Skip to content
Datganiad i'r wasg

‘Dyma Ynys Môn’, Mr Phormula ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn rhyddhau cân newydd sy’n dathlu natur, treftadaeth a chymuned

This is Ynys Môn
This is Ynys Môn | © Rob Zyborski

Gyda thraethau gwych, amrywiaeth o fywyd gwyllt a diwylliant unigryw, mae digonedd i fod yn falch ohono yn Ynys Môn. Yr haf hwn, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch o ryddhau ‘Dyma Ynys Môn’, cân newydd fywiog a fideo cerddoriaeth sy’n arddangos uchafbwyntiau’r ynys. Mae’r gân wedi ei chreu ar y cyd â Mr Phormula a disgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, gan ddwyn ysbrydoliaeth gan dreftadaeth ddiwylliannol ac amgylchedd prydferth Ynys Môn a chyfuno hyn gyda chreadigrwydd a lleisiau pobl ifanc sydd ar yr ynys.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gofalu am ___ o gefn gwlad ac arfordir ar Ynys Môn, gan warchod y lleoedd hyn i bawb, am byth. Cafodd y disgyblion ysgol eu gwahodd i dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghemlyn, sy’n adnabyddus am ei arfordir prydferth. Dyma oedd yn gyfle iddynt ymgysylltu â’r bywyd gwyllt lleol, gan gynnwys morloi a môr-wenoliaid, a gwerthfawrogi’r amgylchedd naturiol drwy weithgareddau fel taflu cerrig ar y lan. Gan weithio gyda Mr Phormula, artist bîtbocsio dwyieithog, canolbwyntiodd y myfyrwyr ar gyfansoddi cân a mynegiant creadigol i greu darn modern o gerddoriaeth Cymraeg sy’n dathlu hunaniaeth Ynys Môn.

Bydd Mr Phormula hefyd yn bresennol yn stondin Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yr haf hwn ar 2 Awst lle bydd modd i ymwelwyr gyfrannu at drac cerddoriaeth arall a fydd yn benodol i’r ŵyl.

Mae fideo cerddoriaeth hefyd wedi ei greu, yn bennaf yn canolbwyntio ar Cemlyn, yn ogystal â safleoedd eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar draws yr ynys, gan gynnwys Tŷ a Gardd Plas Newydd, Porth Dafarch a Choed Môr, gan arddangos y lleoliadau anhygoel hyn yn Ynys Môn sydd dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, trwy stori weledol y fideo. Cafodd y disgyblion hefyd y cyfle i greu eu darnau personol wedi’i ffilmio a rhannu eu geiriau personol.

Myfyriodd Guto Roberts, Rheolwr Cefn Gwlad Ynys Môn a Llŷn, ar y prosiect: “Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono. Mae’n hyfryd ein bod wedi gallu cysylltu â chymunedau lleol a chryfhau eu cysylltiad â’r dirwedd sy’n eu hamgylchynu, yn arbennig drwy ddarn o gerddoriaeth sydd wedi ei greu a’i berfformio gan gerddor lleol.”

Mae fideo cerddoriaeth swyddogol cyntaf Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ‘Dyma Ynys Môn’, yn cael ei ryddhau heddiw (14 Gorffennaf). Mae’n gobeithio ysbrydoli ac ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ar yr ynys a thu hwnt i werthfawrogi’r harddwch sydd i'w weld yn aml ar garreg ein drws. Gallwch wylio’r fideo cerddoriaeth ar sianel YouTube Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: 'This is Ynys Môn' | 'Dyma Ynys Môn'