Skip to content

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun

Golygfa o’r castell yn y gwanwyn yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Golygfa o’r castell yn y gwanwyn yng Nghastell y Waun, Wrecsam | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Profwch eich synhwyrau ac adnewyddwch eich ysbryd drwy grwydro’n hamddenol drwy ardd 5.5 acer Castell y Waun. Darganfyddwch liw a phersawr tymhorol, gyda golygfeydd ysgubol ar draws Dyffryn Ceiriog a Gwastadeddau Swydd Gaer a Swydd Amwythig.

Gardd ar Gyfer Pob Tymor

Mae llwybrau graean rhydd yn gwau drwy’r ardd gan eich galluogi i archwilio’n hawdd drwy gydol y flwyddyn a mwynhau ei phrif nodweddion beth bynnag fo’r tywydd.

Byddwch yn darganfod lawntiau estynedig, borderi blodau blynyddol toreithiog, gwrychoedd ffurfiol, tocwaith conig, gerddi cerrig, Tŷ’r Hebog a hyd yn oed ardal goedwig. Mae ffordd hygyrch hefyd yn gwneud yr ardd yn hawdd mynd ati gyda chadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a choetsis cadair.

Haf yn yr ardd yn y Waun 

 

Dewch i fwynhau golygfeydd yr haf yng Nghastell y Waun wrth i’r ardd lenwi â lliw ac arogl. Mae amrywiaeth syfrdanol o rosod i’w gweld yn y borderi a’r ardd rosod, gan gynnwys y Rhosyn Euraidd Dathlu a’r Rhosyn Dathlu’r Jiwbilî.

Mae’r borderi hafaidd o gwmpas Tŷ Hawk yn gartref i amrywiaethau o rosynnau’r graig a lili cynffon llwynog ysblennydd.

Dewch i brofi arogl hyfryd y Rhodfa Goed Leim a gwrandewch ar suo arbennig y gwenyn.

Dewch o hyd i sedd yn yr ardd lwyni, a gwyliwch weision y neidr yn rhoi sioe yn yr awyr, neu gallwch weld ein garddwyr yn brysur wrth eu gwaith yn ymgymryd â’u tasg flynyddol o docio’r gwrychoedd sydd wedi tyfu’n rhy fawr drwy gydol mis Medi.

Ymwelydd yn edrych ar y pwll yn yr ardd yng Nghastell y Waun
Ymwelydd yn edrych ar y pwll yn yr ardd yng Nghastell y Waun | © National Trust Images/James Dobson

Yr ardd ffurfiol

Tocwaith

Wrth i chi fynd i mewn i’r ardd, cewch eich cyfarch gan docwaith ywen nodedig, a gyflwynwyd yn 1872 gan Richard Myddelton Biddulph. Mae’r gwrychoedd wedi’u siapio i gynrychioli waliau castellog, tra dywedir i’r tocwaith conig fod yn ymdebygu i hetiau’r Ladis Cymreig. Ar ymylon y lawnt, cadwch lygad am nodwedd sy’n cael ei adnabod fel ‘y goron yn y glustog’, lle dewch o hyd i fainc sydd wedi’i lleoli’n berffaith ar gyfer cael seibiant.

Mae cadw siâp y tocwaith yn dasg fawr flynyddol. Tuag at ddiwedd yr haf bob blwyddyn, bydd tîm o arddwyr a gwirfoddolwyr yn treulio chwech i wyth wythnos yn tocio’r gwrychoedd gan ddefnyddio gwellau trydanol, ysgolion a pheiriant casglu ceirios.

Gardd Rosod

Roedd yr Arglwyddes Margaret Myddelton yn arbennig o hoff o rosod, yn arbennig felly rhai gyda phersawr cryf a lliwiau ysgafn. Gellir canfod rhai o’i ffefrynnau yn yr ardd hyd heddiw, gan gynnwys ‘Dearest’ gyda’i blodau pinc cain, ‘Allgold’ mewn melyn euraid llachar a phinc samwn‑ ‘Elizabeth of Glamis’.

Mae rhosod ymddangos drwy gydol yr ardd, o ddringwyr uchel megis Rosa ‘Madame d’Arblay’, sydd â phersawr ysgafn, a blodau tebyg i  garnasiwn‑, i rosod gwrych cydnnerth, sy’n gynnwys Rosa ‘Blanc Double de Coubert’. Gallwch hefyd weld isrywogaethau megis y Rhosyn ‘Dathlu Euraidd’ a’r Rhosyn ‘Dathlu’r Jiwbilî’, sydd i gyd yn darparu lliw, strwythur a pherarogl o ddiwedd y gwanwyn drwy gydol yr haf.

Cerfluniau

Yn edrych dros y castell ar ben y Goedlan Galch mae Hercules, cerflun a gomisiynwyd yn yr 1720au gan Robert Myddelton ac y credir iddo gael ei gerflunio gan John van Nost, arlunydd Fflemaidd cynhyrchiol.

Yn wreiddiol fe’i lleolwyd y tu allan i brif fynedfa ogleddol y castell gyda ffigwr o Fawrth yn gydymaith. Ond ym mis Mehefin 1770, cafodd y ddau eu symud gan y garddluniwr William Emes i’r coetir gerllaw.  Wedi’i ailddarganfod, ac yntau wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, cafodd Hercules ei achub yn 1983 a’i gludo gyda winsh hofrennydd i’r Goedlan Galch ac yn ddiweddarach ei adfer gan yr Ymddiriedolaeth. Ni chafodd Mawrth ei ddarganfod erioed.

Hefyd wedi’u lleoli drwy gydol yr ardd mae pedwar cerflun nymff Art Nouveau efydd. Cafodd Destiny (i’r chwith o’r grisiau), Vanishing Dream (i’r dde o’r grisiau), Oblivion (ger y pwll) a Flower of Fancy (ar ddiwedd y prif lwybr) eu gwneud gan y cerflunydd Andrea Carlo Lucchesi (1860-1924). Cafodd y cerfluniau eu prynu gan yr Arglwydd a’r Arglwyddes Howard de Walden, a gymerodd y castell ar brydles gan y teulu Myddelton o 1911 tan 1946. Cymerwch olwg i weld a allwch chi ddod o hyd iddynt wrth i chi archwilio.

Ymwelwyr yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru
Ymwelwyr yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

Y Brif Goedlan

Y Border Hir 

Mae gan y border crwm yma ardaloedd tymhorol ac mae wedi’i lenwi gyda llwyni a blodau. Wedi’i blannu gan yr Arglwyddes Margaret Myddelton ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei greu fel ffordd o gael lliw a pherarogl drwy gydol y flwyddyn, oedd ddim yn golygu llawer o waith.

Dilynwch gromen ysgafn y border ac oedi ychydig i gael mwynhau’r planhigion sydd wedi’u plannu’n haenau a’r tonnau newidiol o liw a phersawr drwy’r tymhorau. Cadwch olwg am yr irisau a’r lawnt cennin Pedr yn y gwanwyn, yr amrywiol fathau o werddonell a blodau tanbaid yr haf, a’r eirlysiau yn y gaeaf.

Tŷ’r Hebog

Cafodd Tŷ’r Hebog ei adeiladu yn 1854 gan ddilyn cynllun gan E.W. Pugin. Roedd yn dŷ gwydr yn wreiddiol, a chafodd ei addasu yn y 1920au gan yr Arglwydd Howard de Walden, a ychwanegodd do gwellt er mwyn iddo fod yn gartref i adar ysglyfaethus.

Yma fe ddewch o hyd i fan eistedd cysgodol a gardd gerrig gyda lliwiau tymhorol, gan gynnwys planhigion alpaidd a rhododendronau bach. Mae’n llecyn heddychlon i eistedd am sbel, gwrando ar gân yr adar a mwynhau moment dawelach i ffwrdd oddi wrth y torfeydd.

Y Ffos Gudd

Cafodd y ffos gudd hanesyddol ar waelod yr ardd ei hadeiladu gan y garddluniwr a’r garddwr William Emes yn 1760–61. A hithau heb newid oddi ar hynny i bob pwrpas, mae’n parhau i fod yn rhwystr clyfar, gan gadw da byw allan o’r ardd heb amharu ar yr olygfa.

Gellir dod o hyd i’r golygfeydd gorau yma. Gallwch weld Bryniau Peckforton, Wenlock Edge a The Wrekin Swydd Amwythig, gyda golygfeydd yn ymestyn mor bell â’r Peak District ar ddiwrnod clir.

Coedwig y Parc Difyrrwch

Mae’r ardal ffurfiol hon o goedwig yn union y drws nesaf i’r brif ardd, ac mae’n cael ei thorri’n hanner gan lwybrau sydd wedi’u trefnu er mwyn darparu llwybrau cerdded hawdd a heddychlon. Cafodd ei chreu yn yr 1650au fel rhan o ddyluniadau ysblennydd Syr Thomas Myddelton. Tuag at ddiwedd y gaeaf, bydd llawr y goedwig wedi’i orchuddio gydag arddangosfa anhygoel o eirlysiau, ac yn dilyn hynny yn y gwanwyn, daw môr o glychau’r gog cain.

Yr ardd Lwyni

Mae’r rhododendronau sydd i’w canfod yma yn dod â lliwiau llachar ac maent yn rhyddhau arogl hyfryd wedi cawod yn y gwanwyn. Ar ddechrau’r haf, mae’r goeden cadach poced yn uchafbwynt, gyda’i blodeulenni gwyn, cain, wedi’i ddilyn gan wawr binc a glas y blodyn seithliw ganol yr haf. Yn yr hydref, gallwch ddisgwyl gweld coed acer gyda’u dail coed tywyll, a’u lliwiau cyfoethog, cynnes drwy gydol yr ardal.

Y pwll

Mae’r pwll yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys y gwyfyn-bwa, gwas y neidr a madfall y dŵr, madfall balmwyddog a’r fadfall gribog. Mae’r planhigion o amgylch y pwll yn cynnwys lili’r dŵr ‘Albatross’ a ‘Cyperus longifolia’, gan ychwanegu nodweddion diddorol i’r ardal heddychlon hon o’r ardd.

Yr Ardd Bonion

Wedi’i chreu yng ngwanwyn 2023, mae’r ardd bonion yn rhan isaf yr Ardd Llwyni, lle mae’r golau’n fwy meddal a chymeriad yr ardd yn newid yn raddol. Wedi’i fframio gan ‘Giât y Lleian’ yn ganolbwynt iddi, mae’r gornel gysgodol yma’n cynnwys bonion coed ymysg rhedyn, llawryfau a chelyn, gan greu awyrgylch tebyg i lannerch o dan ganopi’r coed.

Ychwanegir deilbridd i’r pridd er mwyn helpu i gadw gwlybaniaeth a gwella strwythur, gan ddarparu’r amgylchiadau golau isel sy’n addas ar gyfer plannu rhedyn a chefnogi’r rhan dawelach, fwy cysgodol yma o’r ardd.

A path lined with shrubs, rhododendrons and other spring blooms at Chirk Castle, Wrexham, Wales
Spring in the garden at Chirk Castle | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Llefydd i orffwys yn yr ardd

Yma ac acw ar hyd y llwybrau ac ar y lawnt, fe ddewch o hyd i feinciau i orffwys a llonni eich synhwyrau. Mae Tŷ’r Hebog yn darparu llefydd eistedd cysgodol ychwanegol. Yn ystod misoedd yr haf gallwch ddod â basged bicnic i ymlacio ar y lawnt.

Yr Ardd Gegin

Ar wahân i’r brif ardd ffurfiol, mae gardd gegin fach yn eistedd y tu ôl i’r Cwrt Sboncen ger y Fferm. Yma, mae perllan fechan a chlytiau llysiau gydag amrywiaeth o lysiau tymhorol sydd yn aml yn cael eu gwerthu drwy’r siop. Fe ddewch hefyd o hyd i fyrddau picnic, gan ei gwneud yn lleoliad delfrydol i aros, ymlacio a mwynhau golygfeydd Dyffryn Ceiriog.

Hanes yr Ardd

Yn union fel mae Castell y Waun wedi esblygu dros y canrifoedd - o fod yn gaer ganoloesol i fod yn gartref teuluol - felly hefyd yr ardd sy’n ei amgylchynnu.

Cafodd yr ardd ffurfiol gyntaf ei gosod allan yn 1653 gan Syr Thomas Myddelton II, wedi’i ddylanwadu gan yr arddulliau Ffrengig oedd yn ffasiynol ymysg teuluoedd pwysicaf y wlad ar y pryd.

Yn 1764, comisiynodd Richard Myddelton y pensaer tirlunio William Emes er mwyn ailsiapio’r gerddi a’r parcdir ehangach oddi amgylch. Gwnaeth Emes newidiadau sylweddol, gan symud waliau, ffensys a llwybrau, a phlannu lawntiau eang a miloedd o goed er mwyn creu’r golygfeydd agored a’r gosodiad naturiol sy’n parhau i gael eu gwerthfawrogi hyd heddiw.

Yn ystod y 19eg ganrrif, cyflwynwyd tocwaith coed ywen, gwrych a giatiau haearn gyr. Yn gynnar yn y 20fed ganrif, o dan arweiniad yr Arglwydd Howard de Walden, crëodd Norah Lindsay, y garddwr o fri, forder trawiadol o flodau ar y Lawnt Uchaf, gan ddod â lliw a chywreinrwydd i’r ardd.

Dirywiodd y gerddi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn cael eu hadfer yn gyfan gwbl, i bob pwrpas, gan yr Arglwyddes Margaret Myddelton. Mae’r ardd heddiw’n adlewyrchu’r cynlluniau plannu planhigion lliwgar a sefydlwyd ganddi, ac mae’n cael ei chynnal a’i chadw gan dîm ymroddedig o arddwyr a gwirfoddolwyr.

Wyneb y dwyrain a’r tocwaith yw yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru

Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun

Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymweld â Chastell y Waun gyda’ch ci 

Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.

Visitors walking in the parkland with their dog at Calke Abbey, Derbyshire

Ymweld â Chastell y Waun 

Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Yr Oriel Hir yng Nghastell y Waun gyda phortreadau ar y waliau a'r cypyrddau ger y waliau

Ymweld ag ystâd Castell y Waun 

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.

Ystâd Castell y Waun, Wrecsam

Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun 

Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.

A cream cushion with burnt orange and sage green embroidered floral accents from the 2025 autumn/winter collection

Hanes Castell y Waun 

Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Awyrlun o Gastell a Gardd y Waun, Wrecsam