Y Grisiau Mawr: Gofalu am y nenfwd

Neidio i
Mae'r Grisiau Mawreddog wedi’u dylunio yn yr arddull 'Neo-Glasurol'. Mae eu siâp lled-gylchol anarferol i’w briodoli i siâp y tŵr canoloesol y maent wedi’u lleoli ynddo. Er mwyn diogelu’r gofod unigryw hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, rydym wedi codi sgaffaldiau fel y gall tîm arbenigol archwilio’r nenfwd yn fwy manwl.
Beth yw'r prosiect?
Nod y prosiect hwn yn ein helpu i ofalu am nenfwd gwerthfawr Castell y Waun. Bydd yn galluogi tîm cadwraeth arbenigol i archwilio’r nenfwd yn ardal y Grisiau Mawr yn ofalus ac yn ddiogel i bennu ei gyflwr, adnabod unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol, a chwblhau’r gwaith.
Beth mae’r prosiect yn ceisio ei wneud?
Mae tîm arbenigol yn archwilio nenfwd y Grisiau Mawr.
Mae sgaffaldau a phlatfform wedi cael eu gosod fel y gallwn archwilio gwaith plastr bregus y nenfwd yn fanylach. Bydd hyn yn ein galluogi i adolygu ei gyflwr ac adnabod a chwblhau unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol.
Bydd hyn hefyd yn ein helpu i sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau’r nenfydau yma hefyd.
Mae diogelu ecoleg yr adeilad hefyd yn flaenoriaeth, ac mae’r tîm wedi cynllunio’r gwaith yn ofalus er mwyn diogelu'r ystlumod sy’n byw yma.
Mae eitemau casgliad sy’n cael eu cadw ar y Grisiau Mawr hefyd wedi cael eu symud, neu eu cau i mewn pan nad oedd eu symud yn bosibl, i’w hamddiffyn rhag unrhyw ddifrod posibl.
Pryd fydd hyn yn digwydd?
Bydd gwaith i archwilio cyflwr y nenfwd ac adnabod unrhyw waith angenrheidiol yn digwydd drwy gydol 2026.
Bydd angen i’r prosiect fod yn hyblyg, yn dibynnu ar beth ddown ni o hyd iddo. O ganlyniad, nid oes modd rhoi dyddiad cwblhau terfynol.
Pryd fydd hyn yn digwydd?
Bydd gwaith i archwilio cyflwr y nenfwd ac adnabod unrhyw waith angenrheidiol yn digwydd drwy gydol 2026.
Bydd angen i’r prosiect fod yn hyblyg, yn dibynnu ar beth ddown ni o hyd iddo. O ganlyniad, nid oes modd rhoi dyddiad cwblhau terfynol.
A fydd y gwaith hwn yn effeithio ar fy ymweliad ag ystafelloedd gwladol y castell?
Ein nod yw cadw'r lle arbennig hwn ar agor i bawb ei fwynhau, a rhannu mwy am y gwaith sy’n digwydd i’r adeilad hanesyddol hwn lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Yn ystod y gwaith byddwch yn gallu dilyn y llwybr arferol drwy ystafelloedd gwladol y castell, gan ddechrau yn Neuadd Cromwell. Fodd bynnag, b ydd sgaffaldau yn amgylchynnu’r Grisiau Mawr ac ardal pen y grisiau i raddau helaeth. Ni fydd gweddill yr ystafelloedd gwladol yn cael eu heffeithio.
Wrth i'r prosiect fynd rhagddo, byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda’r holl newyddion diweddaraf felly cofiwch alw eto i ddysgu mwy.
Diolch am eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth wrth inni ymgymryd â’r gwaith cadwraeth pwysig hwn. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni eleni i ddysgu mwy am sut yr ydym yn gofalu am y lle arbennig hwn.
Mae pob ymweliad, rhodd ac aelodaeth yn helpu i ddiogelu a gofalu am yr adeilad hanesyddol hwn fel y gall y genhedlaeth nesaf ei fwynhau.
Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram i ddilyn newyddion diweddaraf y prosiect @ChirkCastleNT