Skip to content

Gwirfoddoli yng Nghastell y Waun

Cyflwynydd mewn gwisg ganol oesol yn croesawu ymwelwyr i Gastell y Waun, Wrecsam, Cymru.
Cyflwynydd mewn gwisg ganol oesol yn croesawu ymwelwyr i Gastell y Waun, Wrecsam, Cymru. | © National Trust Images/Megan Taylor

Ydych chi'n chwilio am ffordd dda o dreulio eich amser rhydd, a chael cwrdd â phobl newydd, a gwneud gwahaniaeth? Mae dewis eang o gyfleoedd gwirfoddoli yng Nghastell y Waun, o yrru'r bws mini, i arwain teithiau. Dysgwch ragor am wirfoddoli yn y castell a’r ystâd hynod ddiddorol.

Gwirfoddoli yng Nghastell y Waun

Gyda dros 150 o wirfoddolwyr, mae tîm Castell y Waun yn grŵp mawr, cefnogol ac mae croeso i chi fod yn rhan ohono. Mae gan bob un ei reswm unigryw dros wirfoddoli, o gyfarfod pobl i ddysgu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth. Daw ein gwirfoddolwyr o bob math o gefndir; mae ein gwirfoddolwr ‘fengaf yn 14 mlwydd oed a'r hynaf bron yn 90 mlwydd oed – nid yw oed yn rhwystr rhag gwirfoddoli!

‘Rwyf wrth fy modd yn dod i'r castell. Nid oes un diwrnod yn debyg i'r llall. ‘Dach chi byth yn gwybod beth fydd yn digwydd neu gyda phwy fyddwch chi’n cyfarfod!’

- Brian, gwirfoddolwr yng Nghastell y Waun

Pam ymuno â ni?

Mae llawer o resymau dros ymuno â ni; gallai gwirfoddoli fod y penderfyniad gorau a wnaethoch erioed.

  • Dod yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig
  • Cwrdd â phobl o bob cefndir a gwneud ffrindiau newydd
  • Defnyddio eich sgiliau presennol a dysgu rhai newydd
  • Gwella eich CV a datblygu eich gyrfa
  • Mwynhau’r awyr iach
  • Dysgu am hanes y lle arbennig hwn
Tywysydd ystafell gwirfoddol a theulu gyda phaentiad a blodau yn y cefndir yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru
Teulu gyda thywysydd ystafell gwirfoddol yng Nghastell y Waun | © National Trust Images/Paul Harris

Sut i wirfoddoli yng Nghastell y Waun

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, anfonwch e-bost gyda'ch enw a'ch manylion cyswllt at chirkcastle@nationaltrust.org.uk

Yna byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i sesiwn gyflwyno lle byddwn yn esbonio mwy ynglŷn â'r gwahanol fathau o waith sydd ar gael ac yn eich cofrestru fel gwirfoddolwr.

Ar ôl hyn, byddwn yn rhoi cefnogaeth a hyfforddiant i chi fel y gallwch gyflawni’r gwaith y byddwch wedi dewis ei wneud.

Gwaith gwirfoddolwyr yng Nghastell y Waun

Mae gennym amrywiaeth anferth o waith i wirfoddolwyr o arddio i dywys mewn ystafelloedd.  Waeth beth yw eich profiad, sgiliau a chymhelliant blaenorol, mae rhywbeth yng Nghastell y Waun i chi.

Tywysydd Ystafell

Mae’n hanfodol cael tîm o wirfoddolwyr yn y tŷ er mwyn i ni allu agor Castell y Waun i’r cyhoedd. Maent yn gofalu am ei bensaernïaeth a’i gasgliadau ac maent yn rhan sylfaenol o brofiad yr ymwelwyr ar y safle. Mae ein harweinwyr yn rhoi’r ystafelloedd a’r casgliad yn eu cyd-destun i ymwelwyr, ac yn helpu pob unigolyn i ddarganfod rhywbeth newydd bob tro y bydd yn ymweld.

Gyrrwr bws mini

Mae’r llwybr serth at Gastell y Waun yn ormod i rai o’n hymwelwyr. Dyma sut mae ein tîm o yrwyr bws mini gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth. Gyda’u help nhw rydym yn gallu cynnig gwasanaeth bws mini am ddim o’r swyddfa docynnau at y castell. Mae hwn yn wasanaeth amhrisiadwy, y mae ymwelwyr llai abl i symud yn ei werthfawrogi’n fawr.

Ceidwad

Gyda dros 480 erw o ystâd i’w rheoli, mae ar ein tri cheidwad llawn amser angen pob help allan nhw ei gael. Mae ein ceidwaid gwirfoddol yn cynorthwyo gyda phob math o dasgau rheoli cefn gwlad, gan weithio o fewn y tîm ceidwaid ac ochr yn ochr â nhw, mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae hyn yn cynnwys cynllunio a chynnal teithiau coetir, astudiaethau blodau gwyllt a sgyrsiau, gweithgareddau crefft a digwyddiadau yn yr awyr agored.

Garddwr

Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn yr ardd yn gweithio trwy’r gerddi amrywiol yng Nghastell y Waun. Mae rhywbeth i’w wneud bob amser, o blannu ffurfiol i weithio yn y Coed, neu docio yn yr ardd rosod i dyfu llysiau yng Ngardd y Gegin.

Tywysydd Taith

I ymwelwyr sy’n dod i unrhyw eiddo treftadaeth, weithiau mae’n anodd gwybod ble i ddechrau, gyda chymaint i’w ddysgu a’i ddarganfod. Dyma lle mae ein tywyswyr gwirfoddol yn cael eu gwerthfawrogi gymaint. Maent yn gallu rhoi storïau a hanes Castell y Waun i’n hymwelwyr mewn ffordd sy’n gofiadwy, yn ddiddorol a hwyliog.

Siop

Mae galw heibio’r siop i ddewis rhywbeth i gofio’r diwrnod yn rhan hanfodol o ymweliad â Chastell y Waun. Heb ein tîm o wirfoddolwyr yn y siop, ni fyddem yn gallu cynnig y profiad gwych sydd gennym ar hyn o bryd.

Cyfarfod a chyfarch

Mae ein gwirfoddolwyr cyfarfod a chyfarch yn rhan hanfodol o’n croeso cynnes ac yn helpu ymwelwyr i ganfod eu ffordd ar y safle.

Garddwr yn gofalu am y rhosod yn yr ardd yng Nghastell y Waun gyda Chastell y Waun yn y cefndir, Wrecsam, Cymru
Garddwr yn gofalu am y rhosod yn yr ardd yng Nghastell y Waun | © National Trust Images/David Levenson

Ffyrdd eraill o gefnogi Castell y Waun

Gwirfoddoli tymor byr

Ydych chi’n rhan o grŵp neu dîm o gydweithwyr sy’n awyddus i wirfoddoli am ddiwrnod? Mae yma amrywiaeth o brosiectau byr a thasgau cadwraeth sy'n berffaith ar gyfer diwrnod adeiladu ysbryd tîm. Anfonwch e-bost at chirkcastle@nationaltrust.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Prosiectau cymunedol

Rydyn ni’n ceisio datblygu ein cysylltiadau gyda’r gymuned leol drwy’r amser ac yn awyddus i fod yn rhan o brosiectau a gweithgareddau cymunedol. Cysylltwch os ydych chi’n rhan o grŵp lleol ac yn awyddus i gydweithio gyda ni.

Rhoddion

Gwnewch rodd yn eich ewyllys yn benodol i Gastell y Waun. Gallech hyd yn oed ei glustnodi ar gyfer elfen benodol o'n gwaith gwerthfawr.

Dysgwch fwy: www.nationaltrust.org.uk/join-and-get-involved

Ar-lein

Ymunwch â'n cymuned ar-lein a rhannwch eich storïau, lluniau a'ch profiadau o Gastell y Waun gyda ni. Dilynwch ein newyddion ar Facebook a Twitter lle cewch y digwyddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf yn syth o'r castell.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelwyr yn mynd â’u ci am dro yn y parcdir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld ag ystâd Castell y Waun 

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.

Golygfa o’r castell yn y gwanwyn yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun 

Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.

Cornel ogledd orllewinol Castell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell y Waun 

Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.