fydd angen i ni eich cadw wrth y fynedfa nes bod lle yn dod ar gael, neu eich troi i ffwrdd a gofyn i chi ddod yn ôl yn ddiweddarach neu ar ddiwrnod arall.

Beth arall alla’ i ei weld a'i wneud?

Mae arddangosfeydd a digwyddiadau teuluol eraill yng Ngerddi Dyffryn dros hanner tymor mis Mai a phan fydd Helios ar ddangos.

Dyma restr o'r rhaglenni y gallwch eu mwynhau ochr yn ochr â Helios:

  • Crefftau wedi'u hysbrydoli gan yr haul (24 Mai-1 Mehefin, 11am-3pm)
  • Gorsaf gwisg ffansi, gyda gwisgoedd ar thema’r gofod i bobl a chŵn!
  • Pecynnau creadigol fel y gallwch chi wneud eich gwaith celf eich hun wedi'i ysbrydoli gan Helios
  • Llwybr yr haul o amgylch y gerddi
  • Arddangosfa yn y Lolfa
  • Dolydd bach ar siâp pelydrau’r haul ar Lawntiau’r De
  • Gwylio'r haul gyda Chymdeithas Seryddol Caerdydd (25 Mai & 31 Mai-1 Mehefin, 10am-4pm)
  • Gemau lawnt enfawr
  • Y Ddaear gan Luke Jerram, a grëwyd i’r un raddfa i gynnig persbectif ar faint yr haul

Crefftau wedi'u hysbrydoli gan yr haul

Bydd crefftau i blant ar gael bob dydd o ddydd Sadwrn 24 Mai i ddydd Sul 1 Mehefin (gan gynnwys y dyddiau pan nad yw Helios ar ddangos – 27 a 28 Mai). Byddan nhw ar gael rhwng 11am a 3pm yng Nghanolfan Cory ac maen nhw’n cynnwys pethau fel coronau haul ac addurniadau papur, pompoms haul, addurniadau ffenest gwydr lliw tusw papur, lliwio a mwy. Mae'r sesiynau crefft yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr neu i’w gwneud ar eich liwt eich hun. Byddwch yn cael yr holl ddeunyddiau sydd eu hangen arnoch i wneud eich crefft solar (y gallwch ei gadw neu ei ychwanegu at wal gelf yr ymwelwyr).

Mae sesiynau crefft wedi'u hanelu at blant ond maen nhw’n hwyl i'r teulu cyfan! Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i Ganolfan Cory, gofynnwch i'r Tîm Croeso cyfeillgar wrth gyrraedd neu casglwch fap am ddim.

Gwylio'r Haul gyda Chymdeithas Seryddol Caerdydd

Ddydd Sadwrn 24 Mai, dydd Sul 25 Mai, dydd Sadwrn 31 Mai a dydd Sul 1 Mehefin dewch i gael cip agos ar yr  haul (go iawn) yng Ngerddi Dyffryn gyda Chymdeithas Seryddol Caerdydd. Mae ganddyn nhw'r holl offer cywir i'ch helpu chi i fwynhau'r olygfa yn ddiogel gyda'u sgopau solar a’u sbectolau solar diogel. Bydd tîm cyfeillgar CSC wrth law i sgwrsio am yr haul, rhannu ffeithiau cŵl am yr awyr, a dosbarthu taflenni gwybodaeth solar lliwgar am ddim i chi eu cadw.  

Bydd CSC wrth y Wyneb Deheuol, yn agos iawn at Helios, rhwng 10am-4pm – galwch draw i'w gweld nhw yn ystod eich ymweliad.

Perfformiad o 'Pili-Pala' gan Motion Control Dance Company

Ddydd Sadwrn 24 Mai rhwng 1-3pm gwyliwch Motion Control Dance Company yn perfformio 'Pili-Pala' o dan Helios – ymunwch â nhw i brofi llawenydd dawns mewn lleoliad unigryw. Mae Motion Control yn gwmni dawns unigryw sy'n cynnwys plant a phobl ifanc sydd ag amrywiaeth o anghenion ychwanegol. Mae'r ddawns 'Pili-Pala' wedi'i hysbrydoli gan fetamorffosis lindysyn i löyn byw, sy'n symbol o wydnwch, twf a thrawsnewidiad. Ar ôl eu perfformiad, bydd Motion Control yn annog ymwelwyr i ymuno â nhw gydag ychydig o goreograffi cynhwysol a syml.

Ac nid dyna'r cyfan! Byddwn ni’n cadarnhau digwyddiadau Helios eraill yn ystod yr wythnosau nesaf felly cofiwch gadw’r dudalen we hon a'n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd gwybodaeth yn cael ei diweddaru'n rheolaidd wrth i fwy o ddigwyddiadau a rhaglenni gael eu cadarnhau.

"Rydyn ni wrth ein bodd i groesawu Helios i Erddi Dyffryn. Mae'r gosodiad trawiadol hwn nid yn unig yn brofiad unigryw a swrrealaidd, ond hefyd yn dyst i ymrwymiad parhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnig profiadau diwylliannol eithriadol yng Nghymru ac ar draws y DU. Ydy, mae Cymru’n cael hen ddigon o law, ond ym mis Mai eleni mae'r haul yn sicr o ddisgleirio ar Erddi Dyffryn! Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr yn gyffrous i rannu'r gwaith celf anhygoel hwn gyda'n holl ymwelwyr. Rydyn ni'n gwybod y bydd yn brofiad bythgofiadwy i bawb."

Dyfyniad gan Lizzie Smith JonesNational Trust General Manager of Dyffryn Gardens

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Helios yng Ngerddi Dyffryn
Newyddion
Newyddion

Bydd yr haul yn tywynnu ar Gaerdydd: Gerddi Dyffryn i gynnal Helios, cerflun enfawr newydd Luke Jerram 

O ddydd Gwener 23 Mai, bydd Gerddi Dyffryn ger Caerdydd yn cynnal Helios, gwaith celf syfrdanol saith metr o hyd o'r haul gan yr artist o fri, Luke Jerram.

A mother and toddler watching the fountain at Dyffryn Gardens, Dyffryn House is in the background.
Erthygl
Erthygl

Diwrnodau i’r teulu yng Ngerddi Dyffryn 

Darganfyddwch pam fod Gerddi Dyffryn yn lle gwych am ddiwrnod allan i’r teulu gyda’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio eich ymweliad.

Caffi’r Ardd, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Ngerddi Dyffryn 

Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.