Skip to content

Ymweld ag ystâd Castell y Waun

Ymwelwyr yn mynd â’u ci am dro yn y parcdir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Ymwelwyr yn mynd â’u ci am dro yn y parcdir yng Nghastell y Waun, Wrecsam | © National Trust Images/James Dobson

Mae ystâd Castell y Waun yn cynnwys 480 erw o goetir, caeau a glaswelltir â thenantiaid. Dewch i ddarganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.

Disgleirdeb y gwanwyn ar ystâd Castell y Waun

Mae’r gwanwyn yn amser gwych i archwilio prydferthwch parcdir Castell y Waun, p’un a ydych yn gwirioni ar eirlysiau, cennin Pedr a chlychau’r gog, yn edmygu’r ŵyn neu’n gwylio’r Gwenoliaid yn dychwelyd.

Blodau’r gaeaf yn ystâd Castell y Waun

Treuliwch amser yng nghanol byd natur yn archwilio’r parcdir, er mwyn sylwi ar ddail y coed yn aildyfu a chyffyrddiadau o liw’r blodau yn bywiogi’r dirwedd.

Dewch o hyd i flodau cynnar fel dant y llew a blodau menyn ar y ddôl odidog o flaen y castell, sy’n bwysig i beillwyr cynnar fel gwenyn. Neu dilynwch y cyfeirbwyntiau glas ar hyd ein Llwybr Cerdded Coetir i ddod o hyd i Glychau’r Gog yng Nghoed Deershed.

Adar yng Nghastell y Waun

Mae’r ystâd yn lle gwych i weld amrywiaeth o rywogaethau adar drwy gydol y flwyddyn, ond mae’r gwanwyn yn cyflwyno nifer cyffrous o rywogaethau mudol sy’n magu o fewn y coetiroedd, fel y Telor Penddu, Siff-Siaff, Gwybedog Cefnddu a’r Tingoch.

Mae’r guddfan adar, sydd ar y Llwybr Cerdded Coetir wedi’i farcio â chyfeirbwyntiau glas, yn fan gwych i eistedd a gwylio nifer o’r rhywogaethau adar y coetir.

Crwydro’r ystâd

Mae’r ystâd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE) ac mae wedi ei dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Hanes yr ystâd

Mae coedwig hela wedi bod yma tra bu yma gastell, gan gynnwys parc ceirw canol oesol anferth. Ar ei bri yn yr 17eg ganrif, roedd yr ystâd yn 10,000 o erwau eang, a gafodd eu tirlunio yn raddol gan genedlaethau olynol o’r teulu Myddelton, gan gyrraedd uchafbwynt gyda chynllun mawr William Emes yn 1764.

Amddiffyn y gerddi ffurfiol

Creodd Emes ffosydd neu ‘ha-ha’ i atal y gyrr o 500 o geirw rhag dod i’r gerddi ffurfiol heb fod angen ffensys a fyddai’n torri ar draws yr olygfa banoramig o gefn gwlad o amgylch y Castell.

Plannodd lawntiau anferth hefyd a miloedd o goed llydanddail. Yn 1767 caeodd Emes yr holl ffyrdd oedd yn croesi’r parcdir, gan gynnwys hen lwybr porthmyn a ychwanegodd 11 milltir at daith ffermwyr lleol wrth iddynt yrru gwartheg i Wrecsam.

Deri hynafol

Heddiw, mae 70 y cant o’r coetir yn goed derw, ac rydym yn gofalu am lawer sy’n gannoedd o flynyddoedd oed. Rydym hefyd yn rhan o’r Fenter Coed Hynafol, a byddwn yn plannu 1500 o goed newydd, i gymryd lle’r coed hynny sydd wedi eu colli o gynllun gwreiddiol Emes.

Giatiau Davies, a wnaed o haearn bwrw a gyrru ac a wnaed rhwng 1712-1719, yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Giatiau Davies yng Nghastell y Waun, Wrecsam. Gwnaed y giatiau haearn gyrru a bwrw gan y brodyr Davies o Groes Foel, Bersham, rhwng tua 1712 a 1719 | © National Trust Images/Andrew Butler

Pethau i'w gweld ar yr ystâd

Clawdd Offa

Yn torri ar draws yr ystâd mae rhan o’r clawdd pridd amddiffynnol rhyfeddol o’r 8fed ganrif, Clawdd Offa, a adeiladwyd gan y Brenin Offa o Fersia i nodi’r ffin hynafol gyda theyrnas Powys.

Wrth yrru i’r maes parcio yn y Waun byddwch yn croesi Clawdd Offa, er na fyddwch yn sylweddoli hynny efallai gan i William Emes wastatáu rhannau mawr ohono fel rhan o’i waith digyfaddawd ar y parcdir.

Giatiau Davies

Y giatiau Baróc addurnedig yw’r peth cyntaf y bydd ymwelwyr yn ei weld fel arfer wrth gyrraedd Castell y Waun. Fe’u comisiynwyd gan Syr Richard Myddelton yn 1712, ac fe’u gwnaed gan ddau of lleol, Robert a John Davies gan ddefnyddio haearn o efail y teulu Myddelton ym Mhont-y-blew.

Safai’r giatiau’n wreiddiol yn agos at wyneb gogleddol y castell, ond symudodd William Emes nhw yn 1770 i’r mynediad i ymwelwyr presennol, ac fe’u symudwyd eto yn 1888 i’w lleoliad presennol pan gyrhaeddodd y rheilffordd.

Bywyd gwyllt ar yr ystâd yng Nghastell y Waun

Mae’r ystâd yn llawn o fioamrywiaeth, ac mae’r 650 o goed hynafol ar yr ystâd yn ecosystem bwysig ynddynt eu hunain. Maent yn cynnal rhywogaethau o gen, llysiau’r afu a mwsogl, yn cynnig mannau clwydo a bridio i rywogaethau o ystlumod; a safleoedd nythu i adar, gan gynnwys y dringwr bach a’r gnocell fraith fwyaf.

Cynefin perffaith i infertebratau

Mae’r coed marw, boed yn dal i sefyll neu wedi syrthio yn creu cynefin i’r ffwng a’r infertebratau saprosylig. Ar yr ystâd, cofnodwyd dros 200 rhywogaeth o’r infertebratau gan gynnwys 20 o rywogaethau Llyfr Data Coch a 97 rhywogaeth Brin yn Genedlaethol. Mae’r infertebratau yma yn ffynhonnell fwyd hanfodol i lawer o rywogaethau o adar a mamaliaid bach.

Ffwng rhyfeddol

Mae’r parc blaen ar yr ystâd yn safle pwysig iawn ar gyfer y boblogaeth o ffwng glaswelltir, gyda chyfanswm o 32 o wahanol rywogaethau wedi eu cofnodi. Mae’r grŵp hwn o ffwng yn cynnwys rhywogaethau o’r dagell binc, pastynau’r tylwyth teg, tafodau’r ddaear, a’r capiau cwyr lliwgar, y mae 15 rhywogaeth wahanol ohonynt wedi eu cofnodi.

Rhywogaethau o ystlumod i’w gweld

Cofnodwyd saith rhywogaeth wahanol o ystlumod ar yr ystâd, a’r rhywogaeth fwyaf nodedig yw’r ystlum trwyn pedol lleiaf prin.

Mae coetir yr ystâd a’i hagosrwydd at Afon Ceiriog yn cynnig y cynefin perffaith i chwilio am bryfetach, tra bod y gofod yn nho’r castell yn safle pwysig i glwydo yn yr haf. Dangosodd yr arolwg fwyaf diweddar bod y boblogaeth hon yn cynyddu’n raddol.

Gwylio adar

Mae’r ystâd yn lle gwych i weld amrywiaeth o rywogaethau o adar trwy’r flwyddyn. Daw’r gwanwyn a nifer fawr o rywogaethau mudol, gyda’r telor penddu, y siff-saff, y gwybedog brith a’r tingoch i gyd yn nythu yn y coetir.

Ar y parcdir, mae Bwncathod yn olygfa gyffredin ac yn ystod misoedd yr hydref, gellir gweld heidiau rhyfeddol o frych y coed, caseg y ddrycin a choch dan adain.

Anifeiliaid ar yr ystâd

Mae Castell y Waun yn dal yn ystâd sy’n gweithio gyda thenantiaid yn ffermio’r tir.

Mae’r nifer o ddefaid sy’n pori’r parc blaen wedi ei leihau i gynorthwyo’r boblogaeth o ffwng glaswelltir.

Wyneb y dwyrain a’r tocwaith yw yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru

Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun

Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o’r castell yn y gwanwyn yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun 

Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.

Golygfa o Neuadd Cromwell yng Nghastell y Waun, yn dangos y lle tân, bwrdd a chadair.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell y Waun 

Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Visitors walking in the parkland with their dog at Calke Abbey, Derbyshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell y Waun gyda’ch ci 

Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.

A selection of Easter decorations including felted animals and floral mugs
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun 

Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.