Skip to content

Ymweld â Chastell y Waun

Golygfa o Neuadd Cromwell yng Nghastell y Waun, yn dangos y lle tân, bwrdd a chadair.
Neuadd Cromwell yng Nghastell y Waun, Wrecsam | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Gyda dros 700 mlynedd o hanes, ac fel y castell olaf o'r cyfnod hwn sy'n dal yn gartref heddiw, mae Castell y Waun yn enwog am foethusrwydd ei ystafelloedd yn ogystal â'r casgliad hardd ac eclectig sydd ynddo. Tu mewn i'r castell ceir Oriel Hir sy'n dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif, arddangosfa fawreddog o dair Ystafell Swyddogol sy'n dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif gyda dodrefn, lluniau a thapestrïau cyfoethog, neuadd unigryw’r gweision, ac ystafell Gerdd y Capel

Neuadd Cromwell

Cafodd ‘Neuadd Cromwell’ ei henwi oherwydd yr arfau ac arfwisgoedd o Ryfel Cartref Lloegr yn y 17eg ganrif sy’n cael eu harddangos ar y waliau; fodd bynnag ni ymwelodd Oliver Cromwell â Chastell y Waun.

Yn wreiddiol, roedd yn ystafell fwyta i staff y castell tan ganol y 18fed ganrif, pan gafodd ei throi’n neuadd fynediad newydd.

Cadwch lygad am yr het ledr brin o'r 17eg ganrif, un o bedair a gofnodir yng nghyfrifon y castell ym 1668.

Ymwelwyr yn y Salŵn yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru.
Ymwelwyr yn y salŵn yng Nghastell y Waun | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

Yr ystafelloedd swyddogol

Y Grisiau Mawreddog

Mae'r Grisiau Mawreddog wedi’u dylunio yn yr arddull 'Neo-Glasurol'. Mae eu siâp lled-gylchol anarferol i’w briodoli i siâp y tŵr canoloesol y maent wedi’u lleoli ynddo.

Gwaith Joseph Turner o Gaer - pensaer lleol a adnewyddodd y castell yn sylweddol yn y 1770au - yw’r grisiau agored presennol. Roedd Turner yn wynebu problem beirianyddol enfawr yn y tŵr hwn, oherwydd bu’n rhaid iddo gloddio’r landin ar y llawr cyntaf allan o’r waliau solet a oedd 15 troedfedd o drwch.

Turner hefyd sy’n gyfrifol am y pedair colofn bren drawiadol wedi'u paentio sy'n cynnal y trawstiau sydd, yn eu tro, yn cynnal y nenfwd.

Yr Ystafell Fwyta

Yn 1631, 'y siambr dros y bwtri' oedd yr ystafell hon, a ddatblygodd yn ystafell gymedrol ar gyfer derbyn gwesteion (‘draweinge room’) yn y 1650au.

Pan adeiladwyd ystafell newydd ar gyfer derbyn gwesteion yn y 1670au, daeth yr ystafell hon yn barlwr, lle byddai'r teulu Myddelton yn cymryd eu prydau bwyd pan nad oeddynt yn diddanu gwesteion pwysig.

Fe'i trowyd yn brif ystafell fwyta yn y 1770au, pan gafodd yr ystafell y drws nesaf ei thrawsnewid yn salŵn.

Y salŵn

Wedi'i chodi fel rhan o'r gwaith ar yr adeiladau Gogleddol ar ddechrau'r 17eg ganrif, mae cofnodion cynnar yn cyfeirio at hon fel ‘yr ystafell fwyta fawr' (the ‘greate dyninge room’)

Yn 1772, cafodd ei thrawsnewid yn salŵn neo-glasurol, ystafell ar gyfer arddangos dodrefn gorau'r teulu ac ar gyfer diddanu.

Mae'r dodrefn yn yr ystafell hon ymlith y gorau yn y castell. Maent yn cynnwys dodrefn i eistedd arnynt, a gomisiynwyd gan Richard ac Elizabeth Myddelton ar gyfer yr ystafell hon.

Er enghraifft, bwrdd pier eurbren a drych sy'n un o bâr gan y gwneuthurwyr cabinetau a'r clustogwyr o'r 18fed ganrif, Ince & Mayhew. Gwnaed yr harpsicord yn 1742 gan Burkat Shudi, un o wneuthurwyr harpsicordiau mwyaf Llundain ac mae'n un o'r enghreifftiau cynharaf o'i waith y gwyddys iddi oroesi.

Yr Ystafell Groeso

O oddeutu 1688, gosodwyd paneli pren o’r llawr i fyny at y nenfwd yn yr ystafell hon, gan beri i’r décor gyd-fynd â’r Galeri Hir y drws nesaf. Yn ddiweddarach, cafodd y paneli eu tynnu gan Joseph Turner, a aeth ati i ailwampio y tu mewn i’r castell mewn arddull Neoglasurol yn nechrau’r 1770au.

Ym 1772, cafodd hen ffenestr uwchlaw’r Cwrt ei blocio a gosodwyd ffenestr newydd fawr ar yr ochr ddwyreiniol uwchlaw lawntiau a llwybrau graean y Tir Hamdden.

Mae’r nenfwd wedi’i seilio ar gynlluniau Adam ac fe’i lluniwyd gan rywun o’r enw Mr Kilmister ym 1773. Cafodd cefndir glas presennol y paneli nenfwd ei osod gan Pugin a Crace yn y 1840au ac mae’n bosibl ei fod yn wahanol i’r hyn a geid yn wreiddiol. Enw’r papur papuro a ddefnyddiodd Pugin oedd ‘crimson plush’, gan esgor ar yr enw ‘Ystafell Groeso Goch’ yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pugin hefyd sy’n gyfrifol am y grât haearn bwrw, y talpentan a’r heyrn tân.

Oddeutu 1910, roedd yr ystafell yn cynnwys mwy na 40 o ddarluniau – câi’r ystafell ei chyflwyno i ymwelwyr fel yr ‘Oriel Ddarluniau’. Mae’r detholiad presennol yn cynnwys darluniau o aelodau’r teulu yn bennaf.

Ar hyn o bryd mae'r ystafell hon yn gartref i bortreadau teulu Myddelton gan gynnwys portread o'r Fonesig Margaret Myddelton a phortread o Robert Myddelton-Biddulph, y ddau wedi treulio amser yn byw yma, sydd bellach yn cael eu harddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf. Cafodd y portreadau eu cyflwyno gan y ddiweddar Foneddiges Aird, merch y Fonesig Margaret Myddelton. Dysgwch fwy

Yr Oriel Hir

Ar ôl diwedd y Rhyfeloedd Cartref, pan drosglwyddodd y teulu Myddelton eu teyrngarwch i’r Brenin, daeth y castell dan ymosodiad Seneddol, ac ym 1659 gwnaed difrod enfawr i'r Adain Ddwyreiniol.

Pan gafodd ei ailadeiladu, ei nodwedd fwyaf trawiadol oedd llwybr cerdded ar ffurf teras o flaen colonâd gyda saith bwa (sydd bellach wedi'u cuddio o fewn pensaernïaeth y llawr gwaelod). Uwchben hwn, roedd yr 'Oriel Hir' newydd.

Pwrpas gwreiddiol yr ystafell oedd darparu lle ar gyfer ymarfer corff neu hamdden ysgafn, yn enwedig ar ddiwrnodau o dywydd garw pan nad oedd yn bosibl cerdded yn y Maes Pleser (‘Pleasure Ground’) neu yng ngweddill yr ardd.

Yn y 1920au, fe wnaeth yr Arglwydd Howard de Walden ei addurno gyda rhan o'i gasgliad helaeth o arfwisgoedd. Yn fwy diweddar, dysgodd Guy Myddelton i reidio ei feic yn yr ystafell hon.

Cadwch lygad am Y Beibl Bach a Beibl 1588. Disgwyliwch weld rhai casgliadau arwyddocaol yma hefyd, gan gynnwys Cist Shagreen a Chabinet y Brenin, cabinet Fflandrys o'r 17fed Ganrif a gyflwynwyd yn rhodd i'r ail Thomas Myddelton gan Siarl II yn ddiolch am ei gefnogaeth.

Ystafell Wely’r Brenin

Yn ystod y Rhyfel Cartref, ar nosweithiau 22 a 28 Medi, 1645, cysgodd y Brenin Siarl I yng Nghastell y Waun, ac er nad ydym yn siŵr ym mha siambr y cysgodd, gelwir yr ystafell hon yn draddodiadol yn 'Ystafell Wely'r Brenin'.

Gwnaed llawer o newidiadau i’r ystafell a’r ystafell wisgo sydd ynghlwm yn ystod y tair canrif a hanner nesaf, ond cafodd y gwaith addurno fel y mae heddiw ei wneud i adlewyrchu’r dystiolaeth y daethpwyd o hyd iddi mewn cofnodion o’r 19eg ganrif oedd yn cynnwys manylion am ymddangosiad a chynnwys yr ystafell.

Ni chysgodd y Brenin Siarl I yn yr ystafell hon ond mae'n coffáu'r ffaith ei fod wedi aros yng Nghastell y Waun.

Neuadd y Gweision sy’n cynnwys bwrdd wedi ei wneud o un darn parhaus o dderw, yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Neuadd y Gweision yng Nghastell y Waun, Wrecsam | © National Trust Images/Paul Highnam

Neuadd y Gweision

Adeiladwyd yr ystafell hon yn 1529 wrth ymyl yr hen Fragdy fel y Neuadd Fwyta (a oedd yn sefyll lle mae'r toiledau cyhoeddus wedi'u lleoli bellach), ond ar ôl i Syr Thomas Myddelton brynu'r castell yn 1595, roedd ei gynlluniau'n cynnwys Neuadd Fwyta newydd fel rhan o’r Adain Ogleddol.

Ar yr adeg honno, rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r ystafell hon fel Neuadd Fwyta a daeth yn weithdy plymer, ond ym 1762, newidiodd ei defnydd eto pan ddaeth yn Neuadd y Gweision a welwn heddiw.

Mae'r bwrdd neuadd y gweision prin hwn o'r 17eg ganrif wedi'i wneud o un darn o dderw 17 troedfedd o hyd. Byddai'r ystafell wedi eistedd hyd at 40 o weision ar yr un pryd. Cadwch lygad am y portread prin hyd a maint llawn o’r gwas John Wilton, sydd wedi bod yn destun gwaith ymchwil a chadwraeth. Gallwch ddarllen mwy amdano yma.

Y Capel

Pan adeiladwyd Castell y Waun gyntaf, tybiwyd y byddai'r Capel wedi bod yn un o dyrau cornel yr Adain Ddwyreiniol, ond ar ôl cwymp ymddangosiadol rhan fwyaf deheuol y castell, a allai fod wedi digwydd tua 1305, mae'n debyg iddo gael ei symud i'r safle hwn.

Arferai'r safle presennol gynnwys addurniadau pren cyfoethog, allor, organ fawreddog, pulpud ac eisteddleoedd, ond diflannodd y nodweddion hyn i raddau helaeth yn y 18fed ganrif, ac o hynny ymlaen cafodd y Capel ei esgeuluso nes i newidiadau ffres ddigwydd yn y 19eg Ganrif.

Mae rhywfaint o gasgliad Howard de Walden i'w weld yma. Caiff ymwelwyr edrych ar yr atgynhyrchiad o'r llyfr gwesteion a chopïau o lythyrau a anfonwyd at deulu Howard de Walden gan artistiaid ac uchelwyr y cyfnod.

Tŵr Adam

Rydym yn argymell bod eich ymweld â Thŵr Adam cyn dim arall, tŵr canoloesol lle gwelir arwyddion o orffennol canoloesol y castell. Ewch i chwilio am y gwardrobod canoloesol (toiledau i chi a fi) a thyllau llofruddio, a mentro i lawr i'r daeargelloedd dwy lefel... os ydych chi'n ddigon dewr!

Ceginau

Mae'r rhan hon o'r castell wedi bod yn gysylltiedig â choginio ers cannoedd o flynyddoedd.

Y 'Tŵr Distyllio' (yr ardal eistedd ychwanegol gylchol yng nghefn y bwyty) oedd y man ble roedd y cyffeithiau’n cael eu paratoi a’u storio’n ofalus ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol.

Dechreuodd cynlluniau Thomas Myddelton ar gyfer yr Adain Ogleddol newydd ym 1595 ac roedd yn cynnwys cegin ddomestig fodern iawn, wedi’i lleoli’n ofalus i wasanaethu’r Ystafell Fwyta Swyddogol a oedd union uwchben, a chyda phopeth y byddai cogydd ei angen i fwydo'r teulu a'u gweision.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gadawodd y rhan fwyaf o staff y castell – aeth llawer ohonynt i weithio i’r Ffatri Arfau ym Marchwiel. Caeodd y ceginau, a chreodd y teulu gegin fach yn yr Adain Ddwyreiniol.

Pan agorodd Teulu Myddelton y castell i'r cyhoedd ym 1951, defnyddiwyd ardaloedd y gegin fel yr Ystafelloedd Te i ymwelwyr... Maent yn dal i gael eu defnyddio i’r diben hwn, gan barhau â’r traddodiad o baratoi a gweini bwyd yn yr ardal hon ers dros 500 mlynedd!

Dysgwch fwy

Y tu mewn i Gastell y Waun

Mae y tu mewn i Gastell y Waun yn foethus a chasgliad hardd ac eclectig.

Yr Oriel Hir yng Nghastell y Waun gyda phortreadau ar y waliau a'r cypyrddau ger y waliau
Yr Oriel Hir yng Nghastell y Waun | © National Trust Images/Paul Highnam

Yr Oriel Hir yng Nghastell y Waun

Yr Oriel Hir yng Nghastell y Waun gyda phortreadau ar y waliau a'r cypyrddau ger y waliau

1 of 4

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cornel ogledd orllewinol Castell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell y Waun 

Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Golwg y tu mewn i Gabinet y Waun, a wnaed o eboni â phatrymau o gragen crwban wedi eu gosod ynddo, y tu mewn iddo mae mowntiau arian gyda phaentiadau olew ar gopr a wnaeth tua 1640-50, a welir yng Nghastell y Waun.
Erthygl
Erthygl

Casgliad Castell y Waun 

Wrth fyw mewn castell am 400 mlynedd mae teulu’n crynhoi casgliad amrywiol o gelfyddyd, dodrefn ac eitemau difyr. Dyma rai o’r trysorau yng nghasgliad Castell y Waun.

Golygfa o’r castell yn y gwanwyn yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun 

Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.

Ymwelwyr yn mynd â’u ci am dro yn y parcdir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld ag ystâd Castell y Waun 

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.